Coronafeirws: Cymorth brys i fusnesau
Gwybodaeth ar gymorth brys i fusnesau yn sgil y Coronafeirws.
Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth
Os ydych yn hunangyflogedig neu’n aelod o bartneriaeth a bod coronafeirws (COVID-19) wedi effeithio’n andwyol arnoch, defnyddiwch y cynllun hwn os ydych yn gymwys i hawlio’r grant drwy’r Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth.
Mwy am y Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth (gwefan allanol)
Cynllun Cadw Swyddi yn sgil y Coronafeirws
Nod y cynllun hwn yw diogelu swyddi hyfyw mewn busnesau sy'n wynebu llai o alw dros fisoedd y gaeaf oherwydd Covid-19, er mwyn helpu i gadw eu gweithwyr yn gysylltiedig â'r gweithlu.
Ewch i GOV.UK am mwy gwybodaeth am y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil y Coronafeirws (gwefan allanol)
Cynllun Benthyg Adfer
Mae'r Cynllun Benthyg Adfer yn galluogi busnesau llai i gael gafael ar gyllid yn gyflymach yn ystod yr achosion o goronafeirws.
Mwy o wybodaeth am y Cynllun Benthyg Adfer (gwefan allanol)
Cynllun Benthyciad Busnes
Mae Llywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru wedi cyhoeddi Cynllun Benthyciad Busnes £100m Cymru i gefnogi busnesau a effeithiwyd arnynt gan yr achosion o Covid-19.
Ewch i wefan Banc Datblygu Cymru am fwy o wybodaeth am y Cynllun Benthyciad Busnes (gwefan allanol)
Cynllun Cadw Swyddi yn sgil y Coronafeirws
Cyflwynwyd y fenter hon gan CThEM, mae’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil y Coronafeirws yn nodi y bydd holl gyflogwyr y DU sydd â chynllun Talu wrth Ennill yn gallu cael mynediad at gymorth i barhau i dalu rhan o gyflog eu gweithwyr ar gyfer y gweithwyr hynny a fyddai fel arall wedi cael eu diswyddo yn ystod yr argyfwng hwn.
I gael mwy o wybodaeth am y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil y Coronafeirws ewch i'r wefan Cefnogi Busnes (gwefan allanol)
Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes yn sgil y Coronafeirws
Mae’r Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes yn sgil y Coronafeirws yn darparu cefnogaeth ariannol i fusnesau llai ar draws y DU sy’n colli refeniw, ac yn gweld effaith ar eu llif arian, yn sgil achosion COVID-19.
Ewch i'r Banc Busnes Prydeinig i gael mwy o wybodaeth am y Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes yn Sgil y Coronafeirws (gwefan allanol)
Tâl Salwch Statudol
Bydd gweithwyr sy’n dilyn cyngor i aros gartref ac sy’n methu gweithio o ganlyniad yn gymwys i dâl salwch statudol, hyd yn oed os nad ydynt yn sâl eu hunain.
Ewch i'r wefan Cefnogi Busnes am wybodaeth ar Dâl Salwch Statudol (gwefan allanol)
Gohirio taliadau Hunanasesiad
Fel un o fesurau cymorth y llywodraeth yn sgil coronafeirws (COVID-19), cafodd trethdalwyr Hunanasesiad yr opsiwn o ohirio’u taliad ar gyfrif ar gyfer mis Gorffennaf 2020 tan 31 Ionawr 2021.
I wybod mwy am gwneud eich taliadau Hunanasesiad (gwefan allanol)
Llinell Gymorth CThEM i Gefnogi Coronafeirws
Mae llinell gymorth arbennig wedi’i sefydlu gan CThEM i gefnogi busnesau a phobl hunangyflogedig sydd mewn trallod ariannol ac sydd â rhwymedigaethau treth heb eu talu i dderbyn cymorth gyda’u problemau treth.
Mwy o wybodaeth am y Linell Gymorth Coronafeirws (gwefan allanol)
Yswiriant
Dylai busnesau sydd â sicrwydd yswiriant dros bandemigau a gorchymyn gan y Llywodraeth i gau fod wedi’u cynnwys, gan fod y Llywodraeth a’r diwydiant yswiriant wedi cadarnhau ar 17 Mawrth 2020 fod cyngor i osgoi tafarndai, theatrau ac ati yn rheswm digonol i wneud hawliad.
Mae polisïau yswiriant yn amrywio’n fawr, felly anogir busnesau i wirio telerau ac amodau eu polisi penodol a chysylltu â’u darparwyr. Mae’n debygol na fydd y mwyafrif o fusnesau wedi’u cynnwys, gan fod polisïau yswiriant ymyrraeth i fusnes safonol yn ddibynnol ar ddifrod i eiddo ac yn eithrio pandemigau.
Cymorth ychwanegol i’r gyfundrefn les
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn gobeithio cefnogi pawb sydd wedi’u heffeithio gan y coronafeirws drwy ddarparu gwybodaeth a manylion ynghylch hawlio budd-daliadau
Mae Siop Cyngor Ar Bopeth (gwefan allanol) hefyd ar gael i’ch helpu chi i wneud cais cychwynnol neu eich helpu i ddiweddaru eich cais presennol.
Dogfennau cysylltiedig
Ailddechrau ac ailagor busnes (PDF, 470KB)