Presenoldeb ac ymddygiad yn yr ysgol

Mae’n gyfrifoldeb arnoch chi i sicrhau bod eich plentyn yn mynychu’r ysgol. Os ydi’ch plentyn yn absennol heb reswm derbyniol, fe allech chi dderbyn dirwy neu gael achos yn eich erbyn.

Bydd yr ysgol yn awdurdodi absenoldeb eich plentyn ar ôl derbyn rheswm derbyniol. Mae’r rhain yn cynnwys: 

  • salwch
  • apwyntiadau meddygol neu ddeintyddol na ellir eu methu (os yn bosib fe ddylech chi drefnu’r rhain ar ôl ysgol neu yn ystod gwyliau’r ysgol) 
  • diwrnodau crefyddol 
  • materion teuluol eithriadol, fel profedigaeth 
  • cyfweliad gyda chyflogwr neu goleg

Ni fydd yr ysgol yn awdurdodi absenoldeb eich plentyn os oedd yn absennol oherwydd y canlynol: 

  • siopa yn ystod oriau ysgol
  • taith diwrnod 
  • Gwyliau yn ystod y tymor ysgol
  • pen-blwydd 

Os ydi’ch plentyn yn absennol ac nad ydych chi wedi rhoi rheswm dros yr absenoldeb, neu os nad ydi’r ysgol yn fodlon â’r eglurhad, bydd yr absenoldeb yn cael ei nodi fel un heb ei ‘awdurdodi’, sef triwantiaeth.

Os ydych chi’n credu bod rheswm pan nad oes ar eich plentyn eisiau mynd i’r ysgol, fe ddylech chi siarad ag athro/ athrawes dosbarth eich plentyn i dderbyn cymorth a chefnogaeth.

Rhybudd Cosb Benodedig

Os oes gan eich plentyn 10 diwrnod neu fwy o absenoldeb heb awdurdod, neu’n hwyr ar fwy nag 20 sesiwn (10 diwrnod ysgol), gallech dderbyn Rhybudd Cosb Benodedig.

Os ydych yn talu o fewn 28 diwrnod, y ddirwy yw £60. Os ydych yn talu ar ôl 28 diwrnod, ond o fewn 42 diwrnod, y ddirwy yw £120. Os nad ydych wedi talu'r ddirwy cosb yn llawn erbyn y 43ain diwrnod, gellid cymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn.

Gallwch dalu rhybudd cosb benodedig yn un o'r ffyrdd canlynol:

  • Trwy gerdyn debyd neu gredyd: Gellir talu gyda cherdyn debyd neu gredyd drwy ffonio 01824 706000;
  • Siop Un Stop: Mae gan Sir Ddinbych rwydwaith Siopau Un Stop lle gallwch wneud taliad.

Dogfennau cysylltiedig

Ymddygiad

Mae gan bob ysgol bolisi ymddygiad sy’n nodi sut mae disgwyl i ddisgyblion ymddwyn yn yr ystafell ddosbarth, yn ystod yr egwyl a thu allan i’r ysgol (e.e. yn y lloches bws). Fe ddylai bod modd i chi lawrlwytho’r polisi o wefan yr ysgol neu fe allwch chi holi athro / athrawes eich plentyn am gopi.

Os nad ydi’ch plentyn yn cydymffurfio â’r polisi ymddygiad, mae’n bosib y bydd yn rhaid iddo aros i mewn neu gael ei wahardd o’r ysgol dros dro neu, yn niffyg dim arall, ei wahardd o’r ysgol am byth . Bydd ysgol eich plentyn yn gallu darparu arweiniad i chi ar waharddiadau

Diweddaraf am coronafeirws

Mae gwasanaethau Estyn Allan wedi cael eu gohirio. Bydd athrawon Estyn Allan ar gael dros y ffôn ac e-bost.

Mae Hyfforddiant a Byw gyda Phobl Ifanc wedi cael ei ohirio. Mae addysg yn y cartref wedi cael ei dynnu. Hyfforddiant ar-lein yn parhau.

Am y wybodaeth ddiweddaraf am ein gwasanaethau a'n cyngor ewch i sirddinbych.gov.uk/coronafeirws