TRAC 11-24

Cefnogodd y prosiect TRAC 11-24 bobl ifanc rhwng 11-24 oed oedd wedi ymddieithrio ag addysg, ac mewn perygl o fod yn NEET (heb fod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant). Ariannwyd y prosiect gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop am 7 mlynedd hyd at fis Rhagfyr 2022.

Roedd yna dimau TRAC lleol ledled gogledd Cymru yn darparu amrywiaeth o gymorth i bobl ifanc y gellid ei addasu i gefnogi pobl ifanc. Roedd hyn yn cynnwys help i:

  • magu hyder
  • gwella iechyd meddwl a lles
  • ennill cymhwyster
  • ymgeisio i fynd ar gwrs mewn coleg neu brifysgol
  • ymgeisio am brentisiaeth
  • cael swydd

Ar gyfer pwy oedd TRAC?

Cafodd y bobl ifanc a oedd yn gymwys ar gyfer y prosiect eu nodi drwy offer proffil dysgu a gynhaliwyd trwy ysgolion a cholegau.   Roedd yr offer yn defnyddio data am bethau fel ymddygiad yr unigolyn ifanc, cyrhaeddiad a phresenoldeb i gynhyrchu sgôr a oedd yn dweud wrthym a oeddent yn gymwys i gymryd rhan yn y prosiect.  Byddai’r unigolyn ifanc wedyn yn cael ei atgyfeirio drwy’r ysgol neu’r coleg. 

Beth oedd TRAC yn ei gynnig?

Roedd gan bobl ifanc ar y rhaglen TRAC fynediad at:

  • Cwnsela wedi’i ddarparu gan gwnselwyr a gweithwyr iechyd meddwl
  • Cymorth gyda lles a phresenoldeb wedi’i ddarparu gan Weithwyr Cefnogi Addysg, Gweithwyr Lles, Swyddogion Cynnal Presenoldeb a gweithwyr ieuenctid, yn ogystal â sesiynau un i un, chwaraeon ac iechyd a chymorth a datblygiad addysg
  • Hyfforddiant a chyrsiau ymgysylltu gan amrywiaeth o ddarparwyr
  • Gwasanaethau Gyrfa Cymru, gan gynnwys Sbardun, sesiynau unigol ac mewn grwpiau a chyfleoedd profiad gwaith wedi’u haddasu ar gyfer yr unigolyn.

Roedd y bobl ifanc a oedd yn cymryd rhan yn elwa o gefnogaeth lles ac iechyd, a oedd yn gymorth iddynt ymgysylltu’n barhaus yn eu haddysg.  Rhoddodd TRAC fynediad iddynt at gwricwlwm amgen, a oedd yn eu galluogi i gymryd cymwysterau achrededig a oedd yn gysylltiedig â chyfleoedd y farchnad lafur lleol a hefyd yn gwella’u cyrhaeddiad.

Llwyddiannau

Gwelodd TRAC lawer o ganlyniadau ardderchog, gan gynnwys:

  • Lleoliadau gwaith yn arwain at gynigion o brentisiaethau neu swyddi parhaol
  • Colegau’n cynnig lleoedd diamod
  • Gwella lles
  • Cymwysterau mewn amrywiaeth o feysydd
  • Cannoedd o bobl ifanc yn datblygu sgiliau newydd i helpu i lunio eu dyfodol
  • Perthnasau cryfach gyda theulu a ffrindiau a chysylltiadau newydd. 

I weld rhai o lwyddiannau TRAC, edrychwch ar yr fideos astudiaethau achos ar sianel YouTube TRAC (gwefan allanol).

Pwy oedd yn rhan o’r prosiect?

Cyngor Sir Ddinbych oedd yn arwain TRAC mewn partneriaeth â: 

Cyllid

Roedd TRAC 11-24 yn brosiect a ariannwyd gan yr Undeb Ewropeaidd, a oedd yn cael cymorth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop Blaenoriaeth Echel 3: Cyflogaeth a Chyrhaeddiad Ieuenctid; Amcan Penodol 2 (lleihau'r nifer o bobl ifanc 11-24 oed sydd â'r risg fwyaf o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET)) yng Ngogledd Cymru.

  • Cyfnod y Prosiect: Gorffennaf 2015 i Rhagfyr 2022
  • Cyllid: £37m a £23m ohono wedi ei ddarparu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop /Cronfeydd Strwythurol
  • Pobl ifanc targed a gefnogwyd: 11,109
  • Pobl Ifanc Gwirioneddol a Gefnogwyd 11,033, ac o’r rhain:
    • Enillodd 1,891 gymwysterau
    • Aeth 1,045 i addysg bellach/hyfforddiant
    • Gostyngodd 4,579 y risg o ddod yn NEET

Logo Cronfa Gymdeithasol Ewrop  Logo TRAC