Caru Busnesau Lleol

Mae ymgyrch #CaruBusnesauLleol yn annog pobl i ddefnyddio eu siopau a gwasanaethau lleol, a rhannu eu profiadau positif i ddangos bod Sir Ddinbych yn lle gwych i siopa a mwynhau.

Mae’n rhoi dull defnyddiol i fusnesau hyrwyddo eu hunain, eu nwyddau, cynigion a digwyddiadau, a hyrwyddo ei gilydd hefyd.

Cael mwy wybodaeth yn y fideo isod (Mae'r fideo ond ar gael yn Saesneg)

Sut i gymryd rhan

Gall busnesau a chwsmeriaid gymryd rhan drwy gynnwys #CaruBusnesauLleol (gewfan allanol) yn eu trydariadau ar twitter ac ymuno’r grŵp #CaruBusnesauLleol ar Facebook (gwefan allanol)

Mae modd i chi ddefnyddio #CaruBusnesauLleol i;

  • Rannu lluniau o flaen eich siop neu eich nwyddau
  • Hyrwyddo eich tref ac eraill
  • Annog cwsmeriaid i ddefnyddio ein neges syml ar Facebook (gwefan allanol) a Twitter (gwefan allanol). Hoffi’r hyn a brynwyd? Dangoswch eich cariad #CaruBusnesauLleol

Adnoddau Marchnata ar gyfer Busnesau

Mae yna adnoddau marchnata am ddim, i fusnesau gael defnyddio a rhannu pethau fel:

  • logos
  • fframiau cyfryngau cymdeithasol
  • pecyn gwaith busnes
  • lluniau

Edrychwch ar adnoddau marchnata #carubusnesaulleol i fusnesau, a’u lawrlwytho (gwefan allanol)

Rydym yn dymuno:

  • Cynyddu ymgysylltiad cwsmeriaid gyda busnesau drwy annog defnyddwyr i ddefnyddio'r hashnod
  • Hyrwyddo diddordeb yn y wasg ar gyfer siopa'n lleol
  • Annog busnesau i ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol fel modd i rannu gwybodaeth am y budd o siopa'n Sir Ddinbych
  • Magu cysylltiadau agosach â busnesau fydd yn cefnogi a chroes-hyrwyddo'i gilydd drwy ddefnyddio'r hashnod ac annog pobl i siopa'n lleol

Rydym am i chi:

  • Hyrwyddo'r ymgyrch drwy eich cyfrifon cymdeithasol eich hunain gan ddefnyddio'r hashnod.
  • Cymryd lluniau o'r cynnyrch a'u postio ar y Weplyfr (gwefan allanol) a Twitter (gwefan allanol) gan ddefnyddio'r hashnod: #CaruBusnesauLleol #LoveLiveLocal

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr ymgyrch, dilynwch ni ar Twitter @cyngorsirdd (gwefan allanol) ac ar y Weplyfr (gwefan allanol).