Addysg cyfrwng Cymraeg: Chwalu’r Chwedlau

Dyma rai o bryderon rhieni ynghylch addysg cyfrwng Cymraeg.

Does neb yn siarad Cymraeg yn y cartref

Cwestiwn: Dydyn ni ddim yn siarad Cymraeg gartref – ydy hyn o bwys?

Ateb: Dim o gwbl.

Dydy’r mwyafrif helaeth o blant mewn addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghymru ddim yn siarad Cymraeg gartref ac mae’r cwricwlwm wedi’i gynllunio gyda hynny mewn golwg. Mae'r holl ddisgyblion, waeth beth fo'r iaith siaredir gartref, yn dod yn rhugl yn y Gymraeg yn gyflym.

Cymorth gyda gwaith cartref

Cwestiwn: Sut gallaf helpu fy mhlentyn gyda gwaith cartref os nad wyf yn siarad Cymraeg?

Ateb: Mae staff mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn brofiadol iawn wrth gefnogi disgyblion a rhieni. Rhoddir cyfarwyddiadau gwaith cartref yn y Gymraeg a'r Saesneg nes iddynt ddod yn ddysgwyr annibynnol. Bydd ysgolion yn cefnogi rhieni mewn amrywiaeth o ffyrdd i sicrhau y gellir cwblhau gwaith cartref yn llwyddiannus.

Dysgu Cymraeg gyda’ch gilydd

Cwestiwn: Alla i ddysgu Cymraeg gyda fy mhlentyn?

Ateb: Mae rhai rhieni, ar ôl dewis ysgol cyfrwng Cymraeg i'w plentyn, yn penderfynu dysgu Cymraeg hefyd. Mae’n gyfle gwych i ddysgu, i ymarfer eich sgiliau iaith a threulio amser gwerthfawr gyda’ch gilydd.

Mae cyrsiau Cymraeg i Oedolion ar gael ac yn addas ar gyfer dysgwyr o bob lefel. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Dysgu Cymraeg (gwefan allanol)

Cyrhaeddiad mewn Saesneg

Cwestiwn: A fydd mynychu ysgol cyfrwng Cymraeg yn effeithio ar gyrhaeddiad fy mhlentyn mewn Saesneg?

Ateb: Dim o gwbl.

Mae disgyblion sy'n gadael ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yn cyrraedd yr union yr un safon Saesneg â'r rhai mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg. Mae dysgwyr mewn ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg yn dilyn yr un cwricwlwm Saesneg ar lefel TGAU a Safon Uwch â'r rheiny mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.

Ysgol Gymraeg agosaf

Cwestiwn: Ysgol cyfrwng Saesneg yw'r ysgol agosaf at fy nghartref. Oes posib i fy mhlentyn fynychu ysgol cyfrwng Cymraeg?

Ateb: Oes.

Mae gan bob disgybl hawl i fynychu ysgol cyfrwng Cymraeg yn Sir Ddinbych. Darperir cludiant am ddim i’r rhai sy’n byw dros ddwy filltir o’u hysgol cyfrwng Cymraeg agosaf.