Rhybudd o ddigwyddiad dros dro

Mae’n rhaid i chi ymgeisio am rybudd o ddigwyddiad dros dro (TEN) os oes arnoch chi eisiau cynnal digwyddiad arbennig, fel cyngerdd neu barti stryd, lle byddwch chi’n: 

Mae’n rhaid i chi ymgeisio am rybudd o ddigwyddiad dros dro o leiaf 10 diwrnod gwaith cyn y digwyddiad.

Mae’n bosib ymgeisio am rybudd o ddigwyddiad dros dro 5 diwrnod gwaith cyn y digwyddiad, ond ni fydd modd i chi apelio os yw eich cais yn cael ei wrthod.

Y dyddiad y cyflwynir y cais ac nid yw dyddiad y digwyddiad wedi'i gynnwys yn y 10/5 diwrnod gwaith

Mae’n rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn i wneud cais am rybudd o ddigwyddiad dros dro.

Sut ydw i’n gwneud cais?

Gallwch chi wneud cais am rybudd o ddigwyddiad dros dro ar-lein.

Gwneud cais am rybudd o ddigwyddiad dros dro ar-lein (gwefan allanol)

Faint mae’n costio?

Mae’n costio £21 i ymgeisio am rybudd o ddigwyddiad dros dro.

Pan fyddwch chi’n ymgeisio ar-lein byddwch yn talu ar-lein yn defnyddio’ch cerdyn debyd neu gredyd.

Dogfennau cysylltiedig

Legislation.gov.uk: The Alcohol Licensing (Coronavirus) (Regulatory Easements) (Amendment) Regulations 2021 (gwefan allanol)