Sut luniwyd Cynllun Creu Lleoedd y Rhyl
Lluniwyd Cynllun Creu Lleoedd y Rhyl o ymdrech gydweithredol rhwng pobl o gefndiroedd cyhoeddus, preifat a chymunedol sydd â gwir ddiddordeb mewn creu dyfodol gwell i'r Rhyl.
Mae'r broses o ddatblygu'r Cynllun Creu Lleoedd y Rhyl wedi cydlynu ac egluro pwrpas yr ymdrechion i gefnogi dyfodol tymor hir mwy disglair i'r dref, a bwriedir i Gynllun Creu Lleoedd y Rhyl gael ei defnyddio fel pwynt cyfeirio cyson ar gyfer y rhai sy'n gwneud penderfyniadau, datblygwyr a buddsoddwyr a fydd yn cyflymu'r broses adfywio yn y dref.
Lluniwyd Cynllun Creu Lleoedd y Rhyl yn wreiddiol yn 2019, ond mae bellach wedi’i diweddaru i adlewyrchu Siarter Creu Lleoedd Cymru a chadw at ofynion Cynllun Creu Lleoedd.
Mae'n anfon neges glir i drigolion a'r byd ehangach bod hyder a chanfyddiadau mewn perthynas â Chanol Tref y Rhyl yn newid - ac yn parhau i newid - er gwell.
Datganiad Cynllun Creu Lleoedd y Rhyl
"Tref glan môr modern, nodedig, sy'n diwallu anghenion ei chymuned, ac yn rhoi rheswm i bobl o'r Rhyl a thu hwnt ymweld â hi."
