Disgowntiau a eithriadau treth y cyngor

Mae yna sawl disgownt ar gael a all leihau eich bil, ac fe all rhai eiddo gael eu heithrio rhag treth cyngor.

Gall disgownt leihau eich bil o:

  • 25% pan mae un oedolyn yn unig yn byw mewn eiddo, neu pan mae gan aelwyd fwy nag un oedolyn, ond mae’r oedolion eraill wedi’u heithrio o bwrpasau treth y cyngor. 
  • 50% pan mae oedolion yn cael eu heithrio am wahanol resymau, neu os oes un oedolyn yn unig sy'n cael ei hepgor yn unig, ac nid oes eithriad ar gael. 
  • Talu band llai gyda gostyngiad anabledd

Caniateir eithriadau i eiddo nid person. Gellir cymhwyso rhai eithriadau ar gyfer amser penodol yn unig ac felly efallai na fyddan nhw ar gael os cawson nhw eu dyfarnu’n flaenorol. Hefyd, mewn rhai achosion efallai y bydd angen archwilio eiddo gan swyddog ymweld i wirio’r amgylchiadau. 

Dewiswch bennawd isod am ragor o wybodaeth.

Disgownt Person Sengl

Disgownt Person Sengl

Os mai dim ond un oedolyn sy’n byw mewn eiddo, a hwnnw’n unig neu’n brif breswylfa'r person hwnnw, yna gellir dyfarnu disgownt o 25%.

A allaf i gael disgownt person sengl ar eiddo gwag?

Na, gellir cymhwyso disgownt person sengl i unig neu brif fan preswyl person. Felly os ydych yn berchen ar ddau neu fwy o anheddau, byddech yn gymwys ar gyfer y disgownt person sengl yn eich prif eiddo yn unig os byddai hynny’n gymwys.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am ostyngiad person sengl drwy gyfrif ar-lein.

Mewngofnodi neu gofrestru cyfrif

Gofalwyr/gweithwyr gofal

Gofalwyr/gweithwyr gofal

Mae gofalwyr yn cael eu heithrio er pwrpasau disgownt cyn belled eu bod yn cael eu cyflogi gan Awdurdod Lleol neu Elusen sy’n darparu gofal, neu’n cael ei gyflwyno i’r unigolyn sy’n derbyn gofal gan Awdurdod Lleol neu Elusen, ac yn cael eu cyflogi am 24 awr yr wythnos o leiaf, ac nid ydynt yn derbyn mwy na £50.55 yr wythnos, ac yn byw yn yr eiddo a ddarperir gan, neu ar ran yr Awdurdod Lleol neu Elusen i berfformio’n well yn eu gwaith.

Mae gofalwr yn berson sy’n darparu gofal i unigolyn sy’n derbyn lwfans gweini uwch, neu gyfradd uchaf elfen ofal lwfans byw i’r anabledd, neu'r gyfradd ganol neu uchel o gydran gofal lwfans byw anabledd, neu’n deryn cynnydd i'r lwfans gweini cyson.

Mae’n rhaid i'r gofalwr fod yn byw yn yr un annedd, a darparu gofal am 35 awr yr wythnos o leiaf. Ni all y gofalwr fod yn briod neu’n bartner i’r llall, nac ychwaith yn riant i blentyn dan 18 mlwydd oed.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am y disgownt hwn drwy gwblhau ffurflen gais.

Ffurflen gais i ddiystyrwch gofalwr (PDF, 223KB)

Bobl sy'n Gadael Gofal
(Esemptiad Dosbarth X)

Bobl sy'n Gadael Gofal

O 1 Ebrill 2019, bydd pobl sy’n gadael gofal wedi eu heithrio rhag talu Treth y Cyngor. Os yw sawl sy’n gadael gofal yn byw ar ben ei hun, neu os mai dim ond pobl sy'n gadael gofal sy’n byw yn yr eiddo, bydd Eithriad i Dreth y Cyngor yn berthnasol hyd at y dyddiad maent yn troi’n 25 oed.

Os yw person sy’n gadael gofal yn byw gydag un neu fwy o oedolion, bydd gostyngiad o 25% yn berthnasol ar Dreth y Cyngor. I fod yn gymwys am yr eithriad/ gostyngiad hwn, rhaid bodloni’r amodau a ganlyn:

  • Rhaid i’r sawl sy’n gadael gofal fod yn o leiaf 18 oed ond yn iau na 25
  • Yn cael ei ystyried yn berson ifanc categori 3 yn ôl diffiniad adran 104 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
  • Nid yw bellach yn derbyn gofal gan awdurdod lleol

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am y disgownt hwn drwy lenwi ffurflen gais. Efallai y byddwn yn cysylltu â gwasanaethau cymdeithasol o fewn Sir Ddinbych, neu awdurdod lleol arall i wirio'r wybodaeth a ddarparwyd gennych.

Ffurflen gais am Esemptiad Dosbarth X a ddiystyru sawl sy'n gadael gofal (PDF, 286KB)

Gostyngiad oherwydd Anabledd

Gostyngiad oherwydd Anabledd

Gellir rhoi gostyngiad os cyflawnir unrhyw un o’r meini prawf canlynol:

  • Mae cadair olwyn yn cael ei defnyddio yn y tŷ.
  • Mae angen ail ystafell ymolchi neu gegin i gwrdd ag anghenion person anabl.
  • Mae yna ystafell ar wahân i ystafell ymolchi, cegin neu doiled sy’n cael ei defnyddio’n bennaf gan y person anabl ac sy’n ofynnol i gwrdd â’u hanghenion.

Mae’r disgownt hwn yn gweithio gan ostwng y band ar eich bil e.e. os ydych yn byw mewn tŷ band D, yna codir yr un tâl a thŷ band C. Gellir dyfarnu gostyngiad anabledd ynghyd â disgowntiau eraill.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am yr eithriad hwn ar-lein.

Gwneud cais am Ostyngiad Treth y Cyngor i Unigolyn Anabl ar-lein

Eiddo heb ei feddiannu, heb ddodrefn gan fwyaf ac angen gwaith strwythurol mawr
(Esemptiad Dosbarth A)

Eiddo heb ei feddiannu, heb ddodrefn gan fwyaf ac angen gwaith strwythurol mawr

Mae'r eithriad (sy'n parhau am ddim mwy na 12 mis o'r 1af Ebrill 2000) yn berthnasol i unrhyw eiddo trigiannol gwag sydd:

  • yn cael neu angen ei adnewyddu'n strwythurol i'w wneud yn addas i fyw ynddo
  • yn cael ei adnewyddu'n strwythurol
  • wedi cael gwaith atgyweirio mawr arno i'w wneud yn addas i fyw ynddo a chyfnod o lai na chwe mis wedi mynd heibio ers i'r gwaith gael ei gwblhau'n sylweddol a'r eiddo wedi aros yn wag ers hynny

Mae'r eithriad sy'n parhau am ddim mwy na 12 mis.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am yr eithriad hwn ar-lein.

Gwnewch gais am eithriad o'r dreth gyngor dosbarth A ar-lein

Adeiladau gwag sy’n eiffo I elusenau
(Esemptiad Dosbarth B)

Adeiladau gwag sy’n eiffo I elusenau (Esemptiad Dosbarth B)

Er mwyn cymhwyso rhaid i'r adeilad fod wedi'i ddefnyddio olaf i bwrpas elusenol Gellir cael yr eithriad hwn i unrhyw adeilad a fu'n wag / heb ddodrefn am gyfnod llai na 6 mis. Os bu'r adeilad mewn defnydd am lai na 6 wythnos yna bydd yr eithriad yn rhedeg o'r dyddiad blaenorol y bu'n wag.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am yr eithriad hwn drwy gwblhau ffurflen gais.

Ffurflen gais am Esemptiad Dosbarth B (PDF, 599KB)

Eiddo heb ei feddiannu a heb ddodrefn gan fwyaf
(Esemptiad Dosbarth C)

Eiddo heb ei feddiannu a heb ddodrefn gan fwyaf

Mae’r rhyddhad hwn yn cynnwys unrhyw gartref sydd wedi bod yn wag a heb ddodrefn am lai na chwech mis. Ar ol chwech mis bydd raid talu 100% am yr eiddo. Os bydd pobl yn byw yn y cartref am lai na 6 wythnos yna bydd y cyfnod rhyddhad yn rhedeg o’r dyddiad gwag blaenorol.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am yr eithriad hwn ar-lein.

Gwneud cais am Esemptiad Dosbarth C ar-lein

Pobl yn y carchar neu yn y ddalfa
(Esemptiad Dosbarth D)

Pobl yn y carchar neu yn y ddalfa (Esemptiad Dosbarth D)

Yr adeilad hwn yw unig neu brif gartref y person hwnnw. Mae'r diffiniad yn cynnwys pobl sy'n cael eu dal o dan bwerau mewnfudo neu iechyd y meddwl, ond nid y rhai sydd yn y carchar am beidio talu'r Dreth Gyngor.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am yr eithriad neu’r disgownt hwn drwy gwblhau ffurflen gais. Byddem yn cysylltu â’r carchar neu ganolfan gadw cyn caniatáu’r eithriad hwn.

Pobl mewn ysbytai neu gartrefi gofal
(Esemptiad Dosbarth E)

Pobl mewn ysbytai neu gartrefi gofal

Mae pobl yn diystyrir os mae'n nhw yn rhai â'u hunig neu brif gartref mewn cartref gofal neu gartref nyrsio. Nid yw bod mewn cartref dros-dro neu am gyfnod byr yn cyfrif.

Mae'r eithriad dosbarth E yn cynnwys unrhyw adeilad gwag oedd yn brif neu unig gartref y preswylwyr sydd nawr fel eu hunig neu brif gartref mewn Ysbyty neu Gartref Nyrsio /Cartref Gofal ac sy'n derbyn gofal neu driniaeth.

Sut i wneud cais am disgownt hwn

Gallwch wneud cais am y disgownt hwn drwy gwblhau ffurflen gais.

Ffurflen gais am parhaol preswylwyr mewn ysbytai neu gartrefi gofal (PDF, 162KB)

Sut i wneud cais am esemtiad hwn

Gallwch wneud cais am yr eithriad hwn ar-lein.

Gwneud cais am Esemptiad Dosbarth E ar-lein

Eddio wedi ei adael yn wag gan berson marw
(Esemptiad Dosbarth F)

Eddio wedi ei adael yn wag gan berson marw

Mae’r eithriad hwn yn cynnwys unrhyw anedd a adawyd yn wag gan berson cyfrifol sydd wedi marw. Bydd yn eithriad yn para am hyd at chwech mis ar ol trefnu profiannaeth neu os cafwyd llythyrau gweinyddu. Mae’r eithriad yn cynnwys hefyd eiddo ar rent o laf Ebrill 1994. Ar ol 6 mis codir 100% ar yr eiddo.

Os oes preswylwyr eraill mewn eiddo sy'n eiddo i rywun sydd wedi marw neu'n cael ei rentu ganddo, nid oes eithriad ac atebolrwydd i breswylydd arall. Gall person a oedd yn atebol ar y cyd ac yn unigol ddod yn unig atebol. Lle bo eiddo sy'n eiddo ar y cyd yn wag eisoes, er enghraifft ail gartref, nid yw marwolaeth un o'r perchnogion (e.e. priod) yn arwain at esemptiad.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am yr eithriad hwn drwy gwblhau ffurflen gais.

Ffurflen gais am Esemptiad Dosbarth F (PDF, 110KB)

Gwaherddir anheddu'r eiddo drwy gyfraith
(Esemptiad Dosbarth G)

Gwaherddir anheddu'r eiddo drwy gyfraith

Mae'r eithriad hwn yn gymwys i unrhyw annedd LLE gwaherddir byw ynddo yn ol y gyfraith neu os bydd yn dal yn wag oherwydd bod byw ynddo wedi'i wahardd neu gyda'r bwriad o'i gaffael, yn unol a phwerau unrhyw Ddeddf Seneddol. Mae'r eithriad yn gymwys dim ond os bydd yr eiddo'n wag. Os bydd rhywun yn byw ynddo'n anghyfreithlon, yna mae'r deiliaid yn gyfrifol ac nid yw'r eithriad yn gymwys.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am yr eithriad hwn drwy gwblhau ffurflen gais.

Ffurflen gais am Esemptiad Dosbarth G (PDF, 525KB)

Anheddau clerigwyr sy'n wag
(Esemptiad Dosbarth H)

Anheddau clerigwyr sy'n wag

I fod yn gymwys, rhaid i'r llety fod yn wag, ac ar gael yn benodol i weinidog, o unrhyw enwad crefyddol,fel cartref lle y gall ef, neu hi, gyflawni dyletswyddau'i swydd. Nid yw'n ofynnol mai gweinidog oedd deiliad diweddaraf y llety, ac nid oes unrhyw reidrwydd ynghylch perchnogaeth y llety.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am yr eithriad hwn drwy gwblhau ffurflen gais.

Ffurflen gais am Esemptiad Dosbarth H (PDF, 426KB)

Eiddo gadawyd yn wag gan rywun sy'n derbyn gofal
(Esemptiad Dosbarth I)

Eiddo gadawyd yn wag gan rywun sy'n derbyn gofal

Dyfernir Eithriad Dosbarth I pan adewir eiddo’n wag a bod y deiliad wedi mynd i fyw gyda rhywun arall i dderbyn gofal, neu wedi mynd i aros mewn sefydliad na gaiff ei ystyried yn gartref gofal neu ysbyty.

Dyfernir yr eithriad hwn

  • Os mai’r annedd wag oedd unig neu brif breswylfa’r unigolyn sy’n absennol
  • Os yw’r unigolyn yn byw rhywle arall i dderbyn gofal personol oherwydd un o’r cyflyrau canlynol:
    • henaint
    • anabledd
    • salwch
    • dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau
    • anhwylder meddyliol

Ni ddyfernir yr eithriad os yw’r unigolyn yn aros dros dro yn yr ysbyty neu mewn lleoliad gofal seibiant.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am yr eithriad hwn ar-lein.

Gwnewch gais am eithriad o'r dreth gyngor Dosbarth I ar-lein

Gostyngiadau ac eithriadau cysylltiedig

Dyfernir gostyngiad neu eithriad Dosbarth E os yw’r unigolyn (neu unigolion) sy’n gyfrifol am dalu Treth y Cyngor yn byw’n barhaol mewn ysbyty, hostel, cartref gofal neu gartref nyrsio.

Eiddo gadawyd yn wag gan rywun sy'n darparu gofal
(Esemptiad Dosbarth J)

Eiddo gadawyd yn wag gan rywun sy'n darparu gofal (Esemptiad Dosbarth J)

Dyfernir eithriad Dosbarth J pan adewir eiddo’n wag gan rywun sy’n darparu gofal i rywun arall. Dyfernir yr eithriad hwn:

  • Os yw’r sawl sy’n darparu gofal yn gorfod bod yn absennol o’r eiddo gwag am y cyfnod dan sylw.
  • Os mai’r eiddo gwag oedd unig neu brif breswylfa’r sawl sy’n darparu gofal.
  • Os yw’r unigolyn yn byw rhywle arall i ddarparu gofal personol oherwydd un o’r cyflyrau canlynol:
    • henaint
    • anabledd
    • salwch
    • dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau
    • anhwylder meddyliol

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am yr eithriad hwn ar-lein.

Gwnewch gais am eithriad o'r dreth gyngor dosbarth J ar-lein

Eiddo wedi eu gadael yn wag gan fyfyrwyr amser llawn
(Esemptiad Dosbarth K)

Eiddo wedi eu gadael yn wag gan fyfyrwyr amser llawn

I fod yn gymwys, rhaid i'r llety fod yn wag a rhaid mai hwn oedd unig, neu brif gartref y perchnogion, sy'n fyfyrwyr, a bod neb arall, ar wahan i fyfyrwyr, yn byw yno. Rhaid i'r myfyrwyr fod yn 'bobl gymwys', hynny yw, mai hwy ddylai dalu'r Treth Cyngor, onibai am yr eithrio. Mewn rhai achosion, gall fod y bobl gymwys heb fod yn fyfyrwyr tan iddyn nhw adael eu prif gartrefi. Os felly, rhaid iddyn nhw fod yn fyfyrwyr o fewn chwech wythnos i adael y llety, er mwyn i'r eithriad fod yn ddilys. Mae'r eithriad yn parhau cyhyd ag y bo'r bobl yn dal i fod yn fyfyrwyr.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am yr eithriad hwn drwy gwblhau ffurflen gais.

Ffurflen gais am Esemptiad Dosbarth K (PDF, 833KB)

Eiddo sydd wedi eu hadfeddiannu
(Esemptiad Dosbarth L)

Eiddo sydd wedi eu hadfeddiannu

I fod yn gymwys i'r eithriad yma mae'n rhaid i'r eiddo fod yn wag a'r rhoddwr morgais [fel arfer sefydliad cyllidedol] wedi cymeryd meddiant or eiddo. Nid yw'r meddiant yma yn golygu newid mewn perchnogaeth. Mae'r eithriad yma yn ddilys or dyddiad mae'r eiddo yn wag. Os nad yw'r eiddo yn wag pan mae'r rhoddwr morgais yn cymeryd meddiant, nid yw'r eithriad yncychwyn nes mae'r eiddo yn wag. Mae'r eithriad yn parhau hyd nes pan werthi'r yr eiddo neu pan mae'r rhoddwr morgais yn gorffen meddiant.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am yr eithriad hwn drwy gwblhau ffurflen gais.

Ffurflen gais am Esemptiad Dosbarth L (PDF, 426KB)

Neuaddau preswyl sy'n cael eu meddiannu gan fyfyrwyr
(Esemptiad Dosbarth M)

Neuaddau preswyl sy'n cael eu meddiannu gan fyfyrwyr

Caiff neuaddau preswyl ar gyfer myfyrwyr eu heithrio, cyhyd â bod y llety yn eiddo i, neu o dan reolaeth, sefydliad addysgol cofrestredig, neu gorff a sefydlwyd at bwrpas elusennol yn unig, neu sy'n rhan o gytundeb yn caniatau i sefydliad addysgol enwebu mwyafrif y myfyrwyr preswyl. Rhaid i'r llety fod yn bennaf ar gyfer myfyrwyr, ond nid oes unrhyw rwystr i ran o'r adeilad fod yn llety i aelodau o'r gweithlu, neu bobl eraill. Nid oes eithriad i lety ar gyfer nyrsys o dan hyfforddiant traddodiadol, ond os bydd y llety myfyrwyr yn darparu ar gyfer nyrsys sy'n derbyn addysg amser-llawn yn unig, gellid ystyried adeilad felly yn neuadd breswyl. Mae myfyrwyr sydd ar gwrs nyrsio mewn prifysgol, neu sefydliad addysg uwch arall yn cael eu hystyried fel myfyrwyr academaidd.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am yr eithriad hwn drwy gwblhau ffurflen gais.

Ffurflen gais am Esemptiad Dosbarth M (PDF, 424KB)

Fyfyrwyr amser llawn
(Esemptiad Dosbarth N)

Fyfyrwyr amser llawn

Os yw pob preswylydd mewn aelwyd yn cael eu heithrio am eu bod yn fyfyrwyr, byddant yn gymwys ar gyfer eithriad llawn i dreth y cyngor.

Os yw myfyrwyr ac unigolion nad ydynt yn fyfyrwyr yn byw mewn eiddo, gallant fod yn gymwys o hyd ar gyfer gostyngiadau i dreth y cyngor. Bydd hyn yn dibynnu ar y nifer o unigolion nad ydynt yn fyfyrwyr sy’n byw yn yr aelwyd.

Os oes un unigolyn nad ydynt yn fyfyriwr ac nad ydynt yn disgyn i unrhyw gategori eithriad arall, gall disgownt o 25% fod yn gymwys o hyd.

Os oes dau neu fwy o bobl nad ydynt yn fyfyrwyr ac nad ydynt yn disgyn i unrhyw gategori eithriad arall, ni ddyfernir unrhyw ddisgownt, a bydd angen talu treth y cyngor yn llawn. Yn yr achosion hyn, bydd yr aelodau nad ydynt yn fyfyrwyr yn gyfrifol am dalu treth y cyngor.

Bydd y myfyriwr yn atebol os mai nhw yw’r unig unigolyn sy’n gyfrifol am dalu treth y cyngor.

Beth rydym yn ystyried i fod yn fyfyriwr llawn amser:

Byddwch yn cael eich ystyried i fod yn fyfyriwr llawn amser er pwrpasau treth y cyngor os ydych yn:

  • fyfyriwr sy’n ymgymryd â chwrs astudio mewn sefydliad addysgol yng Nghymru, Lloegr neu'n Aelod-wladwriaeth o’r Undeb Ewropeaidd, sy’n para am flwyddyn academaidd ac yn astudio am 24 wythnos o’r flwyddyn academaidd honno o leiaf, gan gynnwys 21 awr o astudio'r wythnos o leiaf yn ystod y tymor.
  • Darpar nyrsys sy’n dilyn cwrs mewn coleg nyrsio a bydwreigiaeth neu goleg iechyd, ac os yn llwyddiannus bydd yn arwain at eich cynnwys ar y gofrestr a gedwir dan adran 10 Deddf Nyrsys, Bydwragedd ac Ymwelwyr Iechyd 1979.
  • Myfyrwyr sy’n dilyn cwrs cymwys, sydd dan 20 mlwydd oed a’u cwrs yn arwain at gymhwyster hyd at (ond nid yn uwch na) Lefel A safonol neu gyfwerth – sy’n para'n hirach na thri mis ac sy’n cynnwys mwy na 12 awr o astudio’r wythnos yn ogystal â gweithgareddau perthnasol y cwrs a gynhelir rhwng 8:00am a 5:30pm.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am yr disgownt neu eithriad hwn arlein.

Gwneud cais am ddiystyru neu eithrio myfyrwyr ar-lein

Llety lluoedd arfog
(Esemptiad Dosbarth O)

Llety lluoedd arfog

Mae llety preswyl Lluoedd Arfog y DU, sy'n eiddo i'r Ysgrifennydd Gwladol, wedi'i eithrio, pa un ai oes deiliaid ai peidio. Mae hyn yn cynnwys adeiladau eraill ar safleodd milwrol, ynghyd ag anheddau parau priod, ac unrhyw letyoedd eraill, lle bynnag y bônt, cyhyd â'u bod yn cael eu cadw ar gyfer lletya'r Lluoedd. Bydd adeilad a gedwir i letya'r Lluoedd, ond sydd, am gyfnod, â dinasyddion preifat yn byw ynddo yn dal i gael ei eithrio, tra nad yw adeilad o eiddo'r Weinyddiaeth Amddiffyn a gedwir i bwrpas lletya dinasyddion preifat,e.e. y Fyddin Diriogaethol, yn cael ei eithrio.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am yr eithriad hwn drwy gwblhau ffurflen gais.

Ffurflen gais am Esemptiad Dosbarth O (PDF, 424KB)

Llety lluoedd arfog ar ymweliad
(Esemptiad Dosbarth P)

Llety lluoedd arfog ar ymweliad (class P exemption)

Mae adeilad yn cael ei eithrio o'r Dreth Cyngor, os oes gan berson, a fyddai fel arall yn atebol i'r Dreth, 'gysylltiad perthnasol' â Lluoedd ar Ymweliad o wlad sy'n dod o fewn y Ddeddf Lluoedd ar Ymweliad 1952. Mae gan berson 'gysylltiad perthnasol' os yw:

  • yn aelod o'r Lluoedd hynny, neu'n perthyn i elfen anfilwrol o'r Lluoedd hynny; neu
  • Yn ddibynnydd i aelod, onibai bod y dibynnydd yn (a) ddinesydd Prydeinig neu (b) yn ddinesydd Prydeinig, nad yw fel arfer yn preswylio'n y DU.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am yr eithriad hwn drwy gwblhau ffurflen gais.

Ffurflen gais am Esemptiad Dosbarth P (PDF, 427KB)

Anheddau a adawyd yn wag gan fethdalwyr
(Esemptiad Dosbarth Q)

Anheddau a adawyd yn wag gan fethdalwyr

Mae'r eithrio'n digwydd os yw rhywun, a fyddai'n atebol i dalu Treth Cyngor am lety gwag, yn ymddiriedolwr mewn methdalwriaeth. Mae'r eithrio'n digwydd os yw'r llety wedi'i ddodrefnu neu beidio, ac yn arbed i'r ymddiriedolwr wynebu dyledion ychwanegol na ellid eu cwrdd allan o ystâd y methdalwr. Mae'r eithrio'n digwydd hefyd, pa un ai yw'r ymddiriedolwr yn gyd-atebol gyda pherson arall, ai peidio.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am yr eithriad hwn drwy gwblhau ffurflen gais.

Ffurflen gais am Esemptiad Dosbarth Q (PDF, 423KB)

Lleiniau carafan/angorfeydd cychod heb eu meddiannu
(Esemptiad Dosbarth R)

Lleiniau carafan/angorfeydd cychod heb eu meddiannu

Mae'n bosibl y bydd safleoedd carafanau ac angorfeydd cychod yn anheddau o safbwynt Treth y Cyngor. Bydd safle lle nad oes carafan neu angorfa lle nad oes cwch yn cael eu heithrio am y cyfnod llawn pan fydd hyn yn wir. Mae'r eithriad hwn yn peidio â bod gynted ag y bydd carafan neu gwch yn cael eu rhoi ar y safle neu'r angorfa.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am yr eithriad hwn drwy gwblhau ffurflen gais.

Ffurflen gais am Esemptiad Dosbarth R (PDF, 423 KB)

Eiddo en cael ei feddiannu dim ond gan bobl sydd dan 18 oed
(Esemptiad Dosbarth S)

Eiddo en cael ei feddiannu dim ond gan bobl sydd dan 18 oed

Mae'r eithriad hwn yn gymwys i unrhyw eiddo lle mae person(au) o dan 18 oed yn byw oherwydd, ar gyfer Treth y Cyngor, ni ellir eu dal yn gyfrifol am Dreth y Cyngor. Daeth yr eithriad hwn i rym o 1 Ebrill 1995.Y perchennog, yn yr achos hwn, fydd yn gyfrifol ond ni fydd yn talu Treth y Cyngor.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am yr eithriad hwn drwy gwblhau ffurflen gais.

Ffurflen gais am Esemptiad Dosbarth S (PDF, 423KB)

Anecs sydd heb ei feddiannu i annedd sy'n cael ei feddiannu
(Esemptiad Dosbarth T)

Anecs sydd heb ei feddiannu i annedd sy'n cael ei feddiannu

Mae'r eithriad hwn yn gymwys i eiddo sy'n rhan o adeilad arall a lle na ellir gosod yr annedd gwag arwahân i'r annedd arall, heb dorri amod cynllunio o fewn ystyr s.171A Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Gall yr eithriad fod yn gymwys os bydd yr estyniad â dodrefn ynddo ai peidio. Bydd yr annedd hwn yn cael ei eithrio o dan y dosbarth hwn hyd yn oed os bydd yr annedd arall yn dod yn wag.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am yr eithriad hwn drwy gwblhau ffurflen gais.

Ffurflen gais am Esemptiad Dosbarth T (PDF, 423KB)

Pobl sydd â nam meddyliol difrifol
(Esemptiad Dosbarth U)

Pobl sydd â nam meddyliol difrifol

Gallai unrhyw un sydd wedi cael ardystiad meddygol fod ganddo nam meddyliol difrifol (SMI) fod yn gymwys am ddisgownt Treth Gyngor. Mae hyn yn golygu bod gan y person gyflwr parhaol sy’n effeithio’n ddifrifol ar ei weithrediad deallusol neu gymdeithasol.

Ymhlith y cyflyrau sy’n gallu arwain at nam meddyliol difrifol mae clefyd Alzheimer a mathau Eraill o ddementia, clefyd Parkinson, anawsterau dysgu difrifol neu strôc, ond gall sawl un arall fod yn berthnasol hefyd. I fod yn gymwys, rhaid i’r person gael diagnosis o SMI gan feddyg a rhaid iddo fod â hawl hefyd i un o’r budd-daliadau a restrir yn y ffurflen hon (boed yn derbyn y budd-dal ai peidio).

Lefel y disgownt:

  • Os ydych wedi cael diagnosis o SMI gan feddyg, ac yn byw ar eich pen eich hun neu dim ond gyda phobl eraill sydd â SMI, byddwch yn cael eich eithrio rhag talu’r Dreth Gyngor
  • Os ydych wedi cael diagnosis o SMI gan feddyg, ac yn byw gydag un oedolyn sy’n gymwys i dalu treth gyngor, bydd eich cartref yn cael gostyngiad o 25%.
  • Os ydych wedi cael diagnosis o SMI gan feddyg, ac yn byw gyda 2 neu ragor o oedolion, ni fydd unrhyw ostyngiad.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am yr eithriad neu’r disgownt hwn drwy gwblhau ffurflen gais.

Ffurflen gais am Esemptiad Dosbarth U a ddiystyrwch am nam meddyliol difrifol (PDF, 122KB)

Prif breswylfa person sydd â braint ddiplomatig neu imiwnedd
(Esemptiad Dosbarth V)

Prif breswylfa person sydd â braint ddiplomatig neu imiwnedd

Mae’r eithriad hwn yn gymwys i anheddau sy’n brif breswylfa yn y Deyrnas Unedig o leiaf un person y mae

  • Deddf Rhagorfreintiau 1964
  • Deddf Ysgrifenyddiaeth y Gymanwlad 1966
  • Deddf Cysylltiadau Consylaidd 1968
  • neu Orchymyn Gwledydd y Gymanwlad a Gweriniaeth Iwerddon (Breintryddid a Rhagorfreintiau) 1985

Nid yw’r person i fod yn:

  • ddeiliad nac yn Ddinesydd Prydeinig (B)
  • ddinesydd tiriogaethau Dibynnol B
  • ddinesydd Tramor Cenedlaethol B
  • berson gwarchodedig B
  • A B. protected person
  • neu’n breswylydd parhaol yn y DU

Os oes yna breswylydd sydd â diddordeb yn yr eiddo sy’n uwchraddol, o ran hierarchaeth atebolrwydd i’r diplomydd neu’r person dan sylw, nid yw’r eithriad yn gymwys.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am yr eithriad hwn drwy gwblhau ffurflen gais.

Ffurflen gais am Esemptiad Dosbarth V (PDF, 856 KB)

Anecsau sy'n cael eu meddiannu
(Esemptiad Dosbarth W)

Anecsau sy'n cael eu meddiannu

Mae’r eithriad hwn yn ymwneud ag anheddau os ydyn nhw’n ffurfio rhan o eiddo sengl yn cynnwys o leiaf un annedd arall a’i fod yn unig neu’n brif breswylfa perthynas dibynnol person sy’n preswylio yn yr annedd arall hwnnw (neu un o’r anheddau eraill hynny). 'Perthynas dibynnol’, i’r dibenion hyn ydi:

  • person sy’n 65 oed neu’n hŷn
  • person sydd â nam meddyliol difrifol (yn ôl ystyr Atodlen 1 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992)
  • person sy’n sylweddol neu’n barhaol anabl (boed hynny oherwydd salwch, anaf, camffurfiad cynenedigol neu fel arall)

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am yr eithriad hwn drwy gwblhau ffurflen gais.

Ffurflen gais am Esemptiad Dosbarth W (PDF, 472KB)

Prentisiaid

Prentisiaid

Diystyrir prentisiaid cyflogedig sydd yn cael hyfforddiant tuag at gymhwyster a gydnabyddir gan Gyngor Cenedlaethol Cymwysterau Galwedigaethol (N.C.V.Q.) os yw’r cyflog neu lwfans yn llai na £195.00 yr wythnos.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am y disgownt hwn drwy gwblhau ffurflen gais.

Ffurflen gais am ddiystyru prentisiaid (PDF, 353KB)

Rhai sy'n gadael ysgol a choleg

Rhai sy'n gadael ysgol a choleg

Mae rhai sy’n gadael ysgol a choleg yn cynnwys dosbarth C y dosbarthiadau o ‘Bersonau a disgrifiadau eraill’ a nodir yn rheoliadau treth cyngor (darpariaethau ychwanegol ar gyfer anwybyddiadau disgownt) 1992. Mae’r category hwn yn cynnwys pobl ifanc sy’n 18 neu’n 19 oed sy’n gadael ysgol neu goleg rhwng Mai 1af a Hydref 31ain mewn unrhyw flwyddyn. Caiff pobl sydd dan 20 sy’n gadael ysgol neu sy’n gorffen cwrs mewn coleg addysg bellach ar ôl Ebrill 30ain mewn unrhyw flwyddyn, eu hanwybyddu i ddibenion disgownt tan y Tachwedd 1af nesaf.

I ddibenion yr anwybyddiad hwn, mae’r termau ‘cwrs addysg amser llawn’ a ‘cwrs addysg ymgymhwyso’ â’r ystyron a nodir yn rhan II atodlen 1 i’r gorchmynion anwybyddiadau disgownt 2. Mewn gwirionedd, mae’r anwybyddiad yn rhoi digon o amser i’r rheiny sy’n mynd i mewn i addysg bellach fod wedi cymhwyso ar gyfer statws myfyriwr heb i hynny gael unrhyw effaith ar dreth cyngor yn eu cartref. Mae’r ddarpariaeth o bwysigrwydd arbennig i rieni sengl a fyddai’n colli disgownt fel arall pan fydd eu plentyn yn cyrraedd 18 oed.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am y disgownt hwn drwy gwblhau ffurflen gais.

Ffurflen gais diystyru rhai sy'n gadael ysgol a choleg (PDF, 337KB)

Phobl y telir budd-dal plant iddyn nhw

Phobl y telir budd-dal plant iddyn nhw

Caiff person, dros 18 oed, y mae bud-dal plant yn daladwy iddo/iddi, ei h/eithrio at bwrpas hawlio Disgownt y Dreth Gyngor.

Mae'n rhaid i chi hysbysu'r Pennaeth Gwasanaethau Refeniw fewn 21 niwrnod i'r Budd-dal Plant ddod i ben, parthed y person dan sylw. Gellir eithrio'r unigolyn am gyfnod byr ar ol gadael ysgol ac os ye ef neu hi yn dod yn fyfyriwr llawn-amser.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am y disgownt hwn drwy gwblhau ffurflen gais.

Ffurflen gais i diystyru personau y mae budd-dal plant yn daladwy iddynt (PDF, 293KB)

Cynorthwywyr ieithoedd tramor cofrestredig

Cynorthwywyr ieithoedd tramor cofrestredig

Caiff cynorthwywyr ieithoedd tramor eu trin fel myfyrwyr ac felly gellir eu hanwybyddu i ddibenion disgownt yn ystod y cyfnod y cânt eu penodi felly mewn ysgol neu sefydliad addysgol arall mewn unrhyw le ym Mhrydain Fawr, cyn belled â’u bod wedi eu cofrestru fel cynorthwywyr ieithoedd tramor efo’r Cyngor Prydeinig.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am y disgownt hwn drwy gwblhau ffurflen gais.

Ffurflen gais i ddiystyrwch cynorthwywyr ieithoedd tramor (PDF, 335KB)

Hyfforddeion hyfforddiant ieuenctid

Hyfforddeion hyfforddiant ieuenctid

Diystyrir y rhai sydd dan 25 oed ac yn cael hyfforddiant a drefnwyd dan Adran 2 o Ddeddf Hyfforddiant Gwaith 1973.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am y disgownt hwn drwy gwblhau ffurflen gais.

Ffurflen gais am ddiystyru hyfforddai ieuenctid (PDF, 336KB)

Aelodau (a dibynyddion) o'r lluoedd ymweliadol

Aelodau (a dibynyddion) o'r lluoedd ymweliadol

Gall unigolyn gael ei ddiystyru ar gyfer dibenion gostyngiad os oes ganddo ef neu hi 'gysylltiad perthnasol’ gydag aelod o’r lluoedd arfog sy’n ymweld o un o’r gwledydd y mae’r Ddeddf Lluoedd Arfog sy’n ymweld 1952 yn gymwys.

Mae gan unigolyn gysylltiad perthnasol os ydynt yn:

  • aelod o’r llu hwnnw, neu’n aelod o gydran sifil y llu; neu
  • yn ddibynnol ar aelod, os nad yw'r dibynnydd yn (a) Ddinesydd Prydeinig neu (b) yn Ddinesydd Prydeinig nad yw'r preswylio fel arfer yn y DU

Gall aelodaeth unigolyn o luoedd sy’n ymweld ei brofi gyda thystysgrif a gyhoeddwyd o dan adran 11 Deddf Lluoedd Arfog sy’n Ymweld 1952.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am y disgownt hwn drwy gwblhau ffurflen gais.

Ffurflen gais i ddiystyru'r aelodau (a dibynyddion) o'r lluoedd ymweliadol (PDF, 202KB)

Aelodau o bencadlysoedd rhyngwladol

Aelodau o bencadlysoedd rhyngwladol

Bydd aelod neu un sy’n ddibynnol arno yn Ôl diffiniad Deddf Pencadlysoedd Rhyngwladol a Sefydliadau Amddiffyn 1964 yn cael ei ddiystyrru.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am y disgownt hwn drwy gwblhau ffurflen gais.

Ffurflen gais i ddiystyru'r aelodau o bencadlysoedd rhyngwladol (PDF, 256KB)

Mynaich a lleia

Mynaich a lleia

Diystyrir aelodau o gymunedau crefyddol sy’n treulio y rhan fwyaf o’u hamser mewn gweddi, myfyrdod, addysg, ymgeledd neu gyfuniad ohonynt.

Rhaid i'r person hefyd fod heb unrhyw incwm na chyfalaf ei hun (gan anwybyddu unrhyw incwm trwy bensiwn mewn perthynas â chyflogaeth flaenorol) ac mae'n dibynnu ar y gymuned i ddarparu ar gyfer ei anghenion materol.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am y disgownt hwn drwy gwblhau ffurflen gais.

Ffurflen gais i ddiystyru mynaich a lleia (PDF, 256KB)

Sgwrsio gydag ymgynghorydd

Sgwrsio gydag ymgynghorydd ar-lein. Dydd Llun i ddydd Iau: 9am tan 5pm. Dydd Gwener: 9:00am tan 4.30pm.