Ardaloedd adnewyddu

Mae ardal adnewyddu yn ardal ddiffiniedig lle rydym ni’n ymgymryd â gwelliannau allanol i adeiladau ac i’r amgylchedd er mwyn gwneud yr ardal yn fwy diogel, deniadol a dymunol, ac yn fan lle gall drigolion ymfalchïo ynddo.

Ar hyn o bryd mae yna ddwy ardal adnewyddu yn Sir Ddinbych: De Orllewin / Dwyrain y Rhyl, a Rhodfa’r Gorllewin, y Rhyl. Gallwch weld map o’r ardaloedd adnewyddu yma:

Map: ardaloedd adnewyddu - y Rhyl (PDF, 4.82MB)

I’n helpu ni benderfynu pa ardal sy’n cael ei dynodi’n ardal adnewyddu, rydym ni’n cynnal astudiaeth sy’n edrych ar adeiladau a statws cymdeithasol-economaidd yr ardal, ac ar sawl eiddo preifat sydd yn yr ardal. Mae hyn yn ein helpu i benderfynu ar y ffordd orau i adnewyddu’r ardal.

Pob blwyddyn rydym ni’n derbyn arian gan Lywodraeth Cymru i adfywio ardaloedd adnewyddu. Gall y swm rydym ni’n ei dderbyn amrywio ac felly rydym ni’n cynllunio ein gwaith yn unol â’r swm y byddwn yn ei dderbyn.

Beth rydym ni'n ei wneud mewn ardal adnewyddu?

Rydym ni’n gwella'r tu allan i adeiladau gan gynnwys: 

  • toeau 
  • simnai 
  • ffenestri 
  • waliau allanol 
  • gwteri 
  • pibelli carthion 
  • waliau terfyn llwybrau a phalmentydd (weithiau)

Rydym ni hefyd yn gwneud gwelliannau amgylcheddol drwy ddatblygu tir diffaith, gwella mannau agored a lonydd, a llawer mwy.

Mae’r gwaith yma’n gwella tai a chyfleusterau ardaloedd lle mae yna dai gwael a phroblemau cymdeithasol ac amgylcheddol.

Beth os ydw i'n byw mewn ardal adnewyddu?

Os ydych chi’n berchen ar eiddo mewn ardal adnewyddu, efallai y byddwch yn derbyn gwahoddiad i ymuno â chynllun atgyweirio grŵp.

Gyda chynllun atgyweirio grŵp bydd gwaith atgyweirio neu ailwampio yn cael ei wneud ar rannau allanol grwpiau o eiddo. Mae yna sawl cynllun atgyweirio grŵp o fewn ardal adnewyddu. Gall y gwaith ymestyn hyd oes eiddo a gwella edrychiad yr ardal.

Does dim rhaid i chi ymuno â chynllun atgyweirio grŵp. Byddwn yn cysylltu â chi 6-8 mis cyn bydd y gwaith yn dechrau i weld a oes gennych chi ddiddordeb ymuno â’r cynllun. Mwy o wybodaeth am gynlluniau atgyweirio grŵp:

Cynlluniau atgyweirio grŵp (PDF, 98KB)