Cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor

Gall cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor helpu pobl sydd ar incwm isel i dalu eu treth gyngor. Fe gaiff unrhyw swm a ddyfernir ei gredydu’n uniongyrchol i gyfrif treth y cyngor.

Ar gyfer pwy mae'r cynllun?

Fe allech gael help oherwydd y canlynol: 

  • rydych chi’n talu Treth Gyngor 
  • rydych chi ar incwm bychan neu’n hawlio budd-daliadau 
  • mae eich cynilion yn is na lefel arbennig - £16,000 fel arfer 

Faint o help allaf i ei gael?

Gallwch gael gostyngiad o hyd at 100% ar eich treth cyngor. Mae faint o ostyngiad y byddwch yn ei gael yn dibynnu ar eich amgylchiadau e.e. eich incwm, pwy sy'n byw yn eich cartref a'ch cynilion. 

Gallwch ffeindio beth allech chi fod â hawl iddo drwy ddefnyddio ein cyfrifiannell budd-daliadau.

Sut i ymgeisio

Gallwch gael gostyngiad o hyd at 100% ar eich treth gyngor. Bydd faint o ostyngiad gewch chi’n dibynnu ar eich amgylchiadau e.e. eich incwm, pwy sy’n byw ar eich aelwyd a’ch cynilion. 

Llenwi ffurflen ar-lein

Mae'r ffurflen gais ar-lein dim ond ar gael yn Saesneg ar hyn o bryd.

Gallwch hefyd ddefnyddio’r ffurflen hawlio i hawlio budd-dal tai a phrydau ysgol am ddim.

Os ydych wedi gwneud cais, gallwch fewngofnodi i'ch cyfrif neu gofrestru eich manylion i wirio eich hawl ar-lein.

Mewngofnodi neu gofrestru i weld eich hawl i gostyngiadau'r dreth gyngor

Os bydd eich amgylchiadau'n newid

Os bydd yna newid yn amgylchiadau eich aelwyd, rhowch wybod i ni ar unwaith gan y bydd yn debygol o effeithio ar eich hawliad. Os na fyddwch yn ein diweddaru mewn pryd, gallech fod ar eich colled neu orfod talu arian yn ôl.

Os ydych wedi symud cyfeiriad , gallwch roi gwybod am newid cyfeiriad ar-lein.

Gallwch gysylltu â ni am unrhyw newidiadau eraill yn eich amgylchiadau.