Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol i Ysgolion Cynradd
I helpu â chostau byw cynyddol, rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau y bydd pob disgybl cynradd yn cael cynnig prydau ysgol am ddim erbyn 2024 drwy’r cynllun Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol i Ysgolion Cynradd.
Yn ysgolion Sir Ddinbych, mae Prydau Ysgol am Ddim i Ysgolion Cynradd ar gael ar hyn o bryd i bob plentyn:
- dosbarth derbyn
- blwyddyn 1
- blwyddyn 2
Pryd fydd Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol ar gael?
Bydd Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol i Ysgolion Cynradd ar gael i blant mewn:
- dosbarthiadau derbyn o fis Medi 2022
- blwyddyn 1 o fis Ionawr 2023
- blwyddyn 2 o fis Ebrill 2023
- blwyddyn 3 a 4 o fis Medi 2023
Ein nod yw y bydd pob disgybl cynradd arall yn cael Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol erbyn 2024.
Sut i gael Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol ar gyfer eich plentyn
Bydd yr ysgol yn gofyn i bob plentyn (mewn grŵp blwyddyn sy’n cynnig Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol) yn ddyddiol os ydynt yn dymuno cael pryd ysgol.
Nid oes proses ymgeisio i wirio os yw disgybl yn gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol i Ysgolion Cynradd.
Gallwch gysylltu ag ysgol eich plentyn i gael gwybod mwy am sut i gael Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol i Ysgolion Cynradd.
Prydau Ysgol am Ddim
Os ydych yn gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim oherwydd eich bod yn cael budd-dal cymwys, rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais am Brydau Ysgol am Ddim gan y byddwch hefyd yn gymwys am y grant offer a gwisg ysgol.
I gael mwy o wybodaeth, yn cynnwys beth yw’r budd-daliadau cymwys a sut i ymgeisio, ewch i’n tudalen prydau ysgol am ddim.
Gofynion penodol / dietegol
Ar hyn o bryd, darperir ar gyfer dietau arbennig ac alergeddau hysbys ar draws pob ysgol a bydd hyn yn parhau. Trafodwch y gofynion penodol sydd gan eich plentyn yn uniongyrchol gyda’r ysgol.
Bocsys bwyd o adref
Os byddai’n well gennych chi, gall eich plentyn fynd â bocs bwyd o adref yn lle cael pryd ysgol am ddim. Gallwch hefyd fanteisio ar y cynnig o bryd ysgol am ddim cyffredinol ar rai diwrnodau a bocs bwyd ar ddiwrnodau eraill.