Adolygiad gostyngiad person sengl

Rydym yn adolygu’r gostyngiadau i bobl sengl sy’n weithredol ar hyn o bryd ar gyfrifon treth y cyngor ar hyd a lled Sir Ddinbych. 

Caiff yr adolygiad ei gynnal ar ein rhan gan Dîm Adolygu Incwm a Thaliadau a bydd yn sicrhau fod deiliaid cyfrifon yn parhau i fod â’r hawl i ostyngiad.

Llythyrau adolygu

Bydd llythyrau adolygu yn cael eu hanfon i ddeiliaid cyfrifon treth y cyngor sydd ar hyn o bryd yn derbyn gostyngiad person sengl yn gofyn iddynt gadarnhau p’un ai a oes ganddynt yr hawl i ostyngiad o hyd. Bydd y llythyr hefyd yn cynnwys rhif PIN unigryw i’w ddefnyddio pan fyddant yn anfon neges destun gyda’u hymateb neu i’w ddefnyddio gyda’r ffurflen Adolygu Gostyngiad Person Sengl ar-lein.

Os na fyddwch yn ymateb i’r llythyr adolygu o fewn 14 diwrnod, fe fyddwn yn tynnu’r gostyngiad o’ch cyfrif ac yn cyflwyno bil newydd.

Sut i gadarnhau eich manylion

Gallwch gadarnhau os ydych yn parhau â’r hawl i ostyngiad person sengl drwy un o’r dulliau canlynol:

Dim ond un dull sydd angen i chi ei ddefnyddio i gadarnhau eich manylion.

Cadarnhau drwy neges destun

Fe fyddwch angen eich rhif PIN unigryw i gadarnhau drwy neges destun. Gallwch ddod o hyd i’r rhif PIN hwn ar y llythyr adolygu a anfonwyd atoch chi.

Os mai chi yw’r unig oedolyn sy’n byw yn yr eiddo o hyd, fe fydd angen i chi anfon neges destun yn cynnwys 'eich rhif PIN unigryw' ac 'Ie’ i 07975 005001.

Os nad ydych chi yr unig oedolyn sy’n byw yn yr eiddo bellach neu eich bod wedi gadael yr eiddo, fe fydd angen i chi anfon neges destun yn cynnwys 'eich rhif PIN unigryw' a 'Na’ i 07975 005001.

Y ffurflen Adolygu Gostyngiad Person Sengl ar-lein

Fe fydd angen i chi roi eich rhif PIN unigryw i gael at y ffurflen Adolygu Gostyngiad Person Sengl ar-lein. Gallwch ddod o hyd i’r rhif PIN hwn ar y llythyr adolygu a anfonwyd atoch.

Ffurflen Adolygu Gostyngiad Person Sengl ar-lein (gwefan allanol)

Cwblhau’r ffurflen ar gefn y llythyr adolygu

Gallwch lenwi’r ffurflen ar gefn y llythyr adolygu a’i dychwelyd o fewn 14 diwrnod i’r cyfeiriad hwn:

Income and Awards Review
Department S4D
Loughborough Road
Nottingham
NG2 7QP

Peidiwch â dychwelyd y ffurflen hon at Gyngor Sir Ddinbych.

Mwy o wybodaeth

Wrth gadarnhau p’un ai a ydych yn parhau i fod â’r hawl i ostyngiad person sengl fe ddylech fod yn ymwybodol:

  • fod yn rhaid i chi ddweud wrthym os yw eich amgylchiadau’n newid (mae hyn yn cynnwys dweud wrthym am unrhyw bobl eraill sy’n byw yn y cyfeiriad hwn)
  • gallwn roi dirwy o £70 os ydych:
    • yn methu darparu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani
    • yn darparu gwybodaeth ffug

Beth i’w wneud os ydych yn colli eich llythyr adolygu

Os ydych yn colli’r llythyr adolygu sy’n cynnwys eich rhif PIN unigryw, gallwch gysylltu â ni a gofyn i ni anfon copi o’r llythyr, neu gallwn anfon eich rhif PIN unigryw i chi.