Gallwch ailgylchu papur yn defnyddio cynhwysydd priodol eich gwasanaeth ailgylchu a gwastraff neu mewn Parc Ailgylchu a Gwastraff.
Dim papur brown
Mae papur brown (sy’n cael ei ddefnyddio yn aml ar gyfer pecynnau danfon, bagiau bwyd i fynd neu i bacio o amgylch eitemau mewn bocsys) yn cynnwys ffeibrau fel cardfwrdd nad oes posib’ eu hailgylchu gyda phapur arall. Rhowch bapur brown yn eich bag glas neu bin du gyda sticar glas ar gyfer cardfwrdd.
Gwasanaeth Trolibocs
-
Bocs uchaf y trolibocs, gyda chaead glas.
-
Gwasanaeth bagiau
-
y bag glas tywyll amldro
-
Gwasanaeth biniau cymunedol
-
y bin du gyda sticer glas tywyll.
-
Mwy o wybodaeth
Mae gwasanaeth ailgylchu a gwastraff y cartref yn wasanaeth ar gyfer preswylwyr Sir Ddinbych.
Mae modd i fusnesau, elusennau a sefydliadau sector cyhoeddus ddefnyddio ein gwasanaethau gwastraff masnachol neu ddefnyddio contractwr rheoli gwastraff preifat trwyddedig.
Mwy o wybodaeth, yn cynnwys pa wasanaethau gwastraff masnachol sydd ar gael.