Newidiadau'n ymwneud â gwastraff ac ailgylchu: Cyflwyno'r Trolibocs

Y dull mwyaf dibynadwy o sicrhau deunydd ailgylchu o ansawdd uchel yw sicrhau bod deunyddiau fel papur a gwydr yn cael eu casglu ar wahân ar ymyl y palmant.

I wneud hyn yn effeithlon, rydym yn cyflwyno’r Trolibocs - system o flychau y gellir eu pentyrru i gartrefi gyflwyno eu deunydd ailgylchu bob wythnos.

Bydd y Trolibocs ar gael i bob cartref sydd ar y gwasanaeth safonol (gwasanaeth bin ar olwynion) yn 2024.

Trolibocs

Dull newydd o ailgylchu

Rydym yn cyflwyno system deunydd ailgylchu wedi’u didoli y Trolibocs, fel y gallwn wella ansawdd y deunydd ailgylchu rydym yn ei gasglu. Bydd didoli eich deunyddiau ailgylchu i’w casglu yn ein helpu ni i gyflawni hyn a bydd hefyd yn golygu bod mwy o ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu yn aros yn y DU ac yn cael eu hailgylchu fel cynnyrch newydd. Mae ailgylchu mwy a lleihau gwastraff yn well i’n hamgylchedd, gan olygu ein bod yn lleihau ein hallyriadau carbon a helpu i atal newid hinsawdd.

Yn rhan o 'Strategaeth Mwy nag Ailgylchu' Llywodraeth Cymru (gwefan allanol), mae disgwyl i ni ailgylchu 70% o’r gwastraff rydym ni’n ei gasglu erbyn 2025.

System bentyrru

Mae'r system Trolibocs yn cynnwys 3 blwch y gellir eu pentyrru:

  • Blwch uchaf gyda chaead glas ar gyfer casglu papur.
  • Blwch canol gyda chaead coch ar gyfer casglu caniau a phlastig cymysg.
  • Blwch gwaelod gyda chaead gwyrdd ar gyfer casglu poteli a jariau gwydr.

Trolibocs
(y blwch uchaf gyda chaead glas)

Trolibocs

Papur, gan gynnwys:

  • Llythyrau
  • Amlenni
  • Cylchgronau
  • Papurau newydd
  • Taflenni gwybodaeth
  • Catalogau
  • Papur argraffedig

Dim papur brown

Mae papur brown (sy’n cael ei ddefnyddio yn aml ar gyfer pecynnau danfon, bagiau bwyd i fynd neu i bacio o amgylch eitemau mewn bocsys) yn cynnwys ffeibrau fel cardfwrdd nad oes posib’ eu hailgylchu gyda phapur arall. Rhowch bapur brown yn eich bag glas ar gyfer cardfwrdd.

Trolibocs
(y blwch canol gyda chaead coch)

Trolibocs

Metelau cymysg, plastigau a chartonau, gan gynnwys:

  • Caniau metel, tuniau, erosolau gwag a ffoil glân
  • Poteli plastig, potiau, tybiau a hambyrddau
  • Cartonau bwyd a diod, megis "Tetra Pak"
  • Caeadau metel oddi ar boteli neu jariau gwydr

Trolibocs
(y blwch gwaelod gyda chaead gwyrdd)

Trolibocs

Poteli a jariau gwydr (dim caeadau).


Beth ddylwn i wneud â chardfwrdd?

Bydd aelwydydd sy’n derbyn y gwasanaeth bin ar olwynion hefyd yn derbyn bag glas y gellir ei ailddefnyddio er mwyn ailgylchu cardfwrdd. Dysgwch fwy am beth sy’n mynd i le.

Bag glas amldro

Sach las amldro

Cardfwrdd, gan gynnwys:

  • Cardfwrdd
  • Llewys cardfwrdd a ddefnyddir ar gyfer bwydydd wedi’u pecynnu, gan gynnwys prydau parod a chynnyrch sydd â nifer mewn pac
  • Papur brown (papur lapio a deunydd pecynnu a phacio)
  • Cartonau wyau
  • Tiwbiau papur toiled / papur cegin
  • Bocsys grawnfwyd
  • Cardiau cyfarch (heb fathodynnau, rhubanau, gliter neu glymau)

Eitemau trydanol bach

Yn rhan o’ch gwasanaeth casglu ymyl palmant newydd, byddwn hefyd yn casglu eich eitemau trydanol bach (megis tostwyr a raseli trydan) bob wythnos. Rhowch eich eitemau trydanol bach yn rhydd ar ben eich Trolibocs i'w casglu (neu'n rhydd ar ben un o'ch bagiau amldro ar gyfer cartrefi sy'n derbyn y gwasanaeth bagiau).

Dysgwch fwy am y gwasanaeth casglu eitemau trydanol bach.