Beth ddylwn i wneud gyda chardiau Nadolig?

Nid oes posib' ailgylchu cardiau Nadolig sydd â glityr a ffoil arno.

Ar gyfer cardiau Nadolig sydd â glityr a ffoil arno, os gallwch chi rwygo rhubanau neu adrannau o gliter i ffwrdd, gallwch roi’r cardiau i mewn gyda’r papur i’w ailgylchu. Dylid rhoi’r gweddill yn y cynhwysydd gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.

Gwasanaeth Trolibocs

Gwasanaeth bagiau

Gwasanaeth biniau cymunedol


Symbol ailgylchu papur a cherdyn cymysg

Gallwch roi cardiau plaen heb unrhyw glityr na ffoil yn defnyddio cynhwysydd priodol eich gwasanaeth ailgylchu a gwastraff neu mewn Parc Ailgylchu a Gwastraff:

Gwasanaeth Trolibocs

Gwasanaeth bagiau

Gwasanaeth biniau cymunedol

Canllawiau

Cofiwch dynnu unrhyw glityr neu rubanau oddi ar eich cardiau cyn i chi eu rhoi yn eich cynhwysydd priodol eich gwasanaeth ailgylchu a gwastraff, gan nad oes modd ailgylchu’r rhain. Gall batris o gardiau sain fynd i mewn yn eich blwch batris.

Mwy o wybodaeth

Mae gwasanaeth ailgylchu a gwastraff y cartref yn wasanaeth ar gyfer preswylwyr Sir Ddinbych.

Mae modd i fusnesau, elusennau a sefydliadau sector cyhoeddus ddefnyddio ein gwasanaethau gwastraff masnachol neu ddefnyddio contractwr rheoli gwastraff preifat trwyddedig.

Mwy o wybodaeth, yn cynnwys pa wasanaethau gwastraff masnachol sydd ar gael.