Gwneud cais am esemptiad treth y cyngor dosbarth E arlein

Beth sy'n digwydd i fy ngwybodaeth?

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn casglu eich gwybodaeth bersonol er mwyn darparu gwasanaethau sydd yn berthnasol i’ch cais.

Darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd arlein i gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut rydym ni’n trin eich gwybodaeth bersonol.

  • Eithriad Dosbarth E

    Mae'r eithriad hwn yn cael ei ddyfarnu pan fydd eiddo’n cael ei adael yn wag, a phan fo'r unigolyn (neu'r unigolion) sy'n gyfrifol am y dreth cyngor yn byw’n barhaol mewn ysbyty, hostel neu gartref nyrsio/gofal.

    Ni chaiff yr eithriad ei ddyfarnu pan fydd unigolyn yn aros dros dro mewn ysbyty neu gartref gofal.

    Gostyngiadau ac eithriadau cysylltiedig

    Os yw oedolyn yn byw mewn eiddo ar eu pen eu hunain wedi i unigolyn arall symud yn barhaol i ysbyty, hostel neu gartref nyrsio/gofal, gellir dyfarnu gostyngiad. Cwblhewch ffurflen gais Trigolion Parhaol mewn cartrefi gofal neu ysbytai er mwyn hawlio’r gostyngiad hwn.

    Ffurflen gais am parhaol preswylwyr mewn ysbytai neu gartrefi gofal (PDF, 162KB)