Cymorth Cartrefi Gwag

Mae arnom ni eisiau ailddefnyddio tai gwag. Rydym ni’n canolbwyntio’n bennaf ar dai sydd wedi bod yn wag ers 6 mis neu fwy ac eiddo heb gynllun hyfyw i’w defnyddio. 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Canllaw perchnogion cartrefi gwag (PDF, 127KB) 

Grant tai gwag

Mae yna grantiau ad-daladwy ar gael i dalu hyd at 50% o gost atgyweirio eiddo gwag (cyfanswm o £10,000). Ar ôl atgyweirio’r eiddo, mae’n rhaid iddo fod ar gael am o leiaf tair blynedd ar gyfradd lwfans tai lleol. Mae amodau eraill hefyd yn berthnasol.

Cymorth Ariannol Tai Gwag (PDF, 56KB)

Pwy sy’n gymwys ar gyfer y grant?

Os ydych chi’n berchen ar dŷ gwag yn Sir Ddinbych neu os ydych chi’n gwybod am dŷ gwag yn y sir sy’n achosi niwsans, rhowch wybod i ni – efallai y bydd cymorth ar gael i chi.

Gwasanaeth paru cartrefi gwag

Oes gennych chi eiddo gwag yn Sir Ddinbych yr hoffech chi ei werthu? Ydych chi’n fuddsoddwr neu’n landlord yn chwilio am eiddo gwag? Darganfyddwch sut fedrwch chi fanteisio ar ein cynllun cartrefi gwag.

Rhowch wybod am dŷ gwag

Os ydych am ein hysbysu am dŷ gwag neu wneud cais am grant, gallwch gwblhau ein ffurflen ymholiadau ar-lein. 

Nid yw’r ffurflen ar-lein ar gyfer y dudalen hon ar gael ar hyn o bryd, ond gallwch gysylltu â ni drwy ddefnyddio ein ffurflen ymholi cyffredinol.

Fel arall, gallwch lawr lwytho ffurflen ymholiadau.

Ffurflen gais cartrefi gwag (MS Word 1021KB)

Os oes gennych chi gartref gwag, efallai y byddai gennych ddiddordeb yn y dudalen Troi Tai’n Gartrefi hefyd.