Manteision addysg cyfrwng Cymraeg

Mae gan addysg cyfrwng Cymraeg lwyth o fanteision. 

Addysg

Manteision addysg cyfrwng Cymraeg ydy:

  • mae rhan fwyaf o blant ifanc yn dysgu ieithoedd gwahanol yn haws nag oedolion
  • mae plant dwyieithog yn tueddu i fod yn fwy llwyddiannus mewn addysg
  • mae pobl ddwyieithog yn ei gweld yn haws i ddysgu ieithoedd ychwanegol
  • mae plant sy’n derbyn addysg cyfrwng Gymraeg yn gwneud cystal, os nad gwell, yn Saesneg â phlant sy’n derbyn addysg cyfrwng Saesneg

Tystiolaeth:

Gyrfa

Mae addysg cyfrwng Cymraeg yn ddefnyddiol ar gyfer gyrfaoedd oherwydd:

  • mae siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer nifer gynyddol o swyddi
  • mae siarad dwy iaith yn rhoi sgil arall i’w roi ar eich ffurflen gais
  • ar gyfartaledd, mae pobl ddwyieithog yn ennill mwy o gyflog

Tystiolaeth: Siaradwyr Cymraeg ‘yn fwy tebygol o dderbyn y cymwysterau a’r swyddi gorau’ (gwefan allanol)

Iechyd

Mae ymchwil yn dangos bod siarad dwy neu fwy o ieithoedd yn llesol i iechyd meddwl.

Tystiolaeth: Gohirio datblygiad clefyd Alzheimer (gwefan allanol)

Bywyd

Gall addysg Gymraeg helpu gydol oes oherwydd:

  • mae medru’r iaith Gymraeg yn agor drysau i ddiwylliant a hanes Cymru
  • mae medru’r Gymraeg yn cryfhau’r ymdeimlad o berthyn a hunaniaeth
  • mae medru newid o un iaith i’r llall yn magu hyder a balchder

Tystiolaeth:Manteision dwyieithrwydd mewn Cymraeg a Saesneg (gwefan allanol)