Cludiant am ddim i’r coleg

Bydd angen i chi wneud cais yn uniongyrchol i’r coleg ar gyfer cludiant am ddim i'r coleg.

Gallwn ddarparu cludiant am ddim i fan casglu os nad oes llwybr cerdded diogel, ond dylech wneud cais i’r coleg yn gyntaf a byddent hwythau yn cysylltu â ni i wneud trefniadau.

Coleg Cambria

Darganfod rhagor am gludiant am ddim i Goleg Cambria (gwefan allanol)

Coleg Llandrillo

Darganfod rhagor am gludiant am ddim i Goleg Llandrillo (gwefan allanol)

Beth i'w wneud os nad oes llwybr cerdded diogel at fan codi

Gallwn ddarparu cludiant am ddim i fan codi os nad oes llwybr cerdded diogel. 

Wrth asesu a yw llwybr cerdded yn ddiogel ai peidio, byddem yn ystyried:

  • Troedffyrdd
  • Cyflymder Traffig
  • Damweiniau ymysg Cerddwyr
  • Goleuadau Stryd

Gweler ein Polisi Cludiant I Ddysgwyr am fwy o wybodaeth.

Polisi cludiant i ddysgwyr (PDF, 898KB)

Er mwyn cael eu hystyried ar gyfer cludiant am ddim i fan codi, rhaid i ddisgyblion fod yn: 

  • iau nag 19 oed ar 1 Medi pan fyddant yn dechrau astudio
  • astudio’n llawn amser

Sut i wneud cais am gludiant am ddim i fan codi

Gwneud cais am gludiant am ddim i fan codi os nad oes llwybr diogel

Ar ôl gwneud cais 

Byddwn yn cysylltu â chi ynglŷn â chanlyniad eich cais o fewn 15 diwrnod gwaith.  Mae’r 15 diwrnod hwn yn cyfeirio at wirio cymhwysedd ac ymateb, yn hytrach na phryd fydd cludiant yn cychwyn. 

Mewn rhai achosion bydd angen i ni asesu’r llwybr er mwyn gweld os gallwn ddarparu cludiant, allai olygu y bydd yn cymryd mwy o amser i ni ddarparu penderfyniad ar eich cais.

Ceisiadau llwyddiannus

Os yw eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cysylltu â chi er mwyn cadarnhau pryd bydd cludiant am ddim i fan codi yn cychwyn. 

Ceisiadau aflwyddiannus

Byddwch yn gadael i chi wybod os yw eich cais yn aflwyddiannus a rhoi’r rhesymau dros y penderfyniad hwn. Does dim hawl i apelio os ydych yn cael eich gwrthod, gan nad yw addysg coleg yn statudol.