Addysgu'ch plentyn gartref
Mae’r rhan fwyaf o rieni yn anfon eu plant i’r ysgol, ond mae gennych chi berffaith hawl i addysgu’ch plentyn gartref. Fel rhiant, mae’n rhaid i chi sicrhau bod eich plentyn yn derbyn addysg effeithlon ac effeithiol o’u pen-blwydd yn 5 oed.
Sut ydw i’n rhoi gwybod?
Os ydi’ch plentyn yn cyrraedd yr oed ysgol gorfodol ac nad yw erioed wedi ei gofrestru mewn ysgol, yn gyfreithiol, nid oes yn rhaid i chi roi gwybod i’r awdurdod lleol eich bod yn bwriadu ei addysgu gartref, serch hynny, byddai’n ddefnyddiol i ni petaech yn rhoi gwybod i ni.
Os ydych chi’n tynnu’ch plentyn o’r ysgol er mwyn ei addysgu gartref, mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r pennaeth ar bapur gan ofyn iddyn nhw dynnu enw’ch plentyn oddi ar y gofrestr. Bydd yr ysgol wedyn yn rhoi gwybod i ni a bydd enw’ch plentyn yn cael ei dynnu oddi ar ein cofrestr. Os ydych chi’n newid eich meddwl, mae’n rhaid i chi ailgofrestru eich plentyn, mae’n bosib na fydd lle ar gael yn yr un ysgol.
Cymorth a chefnogaeth
Nid yw’n ddyletswydd arnom ni i fonitro ansawdd yr addysg mae’ch plentyn yn ei derbyn, ond mae’n rhaid i ni fod yn fodlon bod eich plentyn yn derbyn yr addysg briodol. O dro i dro, byddwn yn cysylltu â chi i drefnu ymweliad i drafod hyn ac i gynnig cymorth a chefnogaeth.
Dogfennau cysylltiedig