Meysydd parcio'r cyngor

Gallwch barcio am ddim yn rhai o’n meysydd parcio ar ôl 3pm o 23 Tachwedd tan 31 Rhagfyr 2026.

Mae ein menter ‘Am Ddim ar ôl 3’ yn annog mwy o bobl i ddefnyddio eu stryd fawr leol i siopa ar gyfer y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. Yn ychwanegol, fe fydd rhai Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned yn cynnig parcio am ddim drwy’r dydd ar ddyddiadau penodol.

Dysgwch fwy am barcio dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.