Adfywio'r Rhyl

Mae’r Rhyl yn newid. Byddwch yn rhan o’i dyfodol. 

Gwasanaethau a gwybodaeth

Bwrdd Cymdogaeth y Rhyl

Sefydlwyd Bwrdd Cymdogaeth y Rhyl i ddatblygu gweledigaeth hirdymor ar gyfer cyllid sy'n deillio o Gynllun ar gyfer Cymdogaethau Llywodraeth y DU.

Prosiectau Adfywio'r Rhyl: Crynodeb

Prosiectau wedi’u cwblhau

Prosiectau adfywio y Rhyl wedi’u cwblhau

Mae’r canlynol yn brosiectau adfywio sydd wedi cael eu cwblhau yn y Rhyl ers 2018.

Adeiladau'r Frenhines

Trosolwg o’r prosiect: Prynu adeiladau i ganiatáu ar gyfer Cam 1 Neuadd y Farchnad a Gofod Digwyddiadau.

Cyllid: £3,000,000 - Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ddinbych.


Depo Gerddi Botanegol, Cam 1

Trosolwg o’r prosiect: Adeiladu swyddfa newydd ac adeilad lles.

Cyllid: £1,200,000 - Cyngor Sir Ddinbych.


Hafan Deg

Trosolwg o’r prosiect: Ailddatblygu’r Ganolfan Ddydd.

Cyllid: £100,000 - Cronfa Taliadau Cyfalaf yn ôl Disgresiwn.


Ysgol Gatholig Crist y Gair

Trosolwg o’r prosiect: Roedd y prosiect a gwblhawyd yn yr haf 2020 yn darparu adeilad ysgol newydd i ddisgyblion rhwng 3 ac 16 oed i ddisodli’r hen Ysgol Mair ac Ysgol Uwchradd Gatholig y Bendigaid Edward Jones. Cwblhawyd yr adeilad newydd ym mis Medi 2019 cyn i’r ddwy hen ysgol gael eu dymchwel a’u tirlunio i greu ardaloedd chwarae ar gyfer yr ysgol newydd yn ystod 2020.

Cyllid: £23,000,000 - Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ddinbych.


40 Ffordd Brighton

Trosolwg o’r prosiect: Trawsnewid tai amlfeddiannaeth yn fflatiau.

Cyllid: £260,000 – Cyfrif Refeniw Tai Cyngor Sir Ddinbych a Grant Tai Fforddiadwy Llywodraeth Cymru.


Hen Adeilad Swyddfa'r Post Fictoraidd

Trosolwg o’r prosiect: Prynu hen adeilad Swyddfa'r Post Fictoraidd, i ganiatáu ar gyfer ailddatblygu.

Cyllid: £110,000 - Cronfa Gyffredinol i’w dalu gan Gyfrif Refeniw Tai Cyngor Sir Ddinbych.


Hen siopau Granite a Next

Trosolwg o’r prosiect: Prynu hen eiddo Granite a Next, yn ogystal â 4 Ffordd Wellington, i ganiatáu ar gyfer ailddatblygu fel rhan o’r cynllun Byw Cyfoes.

Cyllid: £326,450 - Cyfrif Refeniw Tai Cyngor Sir Ddinbych a Thrawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.


45-47 Water Street

Trosolwg o’r prosiect: Adnewyddu i ddarparu fflatiau.

Cyllid: £490,000 - Tai Clwyd Alyn a Thrawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.


1 Ffordd y Cilgant

Trosolwg o’r prosiect: Trawsnewid lloches nos yn fflatiau.

Cyllid: £230,000 - Tai Clwyd Alyn a Thrawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.


58 Stryd Fawr

Trosolwg o’r prosiect: Prynu 58 Stryd Fawr, yr hen Holland & Barrett, i ganiatáu ar gyfer ailddatblygu.

Cyllid: £175,000 - Y Cyfrif Refeniw Tai a Thrawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.


Gofod Cydweithio Costigan’s

Trosolwg o’r prosiect: Prynu ac ailddatblygu Costigan’s yn ofod cydweithio.

Cyllid: £500,000 - Adeiladu ar gyfer y Dyfodol Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ddinbych.


123 – 125, 127-129 a 131 Stryd Fawr

Trosolwg o’r prosiect: Prynu eiddo a dymchwel 123-125 Stryd Fawr, i ganiatáu ar gyfer ailddatblygu Parc Poced Porth Canol Tref y Rhyl.

Cyllid: £425,000 - Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ddinbych.


Adeiladau'r Frenhines

Trosolwg o’r prosiect: Cam 1 Neuadd y Farchnad a Gofod Digwyddiadau.

Cyllid: £10,254,000 - Trawsnewid Trefi ac Adeiladu ar gyfer y Dyfodol Llywodraeth Cymru.


Llys Anwyl, Ffordd Churton

Trosolwg o’r prosiect: Trawsnewid bloc o swyddfeydd yn fflatiau.

Cyllid: £1,900,000 - Y Cyfrif Refeniw Tai.


Uwchraddio’r nodweddion dŵr

Trosolwg o’r prosiect: Uwchraddio ac atgyweirio 3 o nodweddion dŵr addurnol yn y Rhyl.

Cyllid: £42,000 - Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.


SC2

Trosolwg o’r prosiect: Dymchwel yr Heulfan ac adeiladu SC2.

Cyllid: £15,000,000 – Cyngor Sir Ddinbych, Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig a Chyngor Tref y Rhyl.


Rhyl Pavilion Development

Trosolwg o’r prosiect: Uwchraddio Pafiliwn y Rhyl.

Cyllid: £2,400,000 – Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ddinbych.


3-23 Stryd Edward Henry

Trosolwg o’r prosiect: Adeiladu tai newydd ar safle’r hen fflatiau.

Cyllid: Tai Clwyd Alyn a Thrawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Gwerth y prosiect: £1,050,000

Prosiectau presennol

Prosiectau adfywio presennol yny Rhyl

Mae’r prosiectau canlynol wedi sicrhau cyllid ac un ai’n cael eu hadeiladu neu’n cael eu datblygu yn barod i’w hadeiladu.


Byw Cyfoes a Siopau Annibynnol

Trosolwg o’r prosiect: Adnewyddu hen siopau Granite a Next i greu llety preswyl ar y lloriau uchaf a gofod masnachol ar y llawr gwaelod.

Cyllid: Y Cyfrif Refeniw Tai a Thrawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Gwerth y prosiect: £1,866,000


58 Stryd Fawr

Trosolwg o’r prosiect: Adnewyddu’r hen Holland & Barrett i gyd-fynd â’r Cynllun Next a Granite.

Cyllid: Y Cyfrif Refeniw Tai a Thrawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Gwerth y prosiect: £510,000


Buddsoddiad mewn Llifogydd Arfordirol yn y Rhyl / Prestatyn

Trosolwg o’r prosiect: Gwelliannau i amddiffynfeydd llifogydd arfordirol.

Cyllid: Llywodraeth Cymru.

Gwerth y prosiect: £63,000,000


Hen Adeilad Swyddfa'r Post Fictoraidd

Trosolwg o’r prosiect: Trawsnewid yn fflatiau ac adnewyddu’r unedau masnachol.

Cyllid: Y Cyfrif Refeniw Tai a Thrawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Gwerth y prosiect: £1,113,000


Gwelliannau i’r Parth Cyhoeddus yn y Gerddi Botaneg

Trosolwg o’r prosiect: Gwelliannau yn y Gerddi Botaneg.

Cyllid: Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Gwerth y prosiect: £100,000


Estyniad i Ganolfan y Dderwen, y Rhyl

Trosolwg o’r prosiect: Estyniad i Ganolfan y Dderwen i ganiatáu ar gyfer ymestyn y ddarpariaeth gofal plant a sefydlu darpariaeth Cylch Meithrin. Mae’r gwaith mewnol wedi’i gwblhau, a bydd y gwaith allanol yn cael ei gwblhau’n fuan.

Cyllid: Grant Cyfalaf Gofal Plant Llywodraeth Cymru.

Gwerth y prosiect: £1,200,000


2-16 Aquarium Street

Trosolwg o’r prosiect: Trawsnewid teras o hen dai amlfeddiannaeth yn dai.

Cyllid: Y Cyfrif Refeniw Tai a Thrawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Gwerth y prosiect: £2,600,000


Epworth Lodge, Ffordd Brighton

Trosolwg o’r prosiect: Trawsnewid hen gartref gofal yn llety brys i deuluoedd.

Cyllid: Y Cyfrif Refeniw Tai a Chynllun Digartrefedd Llywodraeth Cymru.

Gwerth y prosiect: £450,000


Hen Salon Goldilocks, 39-41 Stryd y Frenhines

Trosolwg o’r prosiect: Ailddatblygu i ddarparu fflatiau newydd.

Cyllid: Y Cyfrif Refeniw Tai a Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Gwerth y prosiect: £1,650,000


Uwchraddio’r Parth Cyhoeddus i Ganol Tref y Rhyl

Trosolwg o’r prosiect: Uwchraddio’r parth cyhoeddus, yn cynnwys gwyrddu ar draws Canol Tref y Rhyl a gwelliannau teithio llesol.

Cyllid: Cronfa Ffyniant Bro y DU.

Gwerth y prosiect: £5,500,000


Parc Poced Porth Canol Tref y Rhyl – 123-131 Stryd Fawr

Trosolwg o’r prosiect: Dymchwel, clirio’r safle ac ailddatblygu i greu mannau gwyrdd.

Cyllid: Cronfa Ffyniant Bro y DU.

Gwerth y prosiect: £900,000


Gwelliannau i Barth Cyhoeddus Adeilad y Frenhines

Trosolwg o’r prosiect: Gwella’r elfennau allanol yng Ngham 1 adeilad Marchnad y Frenhines.

Cyllid: Cronfa Ffyniant Bro y DU.

Gwerth y prosiect: £500,000


Cynllun Promenâd Canol y Rhyl

Trosolwg o’r prosiect: Symleiddio’r parêd, yn cynnwys teithio llesol a llwybrau cerdded. Cysylltu’r Dref â’r traeth a chreu Porth gyda pharth cyhoeddus naturiol a mwy gwyrdd wrth uno’r cynnig hamdden.

Cyllid: Cronfa Ffyniant Bro y DU.

Gwerth y prosiect: £4,000,000


Parth Cyhoeddus Promenâd y Rhyl

Trosolwg o’r prosiect: Gwella Promenâd y Rhyl, yn cynnwys gosod dodrefn stryd newydd.

Cyllid: Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Gwerth y prosiect: £300,000


Depo Gerddi Botanegol, Cam 2

Trosolwg o’r prosiect: Uwchraddio’r cyfleusterau storio a cherbydau presennol.

Cyllid: Cyfalaf Cyngor Sir Ddinbych

Gwerth y prosiect: £1,300,000

Prosiectau’r dyfodol

Prosiectau adfywio y Rhyl ar gyfer y dyfodol

Dydi’r prosiectau canlynol heb sicrhau cyllid eto ond mae rhywfaint o waith dichonoldeb, briff y prosiect a’r dyluniad cysyniadol wedi cael ei wneud.


Ysbyty Brenhinol Alexandra

Trosolwg o’r prosiect: Ailddatblygu safle Ysbyty Brenhinol Alexandra yn ganolbwynt gofal iechyd a lles, gan ddarparu ystod o wasanaethau wedi’u hehangu a’u hail ddylunio mewn cyfleusterau sy’n bodoli eisoes a rhai newydd.

Gwasanaeth: Mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Gwerth y prosiect: £70,000,000


Maes Emlyn

Trosolwg o’r prosiect: Ailddatblygu hen dai gwarchod i ddarparu cartrefi newydd.

Gwasanaeth: Tai a Chymunedau.


50-56, 85-90 a 91-100 Rhodfa’r Gorllewin, 1-11 John Street a 35-41 Abbey Street

Trosolwg o’r prosiect: Adeiladu cartrefi newydd wrth y lan y môr ac ar safleoedd cyfagos.

Gwasanaeth: Tai a Chymunedau.


Datblygiadau Teithio Llesol

Trosolwg o’r prosiect: Datblygu llwybrau yn cynnwys y Bont-H, Gwelliannau Parhaus y Gogledd-ddwyrain, Datblygu Llwybr Teithio Llesol Dwyrain y Rhyl, Maes y Gog.


Marina’r Rhyl

Trosolwg o’r prosiect: Dichonoldeb datblygu ynghylch marina yn harbwr y Rhyl. O Restr Hir y Grŵp Ardal Aelodau ar gyfer Ymgynghoriad Cronfa Ffyniant Bro y DU.

Syniadau Prosiect

Syniadau ar gyfer prosiect adfywio y Rhyl

Syniad Prosiect yw awgrym ar y cam hwn heb unrhyw friff prosiect diffiniedig a lle nad oes unrhyw waith dichonoldeb wedi’i wneud.


Atgyweirio a sefydlogi Llyn Morol

Trosolwg o’r prosiect: O Restr Hir y Grŵp Ardal Aelodau ar gyfer Ymgynghoriad Cronfa Ffyniant Bro y DU.


Cam 2 a 3 Marchnad y Frenhines

Trosolwg o’r prosiect: Ailddatblygu gweddill safle Marchnad y Frenhines yn y dyfodol.


Arena Ddigwyddiadau’r Rhyl

Trosolwg o’r prosiect: Wedi’i gynnwys yn Nogfen Strategaeth Tymor Canolig Cyngor Sir Ddinbych.

Gwerth y prosiect: £200,000


Wal Harbwr y Rhyl

Trosolwg o’r prosiect: Wedi’i gynnwys yn Nogfen Strategaeth Tymor Canolig Cyngor Sir Ddinbych.

Gwerth y prosiect: £1,500,000


Promenâd y Rhyl

Trosolwg o’r prosiect: Wedi’i gynnwys yn Nogfen Strategaeth Tymor Canolig Cyngor Sir Ddinbych.

Gwerth y prosiect: £100,000


Canolfan Fusnes Morfa Clwyd

Trosolwg o’r prosiect: Wedi’i gynnwys yn Nogfen Strategaeth Tymor Canolig Cyngor Sir Ddinbych.

Gwerth y prosiect: £500,000


Hen Safle Maes Parcio St Winefride, Ffordd Brighton

Trosolwg o’r prosiect: Ailddatblygu i ddarparu cartrefi newydd.

Prosiectau Arbennig

Adeiladau'r Frenhines

Mae adeiladau Marchnad y Frenhines a hen safle Gwesty'r Savoy wedi'u nodi fel prosiect catalydd allweddol wrth adfywio canol tref y Rhyl.

Byw Cyfoes a Siopau Annibynnol

Lleoedd manwerthu newydd a rhandai cyfoes ar Stryd Fawr y Rhyl.

Stryd Edward Henry

Mae'r cynllun yma wedi'i leoli yng nghanol y Rhyl ac mae'n bodloni anghenion teuluoedd yn yr ardal leol.

Canol Tref y Rhyl Gweledigaeth

Canol Tref y Rhyl Gweledigaeth

Cydweithrediad rhwng pobl â gwir ddiddordeb mewn creu dyfodol gwell i'r Rhyl.

8 syniad mawr

8 syniad mawr ar gyfer adfywio Canol Tref y Rhyl.

Cynllun Amddiffyn Arfordir Canol Y Rhyl 

Ynglŷn â Chynllun Amddiffyn Arfordir Canol Y Rhyl

Gwybodaeth ynglŷn â Chynllun Amddiffyn Arfordir Canol Y Rhyl.

Galeri

Galeri o ddelweddau a grëwyd yn ystod camau cynnar y dylunio er mwyn helpu i ddeall sut y gallai'r dewis a ffefrir ar gyfer y cynllun edrych.

Golwg fideo

Fideo sy'n dangos gwahanol olygfeydd o'r Cynllun arfaethedig i Amddiffyn Arfordir Canol Y Rhyl.

Ymweld â'r Rhyl

Ymweld â'r Rhyl

Mae'r Rhyl yn dref glan môr Brydeinig nodweddiadol.

Llwybr Sain y Rhyl (gwefan allanol)

Gallwch lawrlwytho taith gerdded sain newydd sbon y Rhyl. Mae ar gael am ddim ar yr ap izi.TRAVEL.