Mewngofnodi neu gofrestru eich cyfrif treth y cyngor

Gallwch gadw golwg ar eich treth y cyngor a gwneud newidiadau gyda chyfrif ar-lein. Mae cofrestru yn gyflym ac yn hawdd.

Mewngofnodwch neu cofrestrwch eich cyfrif

Gyda chyfrif ar-lein, gallwch:

Weld eich manylion ar-lein

Cael gwybod pryd fydd eich taliadau a faint fyddant.

Cofrestru ar gyfer biliau di-bapur

Gallwch gofrestru ar gyfer biliau di-bapur gan olygu y bydd eich biliau Treth y Cyngor yn cael eu hanfon atoch ar e-bost yn hytrach na thrwy’r post.

Os bydd eich cyfeiriad ebost yn newid ar unrhyw adeg yn y dyfodol, rhaid i chi hysbysu’r Adran Dreth Gyngor ar unwaith.

Gwybodaeth personél

Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn defnyddio’r cyfeiriad ebost a roddwch i ddibenion anfon fersiwn electronig eich bil Treth Gyngor neu fil Ardrethi Annomestig Cenedlaethol atoch. Ni chaiff eich gwybodaeth bersonol ei gwerthu na’i rhannu gyda thrydydd partïon ac ni chaiff ei defnyddio i unrhyw bwrpas ac eithrio dan Orchymyn y Dreth Gyngor ac Ardrethu Annomestig (Cyfathrebiadau Electronig) (Cymru) 2009. 

Gwneud trefniant talu

Sefydlu cynllun talu i dalu eich treth y cyngor.

Cofrestru ar gyfer Debyd Uniongyrchol

Mae talu trwy Ddebyd Uniongyrchol yn ddiogel ac yn hawdd - trefnwch Ddebyd Uniongyrchol ar-lein i dalu eich treth y cyngor.

Rhoi gwybod am newid cyfeiriad ar-lein

Rhoi gwybod i ni os ydych yn symud i mewn neu allan o eiddo yn Sir Ddinbych.

Cael gwybod faint yw treth y cyngor mewn eiddo

Cael gwybod beth yw band eiddo a faint o dreth y cyngor fyddai'n daladwy.

Gwneud cais am Ostyngiad Person Sengl

Gallwch wneud cais ar-lein am 25% o ostyngiad os mai chi yw'r unig oedolyn sy'n byw yn eich prif fan preswylio.

Sgwrsio gydag ymgynghorydd

Sgwrsio gydag ymgynghorydd ar-lein. Dydd Llun i ddydd Iau: 9am tan 5pm. Dydd Gwener: 9:00am tan 4.30pm.