Anifeiliaid sy'n perfformio

Mae’n rhaid i chi gael trwydded os ydych chi’n arddangos, yn defnyddio neu yn hyfforddi anifeiliaid sy’n perfformio yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

Sut ydw i'n gwneud cais am y drwydded hon?

Y ffordd gyflymaf a rhwyddaf i wneud cais am drwydded anifeiliaid sy’n perfformio yw ar-lein.

Gwneud cais arlein am drwydded anifeiliaid sy'n perfformio (gwefan allanol)

Nid oes angen i chi adnewyddu’ch trwydded ar ôl ei derbyn.

Rhowch wybod i ni os bydd yna newid

Os oes gennych chi drwydded anifeiliaid sy’n perfformio yn barod a bod eich sefyllfa yn newid, rhowch wybod i ni.

Rhowch wybod i ni am newid i'ch trwydded anifeiliaid sy'n perfformio (gwefan allanol)

Faint mae'n costio?

Mae trwydded anifeiliaid sy’n perfformio yn costio £200.

Pan rydych chi’n gwneud cais am eich trwydded ar-lein byddwch yn talu’r ffi ar-lein yn defnyddio’ch cerdyn debyd/credyd.

Trwyddedau anifeiliaid sy'n perfformio presennol yn Sir Ddinbych

  • CJ Falconry (Dinbych)
  • Howl at the Moon (Dyserth)
  • Moel Famau Donkeys (Llanferres)
  • Pen y Bryn Falconry (Corwen)
  • Owl Rescue North Wales (Corwen)