Iechyd a diogelwch i fusnesau - Cymorth cyntaf

Os ydi person yn y gweithle’n cael anaf, mae’n bwysig eu bod yn derbyn sylw’n syth bin. Mae cymorth cyntaf yn y gweithle yn cynnwys y trefniadau y mae’n rhaid i chi eu gwneud i sicrhau bod hyn yn digwydd.

Beth sydd ei angen arnaf?

Ar y lleiaf, mae arnoch chi angen blwch cymorth cyntaf â’r nwyddau angenrheidiol a pherson wedi ei benodi i ofalu am roi cymorth cyntaf. 

Y Blwch Cymorth Cyntaf

Lle nad oes risg penodol yn eich gweithle, mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn awgrymu y dylech chi fod â’r canlynol yn eich blwch cymorth cyntaf; 

  • Canllaw defnyddwyr 
  • 20 gorchudd adlynol di-haint wedi eu lapio’n unigol 
  • 2 bad llygad di-haint 
  • 4 rhwymyn triongl wedi eu lapio’n unigol 
  • 6 phin cau 
  • 6 gorchudd anaf maint canolig di-haint anfeddyginiaethol wedi eu lapio’n unigol 
  • 2 orchudd anaf mawr di-haint anfeddyginiaethol wedi eu lapio’n unigol 
  • Pâr o fenig tafladwy 

Taflenni cymorth cyntaf

Fe allwch chi fynd i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (gwefan allanol) a lawrlwytho taflenni cymorth cyntaf sy’n cynnwys cyngor ar gymorth cyntaf yn y gweithle.