Adfywio'r Rhyl: Stryd Edward Henry

Stryd Edward Henry, Y Rhyl

Mae cynlluniau ar gyfer Stryd Edward Henry yn cynnwys adeiladu tai modern i deuluoedd, yn lle'r fflatiau gwag nad ydynt yn briodol ar gyfer bywyd modern sydd ddim yn bodloni anghenion y boblogaeth leol na'r ardal sydd yn llawn llety â fflatiau tebyg.

Mae'r cynllun yma wedi'i leoli yng nghanol y Rhyl a bydd yn bodloni anghenion teuluoedd yn yr ardal leol. Bydd y math o dai sy'n cael eu cynnig yn ymateb i ofynion teuluoedd sy'n chwilio am gartrefi o ansawdd da, yn enwedig y rhai sydd eisiau aros yn yr ardal, neu symud i'r ardal.

Stryd Edward Henry, Y Rhyl

Y nod yw creu cynllun tai modern llawn cyfarpar sydd yn sensitif i’r cyd-destun lleol, cymeriad ac ardal gadwraeth, tra’n bodloni amrywiaeth o anghenion gwahanol o ran tai. Bydd y cartrefi newydd yn ymateb i raddfa ac ymddangosiad Fictoraidd, a byddant yn ddeniadol ac yn effeithlon o ran ynni, a byddant yn hawdd i'w gweithredu ac yn gyfleus.

Bydd cael gwared ar stoc dai is safonol ac adeiladu eiddo sydd yn bensaernïol sylweddol mewn modd sensitif yn Stryd Edward Henry yn gwella safon gorllewin y Rhyl, yn darparu gosodiad mewnol ac allanol gwell, ac o bosibl yn cyflwyno gerddi, cyfleusterau parcio a storio gwastraff o fewn cwrtil yr eiddo.

Stryd Edward Henry, Y Rhyl

Mae Cyngor Sir Ddinbych wrthi'n gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Thai ClwydAlun (gwefan allanol) sydd yn arwain y prosiect.