Tenantiaid y cyngor a thenantiaid cymdeithasol

Gellir talu budd-dal tai i helpu unrhyw un i dalu rhent os byddan nhw ar incwm isel a gallwch ymgeisio p’un ai a ydych chi’n ddi-waith neu’n gweithio. Fel rheol fe delir budd-daliadau tai i bobl sy’n byw mewn llety cyngor neu dai cymdeithasol eraill yn uniongyrchol i’r cyngor neu gymdeithas tai.

Gallwch fod â hawl i gymorth gyda'ch rhent trwy Gredyd Cynhwysol. Os nad ydych yn gymwys ar gyfer Credyd Cynhwysol, efallai bod gennych hawl i fudd-daliadau tai.

Gwiriwch i weld a ydych yn gymwys am Gredyd Cynhwysol (gwefan allanol)

Os ydych yn cael hawlio Credyd Cynhwysol, bydd angen i chi hawlio Gostyngiadau Treth y Cyngor a phrydau ysgol am ddim o hyd.

Sut bydd hyn yn cael ei gyfrifo?

Mae eich hawl i fudd-dal tai’n seiliedig ar eich incwm, eich amgylchiadau personol a swm y rhent y mae’n rhaid i chi ei dalu. Gallwch ffeindio beth allech chi fod â hawl iddo drwy ddefnyddio ein cyfrifiannell budd-daliadau.

Gall faint o ystafelloedd sydd yn eich eiddo effeithio ar eich hawl. Os cewch eich asesu i fod ag un neu fwy o lofftydd ychwanegol yn eich tŷ, gellid lleihau eich budd-dal tai o:

  • 14% os oes gennych chi 1 llofft ychwanegol
  • 25% os oes gennych chi 2 neu fwy o lofftydd ychwanegol

Os oes gennych chi fwy na £16,000 o gynilion, yna fyddech chi ddim fel rheol yn gymwys i gael budd-daliadau tai.

Os ydych wedi gwneud cais, gallwch fewngofnodi i'ch cyfrif neu gofrestru eich manylion i wirio eich hawl ar-lein.

Mewngofnodi neu gofrestru i weld eich hawl i fudd-dal tai.

Llofftydd

Mae’r llywodraeth wedi darparu cyfrifiad penodol i bennu nifer y llofftydd sydd eu hangen ar aelwyd. Caniateir un llofft i chi ar gyfer:

  • Pob oedolyn sengl neu oedolion sy’n gwpl (yn briod neu heb briodi)
  • Unrhyw oedolyn arall sy’n 16 oed neu hŷn
  • Unrhyw ddau blentyn dan 10 oed
  • Unrhyw ddau blentyn o’r un rhyw dan 16 oed
  • Unrhyw blentyn arall
  • Bydd hawlwyr sengl dan 35 oed â hawl i’r gyfradd ystafell a rennir

Gallwch ddefnyddio'r gyfrifiannell llofft (gwefan allanol) i weld faint o lofftydd y mae’r Llywodraeth yn dweud sydd eu hangen arnoch chi.

Sut i ymgeisio

Gofalwch eich bod yn ymgeisio gyn gynted ag sydd bosib er mwyn cael eich hawl llawn. Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais; gallwch wneud hynny ar-lein a darparu tystiolaeth ychwanegol.

Llenwi ffurflen gais budd-dal tai ar lein

Mae'r ffurflen gais ar-lein dim ond ar gael yn Saesneg ar hyn o bryd.

Gallwch hefyd ddefnyddio’r ffurflen hawlio i hawlio gostyngiad treth y Cyngor a phrydau ysgol am ddim.

Tystiolaeth ychwanegol

Allwn ni ddim talu eich budd-dal nes y byddwn wedi gweld y dogfennau gwreiddiol canlynol:

  • Rhifau Yswiriant Gwladol ar eich cyfer chi a’ch partner.
  • Dwy ddogfen adnabod (y person)
  • Cyfalaf, cynilion a buddsoddiadau.
  • Enillion.
  • Unrhyw incwm arall.
  • Unrhyw fudd-daliadau, lwfansau neu bensiynau.
  • Eich tenantiaeth.

Gellir mynd â’r rhain i Dŷ Russell, ein llyfrgelloedd, swyddfeydd arian a siopau un stop.

Partneriaid

Golyga ‘partner’ berson rydych chi wedi priodi â nhw, rydych yn byw efo nhw fel pe baech chi wedi priodi, partner sifil neu berson rydych chi’n byw efo nhw fel pe baech chi’n bartneriaid sifil.

Newid amgylchiadau

Os bydd yna newid yn amgylchiadau eich aelwyd, rhowch wybod i ni yn syth gan y bydd yn effeithio ar eich cais, mae’n debyg. Os na fyddwch yn ein diweddaru mewn pryd, gallech fod ar eich colled neu orfod talu arian yn ôl.

Os ydych wedi symud cyfeiriad, gallwch roi gwybod am newid cyfeiriad ar-lein.

Gallwch gysylltu â ni am unrhyw newidiadau eraill yn eich amgylchiadau

Beth allaf i ei wneud os byddaf yn anghytuno â phenderfyniad budd-dal tai?

Os na fyddwch chi’n fodlon â phenderfyniad am eich hawl i fudd-daliadau, ewch i’n tudalen apeliadau i weld beth allwch chi ei wneud ac a oes help ar gael.