Ymgeisio am dai cymdeithasol

Mae Sir Ddinbych yn gweithredu gwasanaeth un llwybr mynediad at dai, sy’n golygu mai dim ond un cais y bydd rhaid i ymgeiswyr ei wneud i fynd ar y Gofrestr Dai yn hytrach nag un i bob darparwr tai.

Caiff Un Llwybr Mynediad at Dai ei rannu gan yr holl ddarparwyr tai cymdeithasol yn Sir Ddinbych, gan gynnwys:

  • Cyngor Sir Ddinbych
  • Tai Sir Ddinbych
  • Grŵp Cynefin
  • Clwyd Alyn
  • Tai Gogledd Cymru
  • Tai Cymru a'r Gorllewin
  • ADRA
  • Cartrefi Conwy

Datrysiadau Tai Sir Ddinbych

Datrysiadau Tai yw tîm Cofrestru Tai Sir Ddinbych. Byddan nhw’n asesu eich angen o ran tai yn dibynnu ar eich sefyllfaoedd, ac yn blaenoriaethu eich angen o ran tai yn ôl un o'r pedwar band.

Os nad oes angen o ran tai wedi'i gydnabod gennych yn y cynllun bandio, gall y Tîm Cofrestru Tai gynnig cyngor i chi sy'n ymwneud ag ystod eang o opsiynau tai fforddiadwy, gan gynnwys tai cymdeithasol, llety rhent preifat, perchentyaeth a dewisiadau amgen eraill sydd ar gael yn Sir Ddinbych.

Pwy all wneud cais?

Gall unrhyw un wneud cais am dai cymdeithasol, ond os nad oes gennych chi angen cydnabyddedig am dai dan ein cynllun bandio, ni fyddwch yn cael eich cynnwys ar y Gofrestr Tai SARTH. Ond, byddwn yn trafod dewisiadau tai eraill sydd ar gael i chi.

Sut i wneud cais?

I wneud cais ar gyfer cofrestr Sir Ddinbych, neu i gael rhagor o wybodaeth am eich dewisiadau tai yn Sir Ddinbych, bydd angen i chi gysylltu â ni:

Ffoniwch ni: 01824 712911

Pan fyddwch chi'n cysylltu â ni i wneud cais ar gyfer Cofrestr Tai SARTH, bydd angen i chi ddarparu:

  • Manylion yr holl unigolion yn eich aelwyd a fydd yn symud gan gynnwys; yr holl ddyddiadau geni a rhifau Yswiriant Cenedlaethol unrhyw un dros 16 oed.
  • Yr holl fanylion cyswllt ar eich cyfer chi, a'ch partner (os yn berthnasol) gan gynnwys; rhif ffôn cartref, rhif ffôn symudol a chyfeiriad e-bost.
  • Manylion eich eiddo presennol e.e. Enw, cyfeiriad a rhif ffôn cyswllt eich landlord; neu fanylion eich darparwr morgais ac amcangyfrif o'r gwerth presennol.
  • Manylion unrhyw incwm/budd-daliadau yr ydych yn eu derbyn gan gynnwys dyddiad dechrau a'r swm.
  • Manylion unrhyw feddyginiaethau sy'n berthnasol i'ch cais i symud.

Byddwn yn cymryd y camau canlynol:

Cam 1

Gyda’r wybodaeth y byddwch yn ei darparu, byddwn yn penderfynu a allwn eich ychwanegu at y Gofrestr Tai SARTH a blaenoriaethu eich anghenion tai yn un o'r bandiau canlynol:*

Band 1: Angen brys am dŷ - Cysylltiad lleol
  • Pobl gydag angen brys sy’n feddygol neu’n ymwneud â lles neu anabledd
  • Pobl sydd angen symud i eiddo wedi’i addasu ar frys
  • Rhywun sy’n gadael y lluoedd arfog ac yn colli cartref milwrol ac sydd heb lety sefydlog o fewn 12 mis o adael
  • Unigolyn ifanc yn gadael y system ofal neu mewn perygl o fynd i mewn i’r system ofal
  • Tenant cyfredol sydd yn tan feddiannu o un neu fwy o ystafelloedd gwely ac sy’n dioddef caledi ariannol oherwydd diwygio'r gyfundrefn les
  • Tenant presennol sydd ag eiddo wedi’i addasu nad oes ei angen arno/arni bellach.
  • Rhywun sy’n ddigartref ac yn dianc rhag trais neu fygythiad o drais o dan ddyletswydd digartrefedd llawn a therfynol (dim angen cysylltiad lleol)
  • Pobl sydd yn byw mewn tai â chymorth achrededig lle gallant gynnal tenantiaeth yn annibynnol
  • Achosion eithriadol eraill o angen brys nad yw’n cael ei gynnwys mewn man arall
Band 2: Mewn angen am dŷ - Cysylltiad lleol
  • Unigolion sy’n ddigartref neu sydd mewn peryg o ddod yn ddigartref
  • Pobl sy’n byw mewn amodau anfoddhaol a thai gorlawn
  • Pobl sy’n byw mewn eiddo â diffyg cyfleusterau hanfodol e.e. toiled
  • Pobl gydag angen brys sy’n feddygol neu’n ymwneud â lles neu anabledd os:
    • Oes yn rhaid ailgartrefu er mwyn gwella iechyd yn sylweddol
    • Yw materion yn ymwneud â mynediad yn cael effaith negyddol ar les
    • Yw ail-gartrefu rhywun sydd ag anghenion gofal cymdeithasol nad ydynt yn cael eu bodloni yn gwella gofal yn sylweddol
  • Pobl sy’n dioddef o galedi oherwydd eu tai e.e. rhywun sydd angen symud i dderbyn cefnogaeth hanfodol
  • Gweithwyr amaethyddol wedi colli cartrefi
  • Achosion eithriadol eraill o angen o ran tai nad yw’n cael ei gynnwys mewn man arall
Band 3: Mewn angen am dŷ - Dim cysylltiad lleol
  • Pobl gydag angen brys sy’n feddygol neu’n ymwneud â lles neu anabledd
  • Pobl sydd angen symud i eiddo wedi’i addasu ar frys
  • Rhywun sy’n gadael y lluoedd arfog ac yn colli cartref milwrol ac sydd heb lety sefydlog o fewn 12 mis diwethaf
  • Unigolyn ifanc yn gadael y system ofal neu mewn perygl o fynd i mewn i’r system ofal
  • Achosion eithriadol eraill o angen brys nad yw’n cael ei gynnwys mewn man arall
Band 4: Mewn angen am dŷ - Dim cysylltiad lleol
  • Unigolion sy'n ddigartref neu sydd mewn peryg o ddod yn ddigartref
  • Pobl sy'n byw mewn amodau anfoddhaol a thai gorlawn
  • Pobl sy'n byw mewn eiddo â diffyg cyfleusterau hanfodol e.e. toiled
  • Pobl gydag angen brys sy’n feddygol neu’n ymwneud â lles neu anabledd os:
    • Oes yn rhaid ailgartrefu er mwyn gwella iechyd yn sylweddol
    • Yw materion yn ymwneud â mynediad yn cael effaith negyddol ar les unigolyn
    • Yw ail-gartrefu rhywun sydd ag anghenion gofal cymdeithasol nad ydynt yn cael eu bodloni yn gwella gofal yn sylweddol
  • Pobl sy'n dioddef o galedi oherwydd eu tai e.e. rhywun sydd angen symud i dderbyn cefnogaeth hanfodol
  • Gweithwyr amaethyddol wedi colli cartrefi
  • Achosion eithriadol eraill o angen o ran tai nad yw’n cael ei gynnwys mewn man arall
  • Rhoddir blaenoriaeth is pan fydd ymddygiad unigolyn yn effeithio eu haddasrwydd i fod yn denantiaid
  • Adnoddau ariannol digonol i fodloni anghenion eu hunain o ran tai
  • Wedi gwaethygu eu hangen o ran tai eu hunain ar bwrpas

*Mae'r cynllun bandio hwn ar gyfer arweiniad yn unig; bydd pob ymgeisydd yn cael ei asesu’n fanwl gan ein tîm tai arbenigol yn ystod y broses ymgeisio.

Cam 2

Os ydych yn bodloni'r meini prawf ac yn dymuno gwneud cais i ymuno â Chofrestr Tai SARTH, yna bydd eich cais yn cael ei gymryd dros y ffôn. Os ydych angen darparu tystiolaeth neu os oes angen asesiad arbenigol pellach o'ch anghenion tai yna bydd hyn yn cael ei drafod gyda chi cyn i chi wneud cais. Pan fyddwch wedi’ch ychwanegu at y Gofrestr Tai SARTH, byddwn yn rhoi gwybod i chi pan ddaw eiddo ar gael.

Os na fyddwch yn bodloni’r meini prawf i gael eich cynnwys ar y Gofrestr Tai SARTH, byddwn yn rhoi cyngor i chi ac yn trafod opsiynau tai amgen a allai fod ar gael i chi. Bydd y rhain yn cynnwys llety rhent canolradd, llety rhent preifat a dewisiadau perchentyaeth yn y sir.

Cam 3

Os ydych yn cael cynnig eiddo, mae’n rhaid i chi fod yn barod i symud cyn gynted ag y byddwch yn cael cynnig tŷ. Bydd ymgeiswyr sy'n gwrthod dau gynnig rhesymol, heb reswm da, yn cael eu tynnu oddi ar y Gofrestr Tai.

Pa mor hir fydd hyn yn ei gymryd?

Cofiwch bod y galw am dai cymdeithasol yn uchel iawn, ac mae’r nifer sy’n gwneud cais am ac yn aros am gartref yn llawer uwch na nifer yr eiddo sy’n dod yn wag bob blwyddyn. Gall bob cais amrywio yn dibynnu ar yr angen a nodwyd am dŷ.