Trwyddedau bridio cŵn

Bydd pawb sy'n rhedeg sefydliad bridio cŵn yn gorfod cael eu trwyddedu dan Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) Cymru 2014 (gwefan allanol).

Beth yw'r rheoliadau?

Mae'r rheoliadau yma wedi cyflwyno newidiadau pwysig ar gyfer bridiwr cŵn a ddylai fod yn ymwybodol o :

  • Mae trwydded bridio cŵn rwan yn ofynnol lle mae person yn cadw 3 neu mwy o geist bridio a;
    • bridio 3 neu mwy o dorllwythi
    • hysbysebu 3 neu mwy o dorllwythi y flwyddyn
    • cyflenwi cŵn bach sydd wedi cael ei geni o 3 neu mwy o dorllwythi
    • yn hysbysebu busnes o bridio neu gwerthu cŵn bach
  • Mae'r eiddo trwyddedig yn gorfod cael cymhareb staffio isafswm o leiaf 1 gweinydd llawn amser ar gyfer pob 20 ci oedolyn.
  • Mae'r awdurdod trwyddedig yn gorfod derbyn cynllun cymdeithasoli'r cŵn bach a Cyfoethogi ac cynllun cyfoethogi'r amgylchedd gyda'r ffurflen cais.
  • Mae'r bridiwr yn gorfod darparu manylion yn yr ffurflen cais o'r "nifer rhagwelir o cŵn oedolyn ac cŵn bach sydd ar y safle ar unrhyw un adeg".
  • Cyn allwn arolygu y safle mae rhaid i ni derbyn adroddiad iechyd ysgrifenedig gan eich filfeddyg sy'n datgan fod y gesit bridio a'r cŵn gre yn addas i'w gael ei defnyddio of fewn y sefydliad bridio.

Sut rydw i yn gwneud cais am trwydded?

Mi fyddech angen 4 dogfen gwahanol er mwyn gwneud cais am drwydded bridio cŵn. Mae rhain yn cynnwys:

  1. Ffurflen cais trwyddedau bridio cŵn (PDF, 368KB)
  2. Cynllun cyfoethogi'r amgylchedd (gwefan allanol)
  3. Cynllun cymdeithasoli'r cŵn bach (gwefan allanol)
  4. Adroddiad gan eich Filfeddyg sy'n nodi bod y geist bridio a'r cŵn bridio'n addas i'w defnyddio yn y sefydliad bridio

Mae trwydded bridio cŵn yn ddilys am flwyddyn. Bydd yn rhaid i chi adnewyddu pan ddaw y flwyddyn i ben, drwy gwblhau a chyflwyno ffurflen gais newydd.

Faint mae'n gostio?

Mae trwydded bridio yn costio £250 gyda costau adroddiad filfeddyg yn ychwanegol.

Mi fydd y costau ychwanegol ar gyfer yr adroddiad filfeddyg yn cael ei anfon yn dilyn yr arolygiad.

Os hoffech dalu gyda cerdyn yn ffoniwch 01824 706000 gan ddweud REF DB + eich enw ac cyfeiriad fel y cyfeirnod ar côd talu H21 001 9421

Beth sy'n digwydd ar ôl gwneud cais?

Cyn rhoi trwydded bydd y Cyngor yn archwilio'r lleoliad gyda'n filfeddyg dynodedig i sicrhau y bydd:

  • y cŵn bob amser yn cael eu cadw mewn adeilad addas o ran adeiledd, maint y lle,nifer sydd ynddo, cyfleusterau ymarfer, tymheredd, golau, awyriad a glanweithdra
  • digon o fwyd a diod a deunydd gwely gyda'r cŵn, eu bod yn cael ymarfer rheolaidd a chael ymweliadau cyson
  • rhagofalon priodol yn cael eu cymryd i atal a rheoli lledaeniad clefydau heintus neu gyffwrdd-ymledol ymysg cŵn
  • camau priodol ar gyfer diogelu'r cŵn os bydd tân neu argyfwng arall
  • geist ddim yn cael paru os ydyn nhw'n llai na blwydd oed 
  • geist yn rhoi genedigaeth i ddim mwy na chwe thorllwyth o gŵn bach
  • geist ddim yn rhoi genedigaeth i gŵn bach cyn diwedd y cyfnod o ddeuddeg mis sy'n dechrau ar y diwrnod gawson nhw gŵn bach diwethaf
  • cofnodion cywir fel y rhagnodwyd yn y rheoliadau yn cael eu cadw ar y safle
  • y gymhareb staffio ofynnol yn cael ei chadw 

O fewn yr amser o'r trwydded mi all galwadau cyhoeddiedig neu heb rhybudd yn medru cymryd lle.

Bridwyr cŵn trwyddedig cyfredol yn Sir Ddinbych

Mae bridiwr cŵn trwyddedig ar gyfer rhai mathau o gŵn yn yr ardaloedd canlynol:

Corwen

  • Ci Labrador
  • Dachsund bychain

Llandegla

  • Cocker-poos
  • Sbaengi adara
  • Ci Labrador

Llanrhaeadr 

  • Ci Labrador
  • Sbaengi adara

Prestatyn

  • Dachsund
  • French bull dogs
  • GSD

Rhuthun

  • Beagles
  • Jack Russell’s
  • Ci Labrador
  • Cocker Spaniels
  • Springer Spaniels