Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.
Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.
Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.
Cuddio
Nid yw Llyfrgelloedd Dinbych bellach yn rhoi dirwyon felly nid oes angen i chi boeni os ydych yn dychwelyd llyfr yn hwyr. Mae ein llyfrgelloedd yn cynnig ystod lawn o wasanaethau - galwch heibio i ddewis, benthyg a dychwelyd llyfrau, i ddefnyddio cyfrifiadur neu wi-fi, ac i fynychu gweithgareddau. Os oes well gennych chi, gallwch ddefnyddio ein gwasanaethau digidol er mwyn cael mynediad at eLyfrau, llyfrau llafar, eGylchgronau a phapurau newydd ar-lein, 24/7.
Dewiswch eich llyfrgell leol i weld yr amseroedd agor presennol.
IMae’n Wythnos Llyfrgelloedd a mae gwahoddiad i ddefnyddwyr llyfrgelloedd ar draws Sir Ddinbych i roi eu barn ar eu llyfrgell leol.
Mae arolwg, sydd i’w chynnal o Hydref 7, yn gofyn am eu defnydd o lyfrgelloedd ac i roi eu barn ar safon y gwasanaethau sydd ar gael a sut maent yn elwa ohonynt.
Mae’n ofynnol ar lyfrgelloedd yng Nghymru i gynnal arolwg bob tair blynedd i gasglu adborth gan gwsmeriaid am ystod, safon ac effaith eu gwasanaethau. Defnyddir y wybodaeth a gesglir i lunio datblygiad y gwasanaeth i’r dyfodol, ac i adrodd ar berfformiad y gwasanaeth yn erbyn Fframwaith Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru i Lywodraeth Cymru.
Cymryd rhan yn Arolwg Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru ar gyfer oedolion
Cymryd rhan yn Arolwg Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc 7 i 16 oed
Chwiliwch y catalog ac archebwch lyfrau arlein neu gwnewch gais i ymuno â'r llyfrgell.
Gall aelodau’r llyfrgell gael mynediad at lyfrau sain, eLyfrau a phapurau newydd digidol am ddim.
Mae ein staff ar gael i’ch cynorthwyo chi â chael mynediad at y byd digidol drwy eich llyfrgell leol.
Dysgwch fwy am lyfrgell yn eich ardal chi.
Gwybodaeth am ein llyfrgelloedd a’ch lles.
Gwybodaeth am wasanaethau llyfrgell ar gyfer plant a theuluoedd.
Fel aelod o Llyfrgelloedd Sir Ddinbych, gallwch fenthyg llyfrau o unrhyw lyfrgelloedd cyhoeddus eraill yng Ngogledd Cymru a'u casglu yn eich llyfrgell leol.
Mae gan aelodau llyfrgell Sir Ddinbych fynediad am ddim i ystod o gymorth darllen wedi'u llunio i'ch helpu i ddod o hyd i'r teitl arbennig sydd yn eich bodloni.
Eich cymuned, heddiw a ddoe.
Mae'r strategaeth yn amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer y gwasanaeth llyfrgelloedd cyhoeddus yn Sir Ddinbych.
Trwy ymaelodi â’r llyfrgell, rydych chi’n cadarnhau eich bod wedi darllen a derbyn telerau ac amodau'r aelodaeth.
Gwybodaeth am ein gwasanaethau digidol.
Корисні посилання для людей з України.
Gweler llinell amser o ddigwyddiadau hanesyddol yn Sir Ddinbych sy’n ymwneud â’r gymuned LHDTC+.
Browser does not support script.