Llywodraethwyr newydd

Gall gwaith corff llywodraethu fod yn anodd iawn ar adegau, ond mae hefyd yn rhoi llawer o foddhad.

Rolau a chyfrifoldebau

Mae pob corff llywodraethu yn cyfarfod o leiaf unwaith y tymor. Mae nifer o faterion na all y corff llywodraethu llawn ymdrin â hwy yn unig. Fodd bynnag, gellir dirprwyo llawer o waith y corff llywodraethu yn llawn neu'n rhannol, a bydd gan gorff llywodraethu da rai pwyllgorau gweithgar iawn.

Gall rhai rolau a thasgau gael eu dyrannu i lywodraethwyr unigol, megis cysylltiadau i feysydd cwricwlaidd neu grwpiau blwyddyn, neu gyfrifoldeb am drefniadau hyfforddi llywodraethwyr. Mae rhai rolau, megis ammddiffyn plant a llywodraethwyr AAA, yn orfodol.

Mae disgwyl i bob llywodraethwr gymryd rhan ar bwyllgorau corff llywodraethu. Mae llywodraethwyr yn cael eu penodi i bwyllgorau ar sail eu sgiliau, eu gwybodaeth a'u harbenigedd.

Eich cyflwyniad

Fel llywodraethwr newydd, byddwch yn derbyn pecyn hyfforddiant ac arweiniad, er mwyn i chi ddod yn effeithiol yn eich rôl cyn gynted â phosibl.  Bydd hyn yn cael ei drefnu pan fyddwch yn cael eich penodi fel llywodraethwr.

Dyma beth y gallwch ei ddisgwyl fel rhan o'ch hyfforddiant:

  • cefnogaeth mentor am gyfnod y cytunwyd arno
  • sesiwn hyfforddi dwy awr mandadol
  • sesiwn hyfforddi ar ddeall a defnyddio data
  • gwybodaeth gyffredinol sy'n berthnasol i bob llywodraethwr ym mhob ysgol
  • gwybodaeth benodol sy'n berthnasol i'ch ysgol chi

Mwy o wybodaeth

Yn ogystal â'r wybodaeth a ddarparwn, gall ysgolion sy'n tanysgrifio gael gwybodaeth a chymorth gan Lywodraethwyr Cymru (gwefan allanol).