Ailbrisio ardrethi busnes
Mae ailbrisio ardrethi busnes yn broses statudol gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio (gwefan allanol), sy’n adolygu a diweddaru gwerth trethiannol pob eiddo annomestig yng Nghymru a Lloegr.
Mae gwerth trethiannol eiddo yn adlewyrchu’r swm rhent blynyddol y gallai fod wedi’i gael yn rhesymol ar ddyddiad prisio penodol. Mae’r rhestr ardrethi bresennol yn seiliedig ar ddyddiad prisio 1 Ebrill 2021.
Bydd yr ailbrisio yn weithredol o 1 Ebrill 2026
Daw set newydd o werthoedd trethiannol i rym o 1 Ebrill 2026.
Gall busnesau weld gwybodaeth am ailbrisio ar GOV.UK (gwefan allanol), gan gynnwys:
Chwilio am eich gwerth trethiannol ar-lein (gwefan allanol)
Dylech wybod:
- caiff y lluosydd ei adolygu’n flynyddol
- gall eich bil terfynol newid pan fydd y lluosydd newydd wedi’i gadarnhau ar gyfer y flwyddyn ariannol berthnasol
Os ydych chi’n credu bod eich gwerth trethiannol yn anghywir
Asiantaeth y Swyddfa Brisio sy’n gyfrifol am osod gwerthoedd trethiannol. Dylech gysylltu â nhw (gwefan allanol):
- os ydych chi’n credu bod eich gwerth trethiannol yn rhy uchel
- os yw eich eiddo wedi newid mewn ffordd a allai effeithio ar ei werth
Mae’n rhaid i chi barhau i dalu eich ardrethi busnes tra bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn adolygu eich achos.
Pwy sy’n gwneud beth
- Asiantaeth y Swyddfa Brisio sy’n gosod gwerth trethiannol pob eiddo
- Y Cyngor sy’n cyhoeddi biliau ardrethi busnes a delio ag ymholiadau am filiau