Cyngor safonau masnachu

Os ydych yn teimlo eich bod wedi’ch camarwain wrth brynu nwyddau neu wasanaethau ac yn dymuno ein hysbysu amdano, yna cysylltwch â llinell gymorth gwasanaeth defnyddiwr Cyngor ar Bopeth (gwefan allanol).

Cyngor i busnesau

Gallwch gysylltu â ni os hoffech chi gael cyngor am eich busnes ar:

  • Pwysau a mesurau
  • Prisio
  • Credyd defnyddwyr
  • Diogelwch
  • Cynnyrch gyda chyfyngiad oedran
  • Masnachu Teg
  • Ansawdd ac amgylchedd
  • Materion nwyddau ffug a Nodau Masnach
  • Safonau bwyd a labelu

Cysylltwch â safonau masnach

Pecynnau gwybodaeth

I'ch helpu i sicrhau fod eich busnes yn cydymffurfio â safonau masnach, gallwch gwblhau'r cwestiynau isod er mwyn creu pecyn gwybodaeth wedi ei lunio ar gyfer eich diddordebau busnes.

Drwy wirio'r bocsys wrth ymyl y pynciau safonau masnach sydd o ddiddordeb i chi, gallwch ddewis y meysydd mwyaf perthnasol. Bydd y rhain yn cael eu safio'n un ffeil a hynny’n ei gwneud yn hawdd i chi safio neu brintio'r wybodaeth sydd o bwys i chi. Mae'r wybodaeth yn cael ei diweddaru’n rheolaidd gan arbenigwyr y Sefydliad Safonau Masnach.