Ceisiadau trwyddedau eiddo
Rydym yn cyhoeddi manylion ceisiadau ar gyfer dyfarnu neu amrywio trwyddedau eiddo neu drwyddedau eiddo clwb sy’n cael eu hystyried ar hyn o bryd. Mae’r rhestr hon yn cael ei diweddaru yn wythnosol.
Ceisiadau a dderbyniwyd rhwng 13 a 17 Gorffennaf 2026
Lido Beach Holiday Park
Bastion Road
Prestatyn
LL19 7EU
- Math o drwydded: Adeilad
- Amrywiad neu grant: Grant
- Dyddiad y daeth i law: Dydd Mercher 15 Gorffennaf 2026
- Rhifau trwydded: Amherthnasol
- Oriau gweithredu:
- Dydd Llun i Dydd Sul: 9am tan 1am
- Lluniaeth hwyr y nos: 11pm tan 1am
- Gweithgareddau’r drwydded: Cerddoriaeth fyw, cerddoriaeth wedi'i recordio, darparu lluniaeth hwyr y nos, cyflenwi alcohol
- Dyddiad olaf ar gyfer sylwadau perthnasol: Dydd Mawrth 11 Awst 2026
Ceisiadau a dderbyniwyd rhwng 6 a 10 Gorffennaf 2026
Uncle Sam’s American Circus
Circus Showground
Cwybr Fawr
Rhuddlan
LL18 2YD
- Math o drwydded: Adeilad
- Amrywiad neu grant: Grant
- Dyddiad y daeth i law: Dydd Llun 6 Gorffennaf 2026
- Rhifau trwydded: Amherthnasol
- Oriau gweithredu:
- Dydd Llun, Dydd Mawrth, Dydd Iau a Dydd Gwener: 5pm tan 6:30pm a 7:15pm tan 8:45pm
- Dydd Sadwrn: 2pm tan 3:30pm a 6pm tan 7:30pm
- Dydd Sul: 1:30pm tan 3pm a 4:30pm tan 6pm
- Gweithgareddau’r drwydded: Unrhyw beth o ddisgrifiad tebyg i'r hyn sy'n dod o dan gerddoriaeth fyw, cerddoriaeth wedi'i recordio, a pherfformio dawns
- Dyddiad olaf ar gyfer sylwadau perthnasol: Dydd Llun 3 Awst 2026
Ceisiadau a dderbyniwyd rhwng 22 a 26 Mehefin 2026
The Godfather
28 Queen Street
y Rhyl
LL18 1RY
- Math o drwydded: Adeilad
- Amrywiad neu grant: Amrywiad
- Dyddiad y daeth i law: Dydd Iau 25 Mehefin 2026
- Rhifau trwydded: PLNA1003
- Rheswm dros amrywiad: Yr amrywiad yn syml yw newid i'r amseroedd gweithio a lluniaeth hwyr y nos.
- Oriau gweithredu: Dydd Llyn i Dydd Sadwrn newid o 3:30am i 4am, Dydd Sul newid o 2:30am i 4am
- Gweithgareddau’r drwydded: Lluniaeth hwyr y nos
- Dyddiad olaf ar gyfer sylwadau perthnasol: Dydd Iau 23 Gorffennaf 2026
Sylwadau
Os oes gennych bryder y bydd cais am drwydded eiddo yn cael effaith negyddol arnoch chi neu’ch teulu, gallwch ei wrthwynebu trwy gyflwyno sylwadau i’r cyngor. Mae hyn yn berthnasol i geisiadau newydd am drwydded ac am drwyddedau i amrywio (newid) trwyddedau presennol
Sut ydw i'n gwneud sylwadau?
Gallwch naill ai wneud trefniadau fel unigolyn neu fel grŵp. Dim ond ynglŷn â sut y bydd y cais yn effeithio arnoch chi neu eich grŵp y mae modd cyflwyno sylwadau a hynny o dan bedwar prif nod y Ddeddf Drwyddedu 2003, sef:
- atal trosedd ac anrhefn
- atal niwsans cyhoeddus
- diogelwch y cyhoedd
- diogelu plant rhag niwed
Golyga hyn y gallwch wrthwynebu unrhyw drwydded sy’n cael ei rhoi, ofyn i amseroedd gael eu newid neu i amodau gael eu hychwanegu, cyhyd ag y gellir cysylltu eich sylwadau ag un o bedwar nod y Ddeddf.
I gyflwyno sylwadau, ysgrifennwch lythyr atom yn cynnwys eich manylion, manylion yr eiddo dan sylw, manylion ynglŷn â’ch gwrthwynebiad, ac unrhyw amodau yr ydych chi yn eu hawgrymu a allai liniaru eich pryderon pe byddent yn cael eu gweithredu. Anfonwch y llythyr at:
Trwyddedu
Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad
Cyngor Sir Ddinbych
Blwch Post 62
Rhuthun
LL15 9AZ
Gallwch hefyd anfon eich sylwadau ar e-bost at trwyddedu@sirddinbych.gov.uk. Os ydych yn ein e-bostio, gwnewch yn siŵr bod eich sylwadau yn cynnwys eich llofnod wedi ei sganio.
Deddf Trwyddedu 2003 - Ffurflen Sylwadau (PDF, 182KB)
Er mwyn i’ch sylwadau gael eu hystyried, mae’n rhaid i ni eu derbyn erbyn y dyddiad cau a ddangosir ar y rhestr o geisiadau cyfredol.