Ardrethi Busnes: Rhyddhad Ardrethi Lletygarwch Bwyd a Diod
Mae Rhyddhad Ardrethi Lletygarwch Bwyd a Diod wedi'i anelu at fusnesau cymwys yn y sector lletygarwch bwyd a diod.Nod y rhyddhad yw helpu'r sectorau hyn i reoli pwysau costau parhaus.
Beth sydd ar gael trwy’r rhyddhad hwn
Cyfanswm y rhyddhad a ariennir gan y llywodraeth sydd ar gael i bob eiddo o dan y cynllun hwn ar gyfer 2026-27 (1 Ebrill 2026 i 31 Mawrth 2027) yw 15% o'r bil perthnasol. Bydd uchafswm yn cael ei osod, sef £110,000 fesul busnes ar draws holl eiddo’r busnes hwnnw yng Nghymru
Pwy sy’n gymwys ar gyfer y rhyddhad hwn?
Mae eiddo (hereditamentau) a ddefnyddir ar gyfer gwerthu bwyd a/neu ddiodydd i aelodau o’r cyhoedd sy’n ymweld yn gymwys ar gyfer y rhyddhad hwn, megis:
- tafarnau
- bwytai
- caffis
- bariau
- lleoliadau cerddoriaeth fyw
Lleoliadau cerddoriaeth fyw
Lleoliad cerddoriaeth fyw yw eiddo sy'n cael ei ddefnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf ar gyfer perfformio cerddoriaeth fyw at ddibenion diddanu cynulleidfa. Yr unig weithgareddau eraill y gellir defnyddio eiddo cymwys ar eu cyfer yw rhai sy'n ategol i berfformio cerddoriaeth fyw neu'n gysylltiedig â hynny (e.e. gwerthu bwyd neu ddiod i aelodau'r gynulleidfa) neu weithgareddau nad ydynt yn effeithio ar y prif ddefnydd hwn (e.e. defnydd achlysurol o'r lleoliad fel gorsaf bleidleisio neu ddigwyddiad cymunedol).
Mae llawer o leoliadau cerddoriaeth fyw yn perthyn i ddosbarthiadau o fathau eraill o eiddo sy'n gymwys ar gyfer y rhyddhad hwn (e.e. tafarnau, bwytai a bariau). Nid yw eiddo yn lleoliad cerddoriaeth fyw at ddibenion y rhyddhad hwn os yw'n cael ei ddefnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf fel clwb nos neu theatr.
Eiddo nad ydynt yn gymwys ar gyfer y rhyddhad hwn
Nid yw eiddo a ddefnyddir at y dibenion canlynol ac amgylchiadau eraill yn gymwys ar gyfer y rhyddhad:
- eiddo sy'n destun y lluosydd manwerthu
- Yn cael eu defnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf i ddarparu llety byw fel busnes (e.e. gwestai, tai llety a thai byrddio, cartrefi gwyliau, a pharciau a safleoedd carafannau)
- Yn cael eu defnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf ar gyfer gwerthu nwyddau i aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld â nhw (e.e. siopau, ystafelloedd arddangos, warysau manwerthu ac archfarchnadoedd)
- Yn cael eu defnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf ar gyfer gwerthu neu ddarparu gwasanaethau i aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld â nhw (e.e. gwasanaethau ariannol neu broffesiynol, salonau a golchdai)
- Yn cael eu defnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf ar gyfer cyfleusterau chwaraeon a hamdden i aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld â nhw (e.e. canolfannau chwaraeon, atyniadau ymwelwyr, theatrau a sinemâu)
- Yn cael eu defnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf ar gyfer aelodau o'r cyhoedd sy'n ymgynnull ynddynt (e.e. tai clwb, neuaddau a sefydliadau cyhoeddus)
- eiddo nad ydynt yn rhesymol hygyrch i aelodau o’r cyhoedd sy’n ymweld
- eiddo nad ydynt yn cael eu meddiannu
- eiddo y mae awdurdod lleol yn berchen arno, neu y mae awdurdod lleol yn ei rentu neu ei reoli
Sut i wneud cais am Ryddhad Ardrethi Lletygarwch Bwyd a Diod
Bydd angen i chi wneud cais ar-lein am Ryddhad Ardrethi Lletygarwch Bwyd a Diod.
Rhaid gwneud ceisiadau erbyn 31 Mawrth 2027 er mwyn i dalwyr ardrethi fod yn gymwys ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Lletygarwch Bwyd a Diod yn 2026-27.
Ymgeisio am Ryddhad Ardrethi Lletygarwch Bwyd a Diod 2026-27 ar-lein