Llifogydd

Os oes llifogydd ar ffordd neu ffos wedi blocio yn eich ardal chi, rhowch wybod i ni ac mi wnawn ni geisio cadw’r broblem dan reolaeth.

Adrodd am lifogydd

Os ydych chi'n poeni am lifogydd yn eich ardal, galwch y Llinell Llifogydd ar 0345 988 1188 new fe allwch chi naill ai gysylltu â ni arlein neu drwy ffonio 01824 706000.

Sachau tywod

Os ydych yn byw mewn ardal â pherygl o lifogydd ac yn teimlo yr hoffech gadw ambell fag tywod yn eich cartref fel rhagofal i’w ddefnyddio os bydd llifogydd, gallwch brynu bagiau tywod o siopau nwyddau neu siopau DIY. Mae systemau unigryw eraill ar gael i amddiffyn drysau a brics aer.

Cyfoeth Naturiol Cymru: Perygl llifogydd yn y tymor hir (gwefan allanol).

Nid ydym yn darparu bagiau tywod i eiddo unigol pan fo llifogydd. Yn hytrach, rydym yn defnyddio bagiau tywod yn bennaf i ddiogelu grwpiau o drigolion, trwy ddargyfeirio llif y dŵr a’i arwain at gylïau a thyllau archwilio. Mae hyn yn ein galluogi i amddiffyn strydoedd cyfan, lle y byddai rhoi bagiau tywod i aelwydydd unigol ar stryd yn ddefnydd llai effeithiol o adnoddau.

Mwy o wybodath am sut i ddiogelu eich cartref rhag y perygl o lifogydd (gwefan allanol).

Paratoi am lifogydd

Yn ystod llifogydd mae'n bosib na fydd gennych drydan, golau, gwres na llinell ffôn. Mi fydd dilyn y camau hyn yn eich helpu i baratoi. Nawr yw'r amser i feddwl amdani - peidiwch ag aros tan i lif ddigwydd.

Mae Flood Re yn fenter ar y cyd rhwng y Llywodraeth ac yswirwyr. Y nod yw gwneud y rhan sy'n yswirio difrod llifogydd ym mholisi yswiriant y cartref yn fwy fforddiadwy. Darganfyddwch a all Flood Re eich helpu chi (gwefan allanol).

Os ydych chi'n byw mewn ardal lle ceir perygl llifogydd, ystyriwch brynu bagiau tywod neu estyll i gadw dŵr rhag drysau neu friciau awyru. Fel cyngor, nid ydym yn darparu bagiau tywod i anheddau unigol.

Paratowch gynllun llifogydd personol sy'n cynnwys gwybodaeth bwysig y byddai ei hangen arnoch pe bai eich cartref yn dioddef lleifogydd, megis rhifau polisi yswiriant, a manylion cyswllt pobl y gall fod angen cysylltu â nhw mewn argyfwng. Cadwch eich cynllun llifogydd mewn ffolder gwrth-ddŵr a'i roi mewn man diogel sy'n hawdd ei gyrraedd.

Paratoi eich cartref, eich busnes neu eich fferm am lifogydd (gwefan allanol) 

Paratowch becyn llifogydd o bethau hanfodol y byddai eu hangen arnoch yn ystod llifogydd, neu rhag ofn bod rhaid ymgilio, gan gynnwys dillad gwrth-ddŵr cynnes ac unrhyw feddyginiaeth y byddech eu hangen.

Yn ystod llifogydd

Peidiwch â cheisio gyrru neu gerdded drwy lifddwr. Gall chwe modfedd o ddŵr sy'n llifo'n gyflym eich taro oddi ar eich traed, ac mi fydd dwy droedfedd o ddŵr yn ddigon i'ch car arnofio. Mae nifer o bethau ymarferol y mae modd i chi eu gwneud i helpu atal difrod i'ch cartref.

  • Diffoddwch eich cyflenwadau nwy, trydan a dŵr.
  • Plygiwch sinciau a rhowch bethau trwm arnynt i'w cadw i mewn; plygiwch bibellau dŵr i mewn â thyweli neu gadachau, a datgysylltwch unrhyw gyfarpar sy'n defnyddio dŵr, eich peiriant golchi, er enghraifft. Mi fydd y camau hyn yn helpu rhwystro dŵr rhag ddod i mewn i'r eiddo
  • Ceisiwch osgoi cyffwrdd llifddwr lle bo modd, gan mae'n bosib y bydd wedi'i halogi.
  • Peidiwch â gadael eich cartref neu fynd i mewn i lifddwr oni bai bod aelod o'r gwasanaethau brys yn dweud wrthych i wneud.

Gallwch ein dilyn ar Facebook (gwefan allanol) a Twitter (gwefan allanol) i gael diweddariadau yn ystod llifogydd.

Cyfoeth Naturiol Cymru: Beth i'w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd (gwefan allanol).

Ar ôl llifogydd

Peidiwch â mynd yn ôl i'ch tŷ tan i'r heddlu neu'r gwasanaethau brys ddweud wrthych ei fod yn ddiogel gwneud hynny.

Cysylltwch â'ch cwmni yswiriant cyn gynted â phosib - mae gan lawer ohonynt linellau ffôn argyfwng 24 awr. Gofynnwch iddynt faint o amser y bydd yn eu cymryd nhw i'ch gweld, a gwiriwch os oes ganddynt gwmni fydd yn glanhau eich ty, neu os bydd angen gwneud hynny eich hunain.

Cronfa Cymorth Dewisol

Mae Cronfa Cymorth Dewisol yn darparu dau wahanol grant nad oes angen ichi eu talu yn ôl.

Mwy gwybodaeth am y Cronfa Cymorth Dewisol (gwefan allanol).