Loterïau cymdeithasau bach

Mae loteri cymdeithas yn cael ei hyrwyddo er budd cymdeithas sydd â nodau ac amcanion elusennol. Mae loterïau cymdeithasau yn cefnogi nodau anfasnachol fel annog pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgareddau diwylliannol. Nid ydyn nhw er budd preifat.

Does dim angen trwydded i redeg loteri cymdeithas fach, ond mae’n rhaid eu cofrestru â’r cyngor. Mae’n rhaid i’r loteri fodloni’r gofynion canlynol:

  • rhaid i gyfanswm gwerth yr holl docynnau ar gyfer loteri sengl for yn llai na £20,000
  • rhaid i gyfanswm gwerth yr holl loterïau mewn blwyddyn galendr fod yn llai na £250,000.

Os ydych chi'n bwriadu mynd deos y gwerthoedd hyn, mae'n rhaid i chi dderbyn trwydded gan y Comisiwn Gamblo (gwefan allanol).

Sut ydw i'n cofrestru?

Mae rhai achosion lle nad oes angen cofrestru'ch loteri.  Felly, cyn i chi gofrestru, gwiriwch a yw eich loteri wedi ei heithrio neu beidio (gwefan allanol).

I gofrestru, cwblhewch y ffurflen gofrestru a’i dychwelyd i’r cyfeiriad ar y ffurflen, ynghyd â: 

  • copi o gyfrifon y gymdeithas ar gyfer y 12 mis diwethaf 
  • copi o gyfansoddiad y gymdeithas, os oes gennych chi un
  • ffurflen ardystio aelodau wedi ei llofnodi gan 2 aelod o'ch cymdeithas. Gall yr hyrwyddwr fod yn un o'r llofnodwyr hyn.

Ffurflenni

Os oes gennych chi drwydded loteri cymdeithas fach ac arnoch eisiau newid yr hyrwyddwr, cwblhewch y ffurflen a'i hanfon atom ni.

Ffurflen newid yr hyrwyddwr am loterïau cymdeithasau bach (PDF, 530KB)

Faint mae'n costio?

Mae ffi ymgeisio am drwydded loteri cymdeithas fach yn £40.  Mae yna hefyd ffi flynyddol o £20.

Sut y gallaf dalu?

Gellir talu â cherdyn dros y ffôn i wasanaethau cwsmeriaid (01824 706000). Mae taliad gyda siec neu arian parod ar gael yn un o Siopau Un Alwad Sir Ddinbych yn unig.

Talu drwy BACS

Mae ein manylion BACS yn:

  • Banc: Natwest, 5 Queen Street, y Rhyl, LL18 1RS
  • Cod Didoli: 54 41 06
  • Rhif y Cyfrif: 22837469
  • Enw’r Cyfrif: Cronfa Sirol Cyngor Sir Ddinbych

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys cyfeirnod pan fyddwch chi’n gwneud taliad h.y. yn nodi enw/eiddo/rhif trwydded (os ydych chi’n ei wybod) ynghyd efo Cod Cost. Unwaith y bydd taliad wedi'i wneud, anfonwch gopi o'r taliad at trwyddedu@sirddinbych.gov.uk.

Cod cost

Rhowch y cod cost 3476-40093 wrth wneud taliad Loterïau cymdeithasau bach.

Gall methu â darparu’r cod cost priodol neu enw’r eiddo achosi oedi wrth brosesu eich cais. 

Ffurflenni elw

Bydd arnoch chi angen cwblhau ffurflen elw ar ôl pob loteri i ddangos yr elw y gwnaethoch a sut rydych chi'n mynd i'w wario. Mae'n rhaid i chi ddychwelyd y ffurflen atom ni dim hwyrach na 3 mis ar ôl eich loteri. Gallwch anfon y ffurflen hon i'r cyfeiriad ar y ffurflen.

Datganiad yn ymwneud â Loteri Cymdeithas Fach (PDF, 606KB)