Trwydded symud anifeiliaid

Mae'n rhaid i chi gael trwydded gyffredinol symud anifeiliaid gan Lywodraeth Cymru os ydych am symud anifeiliaid yng Nghymru. Bwriad hyn yw atal lledaenu afiechydon.

Bydd arnoch angen trwydded gyffredinol er mwyn symud gwartheg, defaid, ceirw, geifr neu foch o un lleoliad i un arall. Bydd angen trwydded ychwanegol ar gyfer bob un rhywogaeth yr ydych am eu symud.

Sut ydw i'n gwneud cais am y drwydded?

Gallwch wneud cais am drwydded gyffredinol symud anifeiliaid ar wefan Llywodraeth Cymru (gwefan allanol).

Pan fyddwch yn symud ceirw, defaid a geifr, bydd arnoch angen trwydded symud anifeiliaid ar gyfer pob un math o anifail gwahanol.

EIDCymru yw'r system electronig ar gyfer cofnodi symudiadau defaid a geifr yng Nghymru (gwefan allanol).

Pan fyddwch yn symud moch, bydd yn rhaid i chi roi gwybod eich bod am eu symud cyn eu symud drwy system eAML2 (gwefan allanol).

Pan fyddwch yn symud gwartheg, dylid eu symud gyda’u pasport gwartheg sy’n cael ei darparu gan Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS) (gwefan allanol). Mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r BCMS o fewn 3 diwrnod i'r symudiad ddigwydd.

Unwaith y byddwch wedi symud yr anifeiliaid, yn gyffredinol ni chewch eu symud eto am o leiaf 6 diwrnod (20 diwrnod ar gyfer moch).