Cinio ysgol am ddim

Mae pob ysgol yn Sir Ddinbych yn darparu cinio ysgol. Mae cinio ysgol ysgolion cynradd â phris penodol ond mae ysgolion uwchradd â phrisiau gwahanol ar gyfer prydau bwyd gwahanol.

Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol i Ysgolion Cynradd

I helpu â chostau byw cynyddol, rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau y bydd pob disgybl cynradd yn cael cynnig prydau ysgol am ddim drwy’r cynllun Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol i Ysgolion Cynradd.

Mae hwn yn wahanol i’r cynllun Prydau Ysgol am Ddim sydd ar gael i bobl sy’n derbyn budd-daliadau penodol.

Os ydych yn gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim oherwydd eich bod yn cael budd-dal cymwys, rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais am Brydau Ysgol am Ddim gan y byddwch hefyd yn gymwys am y Grant Hanfodion Ysgol.

Cymhwyster

Fe all eich plentyn chi gael cinio ysgol am ddim os ydych chi’n derbyn unrhyw un o’r budd-daliadau canlynol:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm 
  • Credyd Pensiwn; Credyd Gwarantedig 
  • Cymorth o dan Adran VI o Ddeddf Lloches a Mewnfudo 1999
  • Credyd Cynhwysol, os ydi’ch plentyn:
    • yn yr ysgol gynradd a bod eich enillion net yn £7,400 neu lai
    • ym mlwyddyn 7 yn yr ysgol uwchradd (dim cyfyngiad o ran incwm)

Disgyblion uwchradd o aelwydydd sy’n derbyn Credyd Cynhwysol

Rydym ni’n gweithio i ddarparu prydau ysgol am ddim i ddisgyblion uwchradd o aelwydydd sy’n derbyn Credyd Cynhwysol, waeth beth fo’u hincwm.

Pryd fydd hyn ar gael?

Bydd hyn ar gael ar gyfer disgyblion blwyddyn 7 o fis Medi 2026. Rydym ni’n gweithio i gyflwyno hyn ar gyfer blynyddoedd 8, 9, 10 a 11 cyn gynted â phosibl (ni fydd ar gael i fyfyrwyr chweched dosbarth).

Pam bod hyn yn cael ei wneud fesul tipyn?

Yn Sir Ddinbych, mae angen gwneud gwaith sylweddol mewn rhai ysgolion er mwyn cynyddu eu capasiti arlwyo, ac mae angen amser i wneud y gwelliannau hyn cyn y gallwn gyflwyno’r cynnig i bob grŵp blwyddyn.

Plant maeth

Nid oes modd i blentyn maeth dderbyn cinio ysgol am ddim. Mae rhieni maeth eisoes yn cael lwfans i edrych ar ôl y plentyn.

Ceiswyr Lloches

Gall geiswyr lloches fod yn gymwys am gymorth os ydynt yn derbyn budd-dal cymwys neu gyda rhif gwasanaeth Ceisiwr Lloches Cenedlaethol (NASS).

Gellir gwneud taliadau yn uniongyrchol i gyfrif banc neu i’r Swyddfa Gartref a fydd yn delio â’r dosbarthiad i’r ceisiwr lloches.

Sut i hawlio cinio ysgol am ddim

Dim ond i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am ysgol eich plentyn y gellir cyflwyno cais am ginio ysgol am ddim.

Os yw eich plentyn yn mynychu ysgol yn Sir Ddinbych, gallwch wneud cais ar-lein am ginio ysgol am ddim.

Os yw eich plentyn yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, byddwch hefyd yn gymwys ar gyfer y Grant Hanfodion Ysgol, os nad yw’r plentyn yn y chweched dosbarth (nid yw'r Grant Hanfodion Ysgol ar gael i ddisgyblion yn y chweched dosbarth).

Pan fyddwch yn gwneud cais, byddwch yn defnyddio’r un cais i hawlio prydau ysgol am ddim a’r Grant Hanfodion Ysgol, os nad yw eich plentyn yn y chweched dosbarth.

Gwneud cais ar-lein am ginio ysgol am ddim (ar gyfer plentyn yn un o ysgolion Sir Ddinbych)

Ffurflenni cais cinio ysgol am ddim ar gyfer ceisiwr lloches

Atebwch y cwestiwn canlynol i gael y ffurflen gais cywir ar gyfer ceisiwr lloches.

  • Dywedwch wrthym ni pwy fydd yn gwneud cais

Newid ysgolion

Bydd angen i chi roi gwybod i ni os yw eich plentyn yn gadael neu’n newid ysgol.

Dylech lenwi ffurflen gais prydau ysgol am ddim newydd os yw’ch plentyn wedi symud i ysgol arall yn Sir Ddinbych neu cysylltwch â ni i ganslo cinio ysgol am ddim

Gwybodaeth gan Awdurdodau Lleol eraill