Cynllun Amddiffyn Arfordir Canol Y Rhyl: Cwestiynau Cyffredin

Pam mae’r gwaith yma’n cael ei gwblhau?

Pam mae’r gwaith yma’n cael ei gwblhau?

Mae ardal Canol y Rhyl wedi'i diogelu ar hyn o bryd gan strwythurau amddiffyn rhag y môr. Fodd bynnag, mae'r rhain yn dirywio a heb waith atgyweirio, gallent fethu o fewn y 10-15 mlynedd nesaf. Ar hyn o bryd, rhagwelir y bydd 548 eiddo preswyl a 44 eiddo dibreswyl mewn perygl o lifogydd.

Ddeng mlynedd yn ôl, dioddefodd y Rhyl lifogydd difrifol arweiniodd at wagio 400 o gartrefi gyda llawer o drigolion yn cael eu cludo o'u cartrefi gan griwiau bad achub. Pwrpas y cynllun yw gwella amddiffynfeydd llifogydd arfordirol yng Nghanol y Rhyl er mwyn amddiffyn cartrefi, busnesau a'r economi dwristiaeth rhag llifogydd ac erydu arfordirol ymhell i'r dyfodol.

Pam mae'n rhaid cau'r ardal rhwng Butterton Road a John Street os mai dim ond yn John Street y mae'r gwaith yn dechrau?

Pam mae'n rhaid cau'r ardal rhwng Butterton Road a John Street os mai dim ond yn John Street y mae'r gwaith yn dechrau?

Mae'r wal gynnal newydd yn dechrau ar y promenâd ger John Street, fodd bynnag bydd gwaith gwella'n cael ei wneud i'r promenâd i'r gorllewin o John Street hefyd, i uwchraddio'r amddiffynfeydd môr yno.

Pa mor hir fydd y cynllun yn ei gymryd? A fydd yr ardal gyfan ar gau am yr amser hwn?

Pa mor hir fydd y cynllun yn ei gymryd? A fydd yr ardal gyfan ar gau am yr amser hwn?

Mae'r cynllun wedi'i amserlennu i redeg am dros ddwy flynedd gan ddechrau ddiwedd Ebrill 2023. Disgwylir i’r holl waith gael ei gwblhau erbyn diwedd 2025.

Mae hwn yn brosiect arwyddocaol sydd, yn y Rhan Orllewinol (rhwng John Street a SeaQuarium) yn golygu dymchwel a thynnu’r hen bromenâd a morgloddiau, lledu a hefyd codi’r promenâd newydd i ddarparu gofod gwell ar gyfer cerddwyr a beicwyr. Bydd gan yr adran hon hefyd wal gynnal newydd gyda grisiau concrit. Mae'r gwaith sylweddol yma’n golygu y bydd y Rhan Orllewinol hon ar gau drwy gydol y cynllun.

Mae'r Rhan Ddwyreiniol yn rhedeg o SeaQuarium i Splash Point. Bydd hyn yn bennaf yn cynnwys amddiffyniad sgwrio craig i sylfeini'r amddiffynfeydd presennol, ynghyd ag atgyweiriadau concrit lle bo angen. Mae natur y gwaith yn golygu y bydd rhai rhannau o'r promenâd Dwyreiniol ar gau dros dro yn ôl yr angen.

Pam fod maes parcio Stryd y Cei yn cael ei gau?

Pam fod maes parcio Stryd y Cei yn cael ei gau?

Mae’n cael ei gau gan y caiff ei ddefnyddio fel safle i storio deunyddiau ar gyfer y cynllun.

Gan y bydd maes parcio Stryd y Cei ar gau, ble arall gallaf i barcio?

Gan y bydd maes parcio Stryd y Cei ar gau, ble arall gallaf i barcio?

Os ydych yn chwilio am faes parcio, dyma nifer o feysydd parcio eraill yn agos at Stryd y Cei, glan y môr yn y Rhyl ac yng nghanol y dref.

Dyma restr ohonynt, gan ddechrau gyda’r maes parcio agosaf at Stryd y Cei.

  • Promenâd y Rhyl – parcio ar y ffordd
  • Maes Parcio Canolog y Rhyl, Rhodfa'r Gorllewin
  • Maes Parcio Tŵr Awyr, Rhodfa'r Gorllewin
  • Maes Parcio Neuadd y Dref, Ffordd Wellington
  • Maes Parcio West Kinmel Street
  • Maes Parcio Theatr y Pafiliwn y Rhyl, Rhodfa’r Dwyrain
  • Maes Parcio Morley Road

Gweld hefyd: Meysydd parcio'r cyngor

A allaf gerdded fy nghi ar y traeth o hyd?

A allaf gerdded fy nghi ar y traeth o hyd?

Gallwch, ond sylwch, rhwng Mai 1 a Medi 30, dim ond ar rai rhannau o draeth y Rhyl y caniateir cŵn. Mae arwyddion clir yn dangos hyn.

Ni fydd y gwaith yn effeithio ar fynediad i ardaloedd lle caniateir cŵn – h.y., y traeth i'r dwyrain o Old Golf Road. Gallwch fynd â'ch cŵn am dro yma.

Fodd bynnag, i'r gorllewin o Old Golf Road, hyd at yr Harbwr, ni chaniateir cŵn ar draeth y Rhyl.

Oherwydd gwaith Cynllun Amddiffyn Arfordir Prestatyn, bydd y promenâd rhwng Ffordd Garford yn y Rhyl a'r Twyni Tywod ym Mhrestatyn ar gau. Fodd bynnag, bydd y traeth sy'n ffinio â'r ardal hon yn dal ar agor i gerddwyr a cherddwyr cŵn.

Ar rai adegau, mae gwaith adeiladu yn golygu bod angen gwneud gwaith ar y traeth. Pan fydd hyn yn digwydd bydd marsialiaid traeth yn sicrhau mynediad diogel.

Ydy'r traeth yn dal ar agor?

Ydy'r traeth yn dal ar agor?

Bydd y traeth ar agor drwy gydol y gwaith hwn. Bydd rhai pwyntiau mynediad i'r traeth ar gau oherwydd y cynllun, a bydd arwyddion clir ar gyfer y rhai sy'n parhau ar agor. Ar rai adegau, mae gwaith adeiladu yn golygu bod angen gwneud gwaith ar y traeth. Pan fydd hyn yn digwydd bydd marsialiaid traeth yn sicrhau mynediad diogel.

Ble mae cerddwyr yn mynd i gerdded?

Ble mae cerddwyr yn mynd i gerdded?

Bydd cerddwyr yn cael eu cyfeirio oddi wrth y gwaith adeiladu tuag at y palmant ger Rhodfa'r Gorllewin. Bydd hyn yn mynd â nhw heibio SC2, Sinema Vue a Phentref y Plant. Yna byddant yn gallu cael mynediad i'r promenâd presennol i'r dwyrain o SeaQuarium.

A fydd Sioe Awyr y Rhyl yn cael ei heffeithio?

A fydd Sioe Awyr y Rhyl yn cael ei heffeithio?

Bydd Sioe Awyr y Rhyl yn mynd yn ei blaen ar y 26ain a'r 27ain o Awst 2023. Mae hwn yn un o brif ddigwyddiadau glan y môr rhad ac am ddim gogledd Cymru a bydd mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Hamdden Sir Ddinbych ac ar wefan Cyngor Sir Ddinbych yn ogystal ag ar ein cyfryngau cymdeithasol yn nes at yr amser.

Sioe Awyr y Rhyl: Gwefan swyddogol (gwefan allanol)

A fydd cyngerdd Arena Digwyddiadau am ddim eleni?

A fydd cyngerdd Arena Digwyddiadau am ddim eleni?

Fe fydd digwyddiad yn Arena Rhyl yr haf yma. Bydd mwy o wybodaeth maes o law.

Arena Digwyddiadau'r Rhyl: Digwyddiadau (gwefan allanol)

A fydd achubwyr bywyd ar y prom o hyd?

A fydd achubwyr bywyd ar y prom o hyd?

Bydd achubwyr bywyd yn dal i fod ar ddyletswydd ar draeth y Rhyl yn ystod yr amseroedd canlynol:

27 Mai i 4 Mehefin

  • 7 diwrnod yr wythnos
  • 10am i 6pm

10 Mehefin i 25 Mehefin

  • Penwythnosau yn unig
  • 10am i 6pm

1 Gorffennaf i 3 Medi

  • 7 diwrnod yr wythnos
  • 10am i 6pm

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am draethau'r Rhyl ar wefan Cyngor Sir Ddinbych.

A fydd yn effeithio ar yr RNLI?

A fydd yn effeithio ar yr RNLI?

Na – bydd yr RNLI yn dal i fod yn weithredol ar draethau'r Rhyl a Phrestatyn.

Pa ran o'r promenâd sydd ar gau i gerddwyr?

Pa ran o'r promenâd sydd ar gau i gerddwyr?

Bydd Promenâd y Gorllewin o Butterton Road a’r ardal sy’n agos at y Maes Parcio Canolog ar gau yn fuan ar ôl y Pasg ac am gyfnod y gwaith. Mae'r llun isod yn dangos yr ardal yr effeithiwyd arni.

Tra bydd y promenâd ei hun ar gau, bydd y traeth ar agor, a bydd pob busnes ac atyniad ar lan y môr hefyd ar agor.

Promenâd y Gorllewin, Y Rhyl

A fydd unrhyw rannau eraill o’r promenâd ar gau yn y misoedd nesaf?

A fydd unrhyw rannau eraill o’r promenâd ar gau yn y misoedd nesaf?

Bydd rhan o'r promenâd rhwng Old Golf Road a maes parcio'r Pafiliwn ar gau dros dro er mwyn galluogi gwaith i gael mynediad i'r traeth.

A fydd yn effeithio ar lwybrau beicio?

A fydd yn effeithio ar lwybrau beicio?

Bydd mynediad i'r llwybr beicio ar gau rhwng Butterton Road a'r Maes Parcio Canolog. Bydd beicwyr yn cael eu dargyfeirio o'r ardal adeiladu i lwybr ag arwyddion clir.

Pa atyniadau fydd ar agor?

Pa atyniadau fydd ar agor?

Bydd yr holl atyniadau a busnesau ar agor fel arfer gan gynnwys Crazy Golf, Sinema Vue, SC2, Pentref y Plant, SeaQuarium, Kite Surf Cafe, Parc Chwarae Geronimo, Pafiliwn y Rhyl a’r teras y tu allan, bwyty 1891, Arena Digwyddiadau’r Rhyl yn ogystal â’r arcedau difyrion.