Beth ddylwn i ei wneud â gwifrau, ceblau gwefru a phlygiau?

Symbol ailgylchu trydanol

Mae’n rhaid i fanwerthwyr nwyddau trydanol ddarparu ffordd i chi i waredu hen gyfarpar trydanol ac electronig y cartref pan fyddwch yn prynu fersiwn newydd o’r un eitem. Mae hyn yn cynnwys manwerthwyr ar-lein.

Mae rhagor o wybodaeth am gyfrifoldebau manwerthwyr a dosbarthwyr ar wefan GOV.UK (gwefan allanol).

Fel arall, gellir ailgylchu’r rhain gydag eitemau trydanol mewn Canolfannau Ailgylchu. Os ydynt yn gweithio, efallai bydd eich eitemau yn addas i gael eu hailddefnyddio.