Cais arlein am esemptiad dosbarth N neu eithrio myfyrwyr

Beth sy'n digwydd i fy ngwybodaeth?

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn casglu eich gwybodaeth bersonol er mwyn darparu gwasanaethau sydd yn berthnasol i’ch cais.

Darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd arlein i gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut rydym ni’n trin eich gwybodaeth bersonol.

  • Gellir dyfarnu eithriad i eiddo os yw’r holl oedolion sy’n byw yno yn fyfyrwyr llawn amser.

    Mae gostyngiad yn cael ei ddyfarnu os bydd yna un (neu fwy) o fyfyrwyr llawn amser ac oedolion eraill (nad ydynt yn fyfyrwyr) yn byw yn yr eiddo.

    Mae myfyrwyr yn cael eu hystyried fel pobl sy’n dilyn cwrs addysg llawn amser mewn prifysgol, coleg addysg uwch neu goleg addysg bellach.

    Mae cwrs llawn amser yn cael ei ystyried fel cwrs sy’n para am o leiaf un flwyddyn academaidd ac mae’n rhaid i'r unigolyn fynychu o leiaf 24 wythnos a chyfnodau o astudio dim llai na 21 awr yr wythnos.

    Byddwch angen darparu tystysgrif gan y brifysgol, coleg addysg uwch neu goleg addysg bellach yn cadarnhau manylion y cwrs.

    Bydd angen cyflwyno ffurflen gais ar gyfer pob myfyriwr llawn amser.

    Dewiswch ‘Nesaf’ i ddechrau cais ar gyfer diystyru neu eithrio myfyriwr.