Ffrwydron a thân gwyllt

Mae angen i chi wneud cais am drwydded os ydych yn bwriadu storio ffrwydron. Mae hyn yn cynnwys tân gwyllt, ffaglau a dyfeisiau diogelwch môr, ffrwydron ar gyfer mân arfau, ffiwsiau, paratowyr ffrwydron a ffrwydron wedi'u disensiteiddio.

Ffrwydron

Mae storio unrhyw ffrwydron yn cael ei reoli gan Reoliadau Ffrwydron 2014 a bydd angen i unrhyw unigolyn sy’n storio ffrwydron feddu ar drwydded. Rydym yn gyfrifol am drwyddedu pobl sy’n storio hyd at 2000kg o ffrwydron ar safle yn Sir Ddinbych.

Os ydych am storio mwy na 2 dunnell (pwysau net) o ffrwydron, rhaid i chi wneud cais i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (gwefan allanol) am drwydded

Rhaid i chi gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru (gwefan allanol) os ydych yn bwriadu storio'r canlynol;

  • bwledi a chetris
  • powdr di-fwg neu gaps taro
  • ffrwydron sy’n cael eu storio gan unigolyn sydd wedi ei gofrestru fel deliwr arfau tanio dan adran 33 Deddf Arfau Tân 1968

Tân gwyllt

Gallwch ganfod a oes angen trwydded arnoch i storio neu werthu tân gwyllt ar wefan Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (gwefan allanol).

Gwerthu Tân Gwyllt

  • Ni chaniateir pedlera, gwerthu na dangos tân gwyllt i’w gwerthu ar stryd neu mewn man cyhoeddus ac ni chaniateir eu gwerthu i unrhyw berson dan 18 oed.
  • Ni ddylid tynnu, dileu na newid enw, cyfeiriad na chyfarwyddiadau diogelwch oddi ar unrhyw dân gwyllt a dderbynnir o ffatri cyn eu gwerthu.
  • Dim ond tân gwyllt sy'n cydymffurfio â BS7114 y dylid eu gwerthu.
  • Mae'n drosedd i rywun dan 18 oed feddu ar dân gwyllt mewn man cyhoeddus.

Mae Rheoliadau Ffrwydron 2014 yn caniatáu gwerthu tân gwyllt yn ystod y cyfnodau canlynol yn unig:

  • 5 Tachwedd – (o 15 Hydref tan 10 Tachwedd)
  • Nos Calan – (o 26 Rhagfyr tan 31 Rhagfyr)
  • Y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd - (ar ddiwrnod cyntaf y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd a’r 3 diwrnod blaenorol)
  • Diwali - (ar ddiwrnod Diwali a’r 3 diwrnod blaenorol)

Sut ydw i’n gwneud cais?

I wneud cais am drwydded i storio ffrwydron, cwblhewch y ffurflen gais hona’i dychwelyd i’r cyfeiriad ar y ffurflen ynghyd â’r ffi briodol.

Ffurflen cais am drwydded storio ffrwydron a thân gwyllt (MS Word, 173KB)

Mae’n rhaid adnewyddu pob trwydded ar 1 Medi pob blwyddyn. Gallwch adnewyddu eich trwydded drwy lenwi ffurflen gais newydd.

Os oes gennych chi drwydded storio ffrwydron yn barod, a bod eich amgylchiadau yn newid, rhowch wybod i ni.

Faint mae’n ei gostio?

Gweld ffioedd ar gyfer trwyddedau ffrwydron a thân gwyllt (gwefan allanol) 

Asesiad risg

Mae’n rhaid cynnal asesiad risg o'r eiddo ac os oes mwy na 5 o weithwyr yna mae’n rhaid iddo fod yn asesiad ysgrifenedig.

Tân gwyllt mewn siopau rhestr wirio asesiad risg ffrwydron (PDF, 262KB)

Mwy o wybodaeth

Mae'n drosedd i wneud y canlynol:

  • cadw ffrwydron ar safleoedd heb eu cofrestru
  • cadw mwy o arfau tân na'r hyn a ganiateir
  • peidio â chadw at y gofynion storio
  • gwerthu tân gwyllt i unrhyw blentyn dan 18 oed
  • gwerthu tân gwyllt ar adegau o'r flwyddyn nad ydynt wedi eu nodi ar eich trwydded

Os cyflawnir trosedd yna gall y llys osod cosb o £5000 neu fwy mewn rhai achosion, ac efallai y bydd hefyd yn rhoi gorchymyn i chi fforffedu’r ffrwydron dan sylw.

Gellir derbyn cosbau llym am droseddau eraill hefyd.

Mae'n rhaid i feddiannydd unrhyw eiddo a gofrestrwyd ddangos i unrhyw swyddog awdurdodedig, ar gais, yr holl ffrwydron ar y safle.

Gallwch gysylltu â ni am fwy o wybodaeth.