Mae’r cynlluniau grant cysylltiedig ag ardrethi annomestig sy’n cael eu cyflwyno gan Weinidogion Cymru ar gyfer y cyfnod cyfyngiadau rhwng mis Rhagfyr 2020 a mis Ionawr 2021 fel a ganlyn.
Grant A
Taliad grant arian parod o £3,000 ar gyfer busnesau lletygarwch gyda hereditamentau sy’n gymwys i dderbyn Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach. Bydd awdurdodau lleol yn prosesu’r taliad grant hwn o £3,000 ar gyfer busnesau lletygarwch cymwys a dderbyniodd grant sy’n gysylltiedig â Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach (SBRR) drwy’r cynllun Cyfnod Atal Byr diweddar heb fod angen cyflwyno unrhyw brosesau ymgeisio pellach.
Bydd angen i fusnesau lletygarwch cymwys na chyflwynodd eu manylion am grant ardrethi annomestig yn ystod y Cyfnod Atal Byr lenwi ffurflen gofrestru fer (gweler tudalen 4 am ragor o wybodaeth).
Bydd Grant A ar gael i fusnesau lletygarwch, twristiaeth a hamdden a’u cadwyn gyflenwi a busnesau manwerthu sydd ag eiddo SBRR cymwys a all ddangos (ar sail hunanddatganedig) ostyngiad o fwy na 40% mewn trosiant o ganlyniad uniongyrchol i’r cyfyngiadau newydd. Bydd awdurdodau lleol yn agor y broses gofrestru ar gyfer busnesau lletygarwch ar 16 Rhagfyr ac ar gyfer busnesau cymwys eraill ar 4 Ionawr. Gofynnir i fusnesau sy'n gwneud cais yn ffenestr mis Ionawr hunanddatgan drwy ffurflen gofrestru fer os oedd ganddynt ostyngiad o 40% mewn trosiant ar gyfer mis Rhagfyr 2020 o gymharu â mis Rhagfyr 2019 neu o gymharu â throsiant ar gyfer Medi 2020 os nad oeddent yn masnachu ym mis Rhagfyr 2019.
I fod yn gymwys ar gyfer y grant hwn, bydd gan fusnesau hereditament gyda gwerth ardrethol o £12,000 neu lai.
Ar gyfer busnesau sydd angen cofrestru, mae’n rhaid bod eu hereditament wedi bod ar y rhestr raddio Ardrethi Annomestig ar 1 Medi 2020 ac mae angen i’r trethdalwr fod wedi bod yn feddiannydd ar yr eiddo ar 30 Tachwedd 2020.
Mae’r cyfyngiad eiddo lluosog sy’n berthnasol i’r cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach yn berthnasol i’r grant hwn. Felly, dim ond ar gyfer uchafswm o ddau eiddo ym mhob ardal awdurdod lleol y caiff yr un trethdalwr dderbyn y grant.
Bydd Grant A hefyd yn berthnasol i bob trethdalwr sy’n gymwys i gael rhyddhad elusennol a rhyddhad Clybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol (CASC), sy’n gweithredu yn y sectorau hamdden a lletygarwch wedi’u lleoli mewn eiddo â gwerth ardrethol o hyd at £12,000. Mae disgresiwn gan awdurdodau lleol i ddarparu grantiau i gyrff dielw yr ystyriant sy’n gweithredu at ddibenion elusennol ond nad ydynt yn cael rhyddhad elusennol na rhyddhad CASC ar hyn o bryd. Dim ond i sefydliadau dielw sy’n cael rhyddhad ardrethi dewisol neu sydd â hawl iddo ac sy’n gweithredu yn y sectorau , hamdden neu letygarwch y mae’r disgresiwn hwn yn berthnasol.
Grant B
Taliad grant arian parod o £5,000 ar gyfer busnesau lletygarwch sy’n meddiannu hereditamentau sydd â gwerth ardrethol o rhwng £12,001 a £51,000. Bydd awdurdodau lleol yn prosesu’r taliad grant hwn o £5,000 ar gyfer busnesau lletygarwch cymwys a dderbyniodd grant o £5,000 sy’n gysylltiedig ag ardrethi annomestig drwy’r cynllun Cyfnod Atal Byr diweddar heb fod angen cyflwyno unrhyw brosesau ymgeisio pellach.
Bydd angen i fusnesau lletygarwch cymwys na chyflwynodd eu manylion am grant ardrethi annomestig yn ystod y Cyfnod Atal Byr lenwi ffurflen gofrestru fer a fydd ar gael yn ystod mis Rhagfyr 2020.
Bydd Grant B ar gael i fusnesau lletygarwch, twristiaeth a hamdden a’u cadwyn gyflenwi a busnesau manwerthu sydd â gwerth ardrethol o rhwng £12,001 a £51,000 a all ddangos (ar sail hunanddatganedig) ostyngiad o fwy na 40% mewn trosiant o ganlyniad uniongyrchol i’r cyfyngiadau newydd. Bydd awdurdodau lleol yn agor y broses gofrestru ar gyfer busnesau lletygarwch ar 16 Rhagfyr ac ar gyfer busnesau cymwys eraill ar 4 Ionawr. Gofynnir i fusnesau sy'n gwneud cais yn ffenestr mis Ionawr hunanddatgan drwy ffurflen gofrestru fer os oedd ganddynt ostyngiad o 40% mewn trosiant ar gyfer mis Rhagfyr 2020 o gymharu â mis Rhagfyr 2019 neu o gymharu â throsiant ar gyfer Medi 2020 os nad oeddent yn masnachu ym mis Rhagfyr 2019.
Ar gyfer busnesau sydd angen cofrestru, mae’n rhaid bod eu hereditament wedi bod ar y rhestr raddio ardrethi annomestig ar 1 Medi 2020 ac mae angen i’r trethdalwr fod wedi bod yn feddiannydd ar yr eiddo ar 30 Tachwedd 2020.
Mae’r grant hefyd ar gael i sefydliadau dielw sy’n meddiannu eiddo lletygarwch a hamdden cymwys.
Grant C
Taliad grant arian parod o £5,000 ar gyfer busnesau lletygarwch sy’n meddiannu hereditamentau sydd â gwerth ardrethol o rhwng £51,001 a £150,000. Mae’n rhaid bod hereditament yr ymgeisydd wedi bod ar y rhestr raddio ardrethi annomestig ar 1 Medi 2020 ac mae angen i’r trethdalwr fod wedi meddiannu’r eiddo ar 30 Tachwedd 2020.
Bydd angen i fusnesau gwblhau proses gofrestru fer a fydd ar gael yn ystod mis Rhagfyr 2020.
Bydd Grant C ar gael i fusnesau lletygarwch, twristiaeth a hamdden a’u cadwyn cyflenwi a busnesau manwerthu sydd â gwerth ardrethol o rhwng £12,001 a £51,000 a all ddangos (ar sail hunanddatganedig) ostyngiad o fwy na 40% mewn trosiant o ganlyniad uniongyrchol i’r cyfyngiadau newydd. Bydd awdurdodau lleol yn agor y broses gofrestru ar gyfer busnesau lletygarwch ar 16 Rhagfyr ac ar gyfer busnesau cymwys eraill ar 4 Ionawr. Gofynnir i fusnesau sy'n gwneud cais yn ffenestr mis Ionawr hunanddatgan drwy ffurflen gofrestru fer os oedd ganddynt ostyngiad o 40% mewn trosiant ar gyfer mis Rhagfyr 2020 o gymharu â mis Rhagfyr 2019 neu o gymharu â throsiant ar gyfer Medi 2020 os nad oeddent yn masnachu ym mis Rhagfyr 2019.
Mae’r grant hefyd ar gael i sefydliadau dielw sy’n meddiannu eiddo lletygarwch cymwys.
Mewn perthynas â llety hunanarlwyo, mae’r un canllawiau ag ar gyfer cynlluniau grant blaenorol sy’n gysylltiedig ag ardrethi annomestig yn berthnasol, sef na fydd eiddo’n gymwys i gael y grant oni bai bod y meini prawf canlynol yn cael eu bodloni:
- Gall y llety hunanarlwyo ddarparu dwy flynedd o gyfrifon masnachu am y cyfnod yn union cyn blwyddyn ariannol gyfredol y busnes
- Rhaid bod y llety hunanarlwyo wedi’i osod am gyfnod o 140 diwrnod neu fwy ym mlwyddyn ariannol 2019-20
- Rhaid i’r busnes llety hunanarlwyo fod yn brif ffynhonnell incwm i’r perchennog (isafswm trothwy yw 50%).
Ar gyfer eiddo hunanarlwyo, mae gan awdurdodau lleol ddisgresiwn llawn i ofyn am gyfrifon busnes masnachu, rhestrau archebu a ffurflenni treth hunanasesu a gyflwynwyd i CThEM ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2019 os oes angen tystiolaeth ychwanegol i ddangos i’r meini prawf hyn gael eu bodloni.
Mewn perthynas â gamblo a hapchwarae, mae arcedau o’r math y gellid eu dosbarthu’n ddifyrrwch yn hytrach na safleoedd hapchwarae yn cael eu hystyried yn sefydliadau hamdden ac maent yn gymwys i gael y grantiau naill ai drwy’r llwybr rhyddhad ardrethi busnesau bach neu, os yw gwerth ardrethol y safle’n eu gwneud yn gymwys, am y grant mwy o £5,000 fel cyfleusterau hamdden.
O ran sefydliadau hapchwarae (sydd fel arfer i’w gweld mewn amgylchedd canol dinas ond a allai fod wedi’u lleoli yn unrhyw le hefyd) sydd fel arfer â mynediad cyfyngedig i bobl 18 oed a throsodd ac sydd a) heb hawl i ryddhad ardrethi i fusnesau bach a b) lle mai gamblo yn hytrach na difyrrwch yw’r prif weithgaredd, nid ydynt yn gymwys ar gyfer y grant manwerthu, hamdden a lletygarwch. Mae canllawiau’r cynllun Ardrethi Annomestig ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yng Nghymru – 2020-21 yn eithrio hereditamentau gamblo yn benodol.
Ni fydd busnesau’n gymwys i dderbyn y naill grant neu’r llall os yw un o’r categorïau canlynol yn berthnasol:
- Gorfodwyd i gau ar ôl torri rheolau cadw pellter cymdeithasol. Fodd bynnag, os oes gwelliannau wedi’u gwneud a bod y busnes wedi cael ailagor yna mae’n bosibl y gall fod yn gymwys i gael y grant (yn amodol ar fodloni’r meini prawf cymhwysedd).
- Busnesau a ddewisodd gau ond nad yw’n ofynnol iddynt wneud hynny
- Heb fod wedi’u diddymu neu yn y broses o gael eu dileu
- Wedi croesi’r terfyn Cymorth Gwladwriaethol