Taliadau tai yn ôl disgresiwn

Bwriad taliadau dewisol tai yw helpu pobl gyda chostau rhent parhaus, blaendaliadau a/neu symud.

Pwy fyddai’n gymwys?

Dim ond pobl sy’n profi caledi arbennig neu bobl sydd mewn amgylchiadau eithriadol a all dderbyn taliadau tai yn ôl disgresiwn. Mae’n rhaid i’r canlynol fod yn wir hefyd:

  • Mae’n rhaid i’r hawliwr fod â hawl i Fudd-daliad Tai neu Gostau Tai trwy Gredyd Cyffredinol.
  • Mae’n rhaid iddynt fod angen help pellach gyda chostau tai. 
  • Mae’n rhaid i’r Cyngor fod ag arian digonol ar gael i ddelio â’r gost.

Ni allwn wneud taliad ar gyfer y canlynol:

  • Taliadau gwasanaeth. 
  • Taliadau gwasanaethau carthffosiaeth neu ddŵr. 
  • Rhent pan nad ydych ond yn gymwys i hawlio cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor. 
  • I ddelio ag unrhyw ddiffyg oherwydd gordaliad sy’n cael ei adennill. 

Sut y caiff taliadau eu gwneud?

Gall taliadau a ddyfarnir i helpu gyda rhent gael eu talu un ai i chi neu eich landlord. 

Caiff taliadau a ddyfarnir tuag at flaendal neu gostau symud eu talu yn uniongyrchol i’r landlord neu i’r cwmni symud.

Sut i wneud cais

Gallwch ymgeisio am daliad dewisol tai ar gyfer costau rhent parhaus neu ar gyfer blaendal a/neu gostau symud ar-lein 

Costau rhent parhaus 

Gallwch ymgeisio am gymorth gyda’ch rhent parhaus ar-lein.

Ymgeisiwch am gymorth gyda’ch rhent parhaus ar-lein

Costau blaendal neu symud

Gallwch ymgeisio am gymorth gyda blaendal neu gostau symud ar-lein. 

Ymgeisiwch am gymorth gyda blaendal neu gostau symud ar-lein