Gwybodaeth i rieni a gweithwyr proffesiynol am Wasanaeth Cwnsela Annibynnol Sir Ddinbych i Bobl Ifanc 

Mae’r Gwasanaeth Cwnsela yn rhoi’r cyfle i blant a phobl ifanc i siarad gyda chwnselydd annibynnol am unrhyw broblemau cymdeithasol neu emosiynol y gallai fod ganddynt, a hynny mewn dull diogel a hygyrch.

Diweddaraf am coronafeirws

Mae’r Gwasanaeth Cwnsela (DIYPCS) ar hyn o bryd yn darparu cwnsela wyneb yn wyneb mewn ysgolion yn dilyn canllawiau iechyd a diogelwch ac yn parhau i gynnig gwasanaeth ar-lein. Croesewir atgyfeiriadau newydd.

Am y wybodaeth ddiweddaraf am ein gwasanaethau a'n cyngor ewch i sirddinbych.gov.uk/coronafeirws

Argyfyngau

Os yw plentyn mewn argyfwng ac angen cymorth ar unwaith, cysyllta â:

  • Ffonia 999 i gael help mewn argyfwng
  • Y Samariaid – Ffonia 08457 909090
  • Childline (hyd at 25 oed) – Ffonia 0800 1111

I bwy mae’r gwasanaeth cwnsela ar gael?

Fe all unrhyw blentyn neu berson ifanc rhwng 11 a 18 oed (Blwyddyn 6 i Flwyddyn 13) sy’n byw yn Sir Ddinbych neu’n mynd i ysgol yn y sir, gael cwnsela. Rydym hefyd yn croesawu atgyfeiriadau gan weithwyr proffesiynol a rhieni ar gyfer plant oed cynradd i’w hystyried ar gyfer cwnsela os credir y byddai cwnsela o fudd iddynt.

Pwy all atgyfeirio plentyn neu berson ifanc am wasanaeth cwnsela?

Gall plentyn neu berson ifanc gael mynediad i’r gwasanaeth cwnsela drwy gael eu hatgyfeirio gan riant neu weithiwr proffesiynol neu drwy hunanatgyfeiriad – sef atgyfeirio eu hunain i’r gwasanaeth.

Gall rhiant neu weithiwr proffesiynol atgyfeirio person ifanc am wasanaetha cwnsela ar-lein. Mae’n bwysig cofio y dylai’r dewis i fynd am gwnsela fod yn wirfoddol ac mae’n rhaid cefnogi’r plentyn neu berson ifanc yn y fath fodd.

Dysgwch sut i atgyfeirio rhywun at ein gwasanaeth cwnsela.

Os bydd plentyn yn gofyn am wasanaeth cwnsela, nid yw hyn yn golygu bod y rhieni wedi gadael y plentyn i lawr. Weithiau mae siarad gyda rhywun niwtral sydd wedi eu hyfforddi’n broffesiynol yn gymorth i ddod o hyd i ateb i broblem. Ymdrinnir ag atgyfeiriadau bob amser yn gyfrinachol.

Caniatâd ar gyfer cwnsela 

Rhaid i blant a phobl ifanc oedran ysgol gynradd gael caniatâd eu rhiant, gwarcheidwad neu ofalwr er mwyn cael eu hatgyfeirio atom. 

Dydi person ifanc sy’n 16 oed neu hŷn ddim angen caniatâd rhiant / gwarcheidwadar gyfer cwnsela.  Mae plentyn neu berson ifanc o dan 16 oed yr ydym yn euhystyried i fod â ‘Chymhwysedd Gillick’ gyda’r hawl i gael mynediad i gwnsela heb ganiatâd eu rhiant, gwarcheidwadneu ofalwr. Fodd bynnag mae cefnogaeth rhiant neu ofalwr bob tro yn cael ei groesawu’n fawr.

Dysgwch am bwy sydd angen caniatâd a sut i'w ddarparu.

Cwnselwyr

Mae ein holl gwnselwyr yn hollol gymwys a gyda statws cymwysedig gyda'r Gymdeithas Brydeinig o Gynghorwyr a Seicotherapyddion (BACP). Mae ein gwasanaeth yn ei gyfanrwydd wedi’i achredu i weithio gyda phlant a phobl ifanc gan y BACP ac mae gan ein cwnselwyr fel unigolion brofiad sylweddol mewn gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Mae cwnselwyr yn derbyn goruchwyliaeth glinigol reolaidd a chymwysedig gan y Gymdeithas o Gwnselwyr a Therapyddion Ar-lein (ACTO).

Mwy o wybodaeth

Gwybodaeth am sesiynau Wasanaeth Cwnsela Annibynnol Pobl Ifanc Sir Ddinbych.

Fe allwch gysylltu â ni os hoffech ragor o wybodaeth am ein gwasanaeth.