Gwybodaeth am sesiynau cwnsela Gwasanaeth Cwnsela Annibynnol Pobl Ifanc Sir Ddinbych

Fe all sesiynau cwnsela bara hyd at 50 munud a’r nod yw i greu amgylchedd cyfforddus a diogel i drafod problemau ac i ddarganfod y datrysiadau gorau.

Mae'r sesiynau yn gyfrinachol er mwyn i'r plentyn neu'r person ifanc siarad yn agored am yr hyn sy'n eu poeni.

Diweddaraf am coronafeirws

Mae’r Gwasanaeth Cwnsela (DIYPCS) ar hyn o bryd yn darparu cwnsela wyneb yn wyneb mewn ysgolion yn dilyn canllawiau iechyd a diogelwch ac yn parhau i gynnig gwasanaeth ar-lein. Croesewir atgyfeiriadau newydd.

Am y wybodaeth ddiweddaraf am ein gwasanaethau a'n cyngor ewch i sirddinbych.gov.uk/coronafeirws

Cwnselwyr

Mae ein holl gwnselwyr wedi cymhwyso’n llawn ac mae ganddynt lawer o brofiad o ran gweithio gyda phlant a phobl ifanc ac maent wedi eu hachredu gan Gymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP).

Sut rydym yn darparu sesiynau cwnsela

Rydym yn gweithio mewn ysgolion yn bennaf ond gallwn hefyd gynnig apwyntiadau gan ddefnyddio fideo, ffôn, sgwrsio byw a therapi ar-lein drwy e-bost. 

Cwnsela wyneb yn wyneb

Caiff y mwyafrif o’n sesiynau eu cynnal wyneb yn wyneb o fewn ysgolion ac weithiau mewn lle a gytunwyd yn y gymuned. Bydd hyn yn cynnwys sesiynau un i un wythnosol gyda chwnselydd mewn lleoliad cyfrinachol ac ar amser a dyddiad a gytunwyd.

Cerdded a Thrafod

Rydym yn cynnig opsiwn i dderbyn cwnsela drwy therapi awyr agored Cerdded a Thrafod a thrwy Chwarae Therapiwtig. Mae gan y DIYPCS therapyddion sydd wedi’w hyfforddi mewn Sgiliau DBT ac Ymwybyddiaeth Ofalgar a all hefyd ddarparu’r ymyrraethau penodol hyn.

Cwnsela ar-lein

Fe all cwnsela ar-lein ddigwydd drwy fideo, ffôn, sgwrsio byw a therapi ar-lein drwy e-bost. Fe all hyn fod yn ddefnyddiol i rywun sy’n gyfforddus yn defnyddio technoleg i gyfathrebu a sydd â’r ymroddiad a’r cymhelliant i gymryd rhan mewn cwnsela. 

Mae’n bosibl nad yw cwnsela ar-lein yn addas i bawb.  Fe fydd cwnselydd yn trafod p’run ai cwnsela ar-lein yw’r ffordd orau ymlaen ai peidio i blentyn neu berson ifanc, ac os felly, pa ddewis sydd orau, cyn trefnu sesiynau cwnsela.

Materion technegol

Fe fydd cwnselydd yn trefnu dull cyfathrebu wrth gefn yn ystod yr asesiad cychwynnol rhag ofn na fydd y dechnoleg (er enghraifft, Wi-Fi, signal ffôn symudol, cyfrifiadur) yn gweithio, ac na ellir cynnal sesiwn.

Gwneud y mwyaf o gwnsela 

Er mwyn elwa’n llawn o sesiwn gwnsela, rydym ni’n argymell meddwl am yr isod cyn sesiwn:

  • unrhyw broblem(au) rwyt ti yn eu profi ar hyn o bryd
  • beth fyddet ti’n hoffi sôn amdano yn ystod y sesiwn gwnsela a sut gall y sesiwn weithio orau i ti?
  • a fyddet ti’n teimlo’n fwy cyfforddus yn anfon negeseuon gwib, yn gweithio gyda’r e-bost neu’n defnyddio sain/fideo.
  • pa gefnogaeth arall fyddai angen i ti ei gael o bosibl gyda’r sesiynau ar-lein neu ar eu hôl.

Beth i'w wneud ar ôl sesiwn

Ar ôl sesiwn gwnsela wyneb yn wyneb neu ar-lein, rho ofod i ti dy hun i ymlacio ac i ymbaratoi ar gyfer beth sydd o dy flaen yn ystod yr oriau nesaf a gweddill yr wythnos. Os wyt ti’n penderfynu gwneud newidiadau, efallai byddai’n syniad i ti feddwl am sut i weithredu’r rhain. Defnyddia dy rwydwaith cefnogaeth (ffrindiau/teulu) yn ystod yr wythnos. Beth am roi rhywbeth neis i ti dy hun, gwna rywfaint o ymarfer corff, a dilyna drefn bwyta’n iach a chysgu’n dda.

Arolwg

Wedi i’r sesiynau cwnsela ddod i ben fe fyddwn yn e-bostio arolwg i’w gwblhau fel y gallwn gael gwell dealltwriaeth o’ch profiad cwnsela a bydd hyn yn ein helpu ni i wneud gwelliannau.

Pan ddaw sesiynau cwnsela sydd wedi eu trefnu i ben

Ar ddiwedd y sesiynau cwnsela sydd wedi eu trefnu ar dy gyfer, mae'n bosibl y bydd dy gwnselydd eisiau trafod sut y byddai modd i ti gael mwy o gymorth fel:

  • hunan gymorth ar-lein
  • cwnsela wyneb yn wyneb neu ar-lein sy’n fwy hirdymor
  • cymorth gan weithwyr meddygol neu weithwyr proffesiynol eraill 

Mwy o wybodaeth

Gallwch gysylltu â ni os oes gennych gwestiynau am Wasanaeth Cwnsela Annibynnol Pobl Ifanc Sir Ddinbych.

Tudalennau cysylltiedig