Ardrethi busnes: Gostyngiad Trosiannol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cynllun i gynorthwyo i ddiogelu busnesau bach rhag effaith yr ailbrisiad, gan gyfyngu'r cynnydd yn y symiau sy'n daladwy. Mae'r cynllun wedi'i ddylunio fel a ganlyn.

  • Mae'r cyfyngiad ar gynnydd yn y bil ardrethi o 2016/17 i 2017/18 wedi'i gapio yn 25% dros £100
  • Ni fydd unrhyw gynnydd mewn ardrethi taladwy hyd at £100 yn derbyn gostyngiad trosiannol.
  • Mae'r gostyngiad trosiannol yn gysylltiedig â'r cyfrif fel y bo ar 1 Ebrill 2017 felly bydd unrhyw newid mewn atebolrwydd e.e. newid mewn meddiannaeth yn terfynu'r gostyngiad o ddyddiad y newid

Mae'r meini prawf cymhwyso fel a ganlyn:

  • Mae'n rhaid i'r Eiddo dderbyn Gostyngiad Ardrethi Busnesau Bach ar 31 Mawrth 2017 (gweler yr adran uchod ar Ostyngiad Ardrethi Busnesau Bach)
  • Mae'n rhaid i'r Trethdalwr fod wedi derbyn cynnydd yn y bil blynyddol o dros £100
  • Mae'n rhaid i'r Eiddo fod wedi'i feddiannu ar 31 Mawrth 2017 a 1 Ebrill 2017
  • Nid yw gostyngiad trosiannol yn daladwy ar eiddo gwag
  • Bydd unrhyw newid mewn atebolrwydd h.y. bod yr eiddo'n mynd yn wag neu newid meddiannydd, yn terfynu'r gostyngiad

Nid oes angen cyflwyno cais ar gyfer y gostyngiad hwn  gan y bydd y swm newydd yn cael ei gyfrifo'n awtomatig. Fodd bynnag, os ydych chi'n credu eich bod yn gymwys ond nad ydych wedi derbyn unrhyw ostyngiad ac eich bod eisiau i ni adolygu eich achos cysylltwch â ni ar: ardrethibusnes@sirddinbych.gov.uk neu ffôn 01824 706000. 

Mae Gostyngiad Trosiannol yn para am 3 blynedd.