Fformiwla cyllido ysgolion

Rydym yn defnyddio fformiwla cyllido i gyfrifo faint o arian a gaiff ei ddyrannu i'n hysgolion.

Fformiwla cyllido ysgolion

Cyflwynwyd Fformiwla Cyllido Ysgolion Sir Ddinbych yn ystod y flwyddyn ariannol 2013-14.  Mae'r fformiwla'n cynnwys elfennau o weithgaredd strategol, e.e. cwricwlwm, amddifadedd cymdeithasol, anghenion dysgu ychwanegol, a'r Gymraeg; a sbardunau cost gweithgareddau, e.e. niferoedd disgyblion, cyfrif pennau, cymarebau dosbarth, ac ysgolion bach.

Rydym yn adolygu'r sbardunau cost gweithdareddau bob blwyddyn, i sicrhau eu bod yn cefnogi'r elfennau gweithgarwch strategol yn ôl y gofyn.

Fformiwla ariannu ysgolion gyfer ysgolion prif ffrwd ac ysgolion arbennig (PDF, 371KB)

Cyllido maint dosbarth

Mae dyletwydd statudol arnym i gyfyngu maint dosbarthiadau babanod i ddim mwy na 30.  Mae hyn yn berthnasol i'r dosbarth derbyn, blwyddyn 1 a blwyddyn 2.  Nid oes dyletswydd statudol i gyfyngu maint dosbarthiadau i 30 ar gyfer blynyddoedd 3 i 6, ond rydym wedi ymrwymo i orfodi'r hyn.

Mae'r polisi hwn yn nodi'r meini prawf er mwyn i ysgolion yn Sir Ddinbych fod yn gymwys am gyllid maint dosbarth.  Nid yw disgyblion meithrin wedi eu cynnwys yn y polisi hwn.

Arian maint dosbarthiadau babanod ac iau (PDF, 313KB)