Canol Tref y Rhyl Gweledigaeth: Wyth Syniad Mawr

Mae'r 8 syniad mawr yn seiliedig ar y Meysydd Ffocws Allweddol, y 4 Problem Fwyaf a'r 4 Ased Mwyaf y gwnaethom siarad â mwy na 2,500 o bobl leol amdanyn nhw dros gyfnod o 12 mis yn 2018-19.

Pan wnaethom ni ail-rannu'r 8 syniad mawr ar ddechrau 2019, roedd yr adborth yn gadarnhaol iawn! Diolch i bob un a gymerodd ran yn y gwaith o lunio'r syniadau ac i'r rhai sy’n parhau i gymryd rhan yn y gwaith o'u gwneud nhw'n realiti.

1. Ailuno'r traeth a chanol y dref

Y traeth yw un o asedau gorau'r Rhyl. Bydd gwella'r berthynas rhwng y traeth a chanol y dref yn hanfodol ar gyfer llwyddiant y dref yn y dyfodol.

Glan Y Môr: Yr Egwyddorion

  • Ymestyn y Stryd Fawr yr holl ffordd i'r traeth
  • Y posibilrwydd i gynnwys tirnod neu nodwedd cyrchfan newydd ar y traeth
  • Tynnu'r bont gerdded bresennol i lawr i agor cysylltiadau gweledol â'r traeth
  • Ailgynllunio'r gylchfan a Rhodfa'r Dwyrain a’r Gorllewin i wella cysylltedd cerddwyr i'r traeth
  • Clirio The Parade
  • Cynnwys croesfannau cwrteisi yn rheolaidd i wella ac annog symudiad cerddwyr rhwng cyrchfannau glan y môr (e.e. SC2) a gweddill canol y dref
  • Lledaenu'r pafin o flaen Adeiladau’r Frenhines er mwyn annog i bobl ddod allan i'r stryd, gan greu amgylchedd bywiog a phrysur
  • Defnyddio'r arena digwyddiadau! Annog digwyddiadau cymunedol a mwy o ddefnydd o'r ased presennol hwn.
2. Ehangu'r cynnig hamdden presennol ac arallgyfeirio'r dewis o ran manwerthu a bwyd

Mae gan y Rhyl nifer o atyniadau hamdden eisoes, gan gynnwys parc dŵr SC2 newydd, sydd ar y trywydd iawn i ddenu 200,000+ o ymwelwyr ychwanegol i'r dref bob blwyddyn. Dylid ehangu ar y cynnig hamdden i greu ystod ehangach o weithgareddau hamdden poblogaidd ar gyfer pob oedran.

Bydd cynnig manwerthu a bwyd o ansawdd (defnyddio cynnyrch lleol gwych Gogledd Cymru!) gyda siopau a chaffis annibynnol, bwytai teuluol, bwyd stryd, tafarndai o ansawdd a cherddoriaeth fyw oll yn helpu i wneud canol y dref yn gyrchfan cynhwysol a chroesawgar i bawb, ac hefyd yn creu swyddi i bobl leol.

3. Creu Canol Tref brysurach drwy gydol y dydd a gyda'r nos

Bydd cyflwyno cymysgedd iach o ddefnyddiau ochr yn ochr â'r cynnig manwerthu a masnachol, gan gynnwys swyddfeydd, lle i gydweithio a datblygiad preswyl o ansawdd uchel yn helpu i sicrhau bod pobl ar y strydoedd drwy gydol y dydd ac ar bob adeg o'r flwyddyn.

Bydd hyn yn cyfrannu at nifer fwy o ymwelwyr i fasnachwyr lleol ac amgylchedd diogelach i bawb. Bydd hefyd yn helpu i wella nifer y swyddi o ansawdd da yng nghanol y dref, gan drawsnewid y Rhyl yn le bywiog a phrysur drwy'r flwyddyn.

4. Creu mannau dinesig i fod yn falch ohonynt

Rhyl deserves beautiful, functional public spaces that people want to visit and locals can be proud of. The vision places an emphasis on the Town Hall Square and the High Street as key destinations within the town centre.


Sgwâr Neuadd Y Dref

Sgwâr Neuadd y Dref ddylai fod yn galon i’r dref; lle hardd, adnabyddadwy a hygyrch sy'n dathlu pensaernïaeth neuadd y dref ac yn denu pobl i mewn.

Yr Egwyddorion:

  • Creu canolbwynt – uwchganolbwynt newydd ar gyfer y dref yn y lle cywir
  • Tacluso'r sgwâr; creu rhywbeth tebyg i lwyfan sy’n amlygu pensaernïaeth neuadd y dref
  • Ymestyn 'carped' y sgwâr at ffasadau'r adeiladau cyfagos – ystyried y gofod mewn modd cyfannol
  • Ei wneud yn adnabyddadwy a hygyrch i bawb – "beth am gwrdd yn Neuadd y Dref?"
  • Creu amgylchedd deniadol a diogel i aros / cwrdd / ymgynnull
  • Rhoi'r flaenoriaeth i gerddwyr – ystyried llif cerddwyr a llwybrau answyddogol (yn arbennig Heol Y Frenhines a Stryd y Farchnad)
  • Creu gofod hyblyg – lle gellir cynnal digwyddiadau dinesig a phethau eraill
  • Goleuo Neuadd y Dref – rhoi presenoldeb iddo bob amser dydd/nos

Y Stryd Fawr

Y Stryd Fawr yw un o'r cysylltwyr allweddol rhwng canol y dref a'r traeth, ond ar hyn o bryd mae'r berthynas hon wedi'i thorri yn lle mae’r Stryd Fawr yn cwrdd â The Parade.

Bydd ailgynllunio'r croestoriad allweddol hwn, ynghyd â gwelliannau i'r strydlun presennol yn trawsnewid y stryd fawr yn gyrchfan brysur i ymfalchïo ynddo.

Yr Egwyddorion:

  • Ail-gysylltu â'r traeth
  • Tacluso
  • Gwneud y strydoedd yn fwy gwyrdd – cyflwyno coed stryd lle y bo'n bosibl
  • Archwilio'r posibilrwydd o ail-gyflwyno traffig unffordd tuag at glan y môr
  • Ystyried creu stryd gytbwys gyda cherbytffordd gul, palmantau llydan a chroesfannau cwrteisi bob hyn a hyn
  • Annog siopau a chaffis i ddod allan i'r stryd gan greu amgylchedd bywiog a phrysur
  • Darparu mannau parcio ar y stryd a mannau llwytho
  • Palet deunyddiau syml ac o ansawdd uchel
  • Cyflwyno datblygiad preswyl o safon uchel uwchben unedau manwerthu
5. Creu mannau gwych i dreulio amser ynddynt, beth bynnag fo'r tywydd

Boed law neu hindda, mae angen lleoedd deniadol a chysgodol ar y Rhyl i bobl dreulio amser ynddynt. Byddai gwella strydoedd cysgodol y dwyrain i'r gorllewin, creu iardiau newydd deniadol a lleoedd dan do clyd yn annog pobl i aros yng nghanol y dref, hyd yn oed yng nghanol tywydd gwaethaf Prydain Fawr!

Sussex Street, Cornel Heol Y Frenhines a Stryd y Farchnad: Yr Egwyddorion

  • Tacluso
  • Llwybr blaenoriaeth i gerddwyr gydag arwyneb cyson o ffasâd i ffasâd
  • Llwybr unffordd i gerbydau gwasanaeth
  • Manteisio ar yr amgylchedd cysgodol (y ffasâd sy'n wynebu tua'r de yn y farchnad) – cyflwyno coed ac annog pobl i aros a threulio amser yma
  • Annog pobl sy’n defnyddio Adeiladau'r Frenhines a'r cyffiniau i ddod allan ar y stryd
  • Cynnal stondinau dros dro / marchnadoedd stryd ac ati
  • Potensial ar gyfer golau catena i greu amgylchedd nos deniadol
  • Creu pwynt nodol allweddol ar groesffordd Stryd Sussex a Stryd y Frenhines – cerbytffordd gul a phalmant llydan i greu gofod ar y pedwar cornel
  • Defnyddio goleuadau i amlygu'r pedair cornel siamffrog

Cornel Stryd Sussex A Stryd Y Frenhines


Iard Adeiladau'r Frenhines


6. Trawsnewid Adeiladau'r Frenhines yn ased cymunedol bywiog

Mae Adeiladau'r Frenhines yn brosiect catalydd allweddol wrth adfywio canol y dref. Ar hyn o bryd, mae'r cynigion yn cynnwys marchnad gyfoes yng nghanol y safle ynghyd â chymysgedd o allfeydd manwerthu a bwyd o ansawdd uchel, swyddfeydd, fflatiau ac iard agored.

Bydd y datblygiad newydd yn denu mwy o ymwelwyr i ganol y dref ac yn gweithredu fel cysylltydd allweddol, gan roi gwell hygyrchedd a symudiad rhwng glan y môr a chanol y dref. Mae’r prosiect yn amodol ar gymeradwyaeth cynllunio ac ymgynghoriad cyhoeddus pellach.

7. Ei wneud yn gyrchfan i bobl leol...daw'r twristiaid i'w canlyn

Canolbwyntio ar y gymuned leol i ddechrau. Pobl leol yw anadl einioes canol trefi ac mae cyfle gwych i'w hail-ymgysylltu i dreulio amser ac arian yng nghanol y dref trwy ddarparu'r cynnig cywir.

Bydd canol tref sy'n darparu ar gyfer y bobl leol yn cael ei defnyddio drwy'r flwyddyn, a daw ymwelwyr o bell ac agos i'w canlyn yn fuan iawn.

8. Creu cyfleoedd i'r gymuned leol siapio canol eu tref a bod yn uchelgeisiol

Mae hyn yn bwysig iawn i ni. Mae'n ymwneud â sut y caiff y Weledigaeth ei darparu a gan bwy.

Grymuso pobl a busnesau lleol i gymryd perchnogaeth o ganol eu tref yw un o'r ffyrdd gorau i sicrhau parch, gwytnwch a hunaniaeth mewn tref. Trwy ddarparu cyfleoedd i'r gymuned leol siapio canol tref y Rhyl, y gobaith yw y bydd ymdeimlad o falchder a phwrpas yn dod i'r amlwg, gan gyfrannu at wneud canol y dref yn fwy croesawgar ac, yn ei dro, denu buddsoddiad, twristiaid a siopwyr.

Credwn y bydd presenoldeb yr Ardal Gwella Busnes a Swyddfeydd Cyngor y Dref yng nghanol y dref, ynghyd â gwelededd y Ganolfan Dechnoleg wrth yr orsaf yn helpu i godi dyheadau a chyflawni camau gweithredu lleol sy'n dechrau trawsnewid canfyddiadau pobl o'r lle.

Os hoffech chi ofyn am gopi PDF o'r Weledigaeth, anfonwch e-bost atom ni ar econ.dev@sirddinbych.gov.uk.